Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Felly, rwyf wedi cael llai na—gadewch inni weld, dydd Iau, dydd Gwener—. Wel, prynhawn Mercher y gwelais i'r canlyniadau cychwynnol ac yna fe gefais i'r adroddiad ddydd Iau, felly dim ond ychydig ddyddiau a gefais i ddod yn gyfarwydd ag ef.
Ond rydym wedi gweld yr OECD yn ôl yng Nghymru yn gynharach yn nhymor yr hydref i roi asesiad annibynnol i ni, unwaith eto, o'n sefyllfa bresennol o ran ein taith ddiwygio ni, ac maen nhw'n gobeithio adrodd am hynny rywbryd yn y flwyddyn newydd. Felly, unwaith eto, rydym wedi eu comisiynu nhw, rydym wedi gofyn iddyn nhw ddod i mewn i gael golwg ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a chraffu arnom ni fel Llywodraeth; mynd allan i ysgolion a siarad â phenaethiaid; siarad ag awdurdodau addysg lleol; siarad â gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol i ofyn iddyn nhw fynegi eu sefyllfa bresennol nhw; a siarad â rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr adroddiad annibynnol hwn yn cael ei gyflwyno i ni, fel y dywedais i, yn y flwyddyn newydd. Ac mae honno'n ymdrech ddiffuant i gadw'r pwysau arnom, i gael craffu annibynol yn edrych fel hyn o'r tu allan ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel nad ydym yn mynd dros ben llestri, neu'n mynd yn rhy hyderus yn ein gallu ni ein hunain. Mae'r craffu hwnnw o'r tu allan yn ein cadw ni'n ddiffuant o ran cyflawniad ein rhaglenni ni, ac yna rydym yn defnyddio'r cyngor hwnnw i ddiwygio neu addasu pethau sy'n gweithio'n dda, neu os nad yw pethau'n gweithio cystal, i allu ymateb yn unol â hynny. Felly, fe ddaw hynny yn y flwyddyn newydd.
Roeddech chi'n sôn am fater y llwybr, ac rwyf i'n credu bod y llwybr yn bwysig. Yr hyn sy'n rhoi rhywfaint o foddhad i mi heddiw yw ein bod ni wedi gallu cynnal, dros ddau gylch erbyn hyn, y gwelliant hwnnw o ran mathemateg, a dyna'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yn y meysydd eraill hefyd. Er ein bod ni ar i fyny gyda darllen, mae hynny o'i gymharu â'r gwaelod isel yr oeddem ni arno'r tro diwethaf, ac er ein bod wedi codi mewn gwyddoniaeth, sy'n wahanol i weddill y DU, unwaith eto, mae hynny o sylfaen isel iawn. Dyma'r tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd, inni allu gwella ein sgôr mewn gwyddoniaeth, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gynaliadwy. Rydym wedi gweld hynny dros ddau gylch erbyn hyn ar gyfer mathemateg, sy'n gallu rhoi mwy o hyder inni, yn fy marn i, ac fe fydd yn rhaid inni weld hynny'n parhau yn y ddau faes arall hefyd.
O ran tegwch a rhagoriaeth, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig dwyn i gof bod y bwlch anfantais yng Nghymru yn sylweddol is, a bod disgyblion yng Nghymru yn gymharol fwy galluog i oresgyn anfanteision eu cefndir nhw nag yng nghyfartaledd gwledydd yr OECD. Felly, rydym ni'n cau'r bwlch cyrhaeddiad, ac rydym yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc a'r offerynnau sydd eu hangen arnyn nhw i oresgyn anfantais y gallen nhw eu cludo gyda nhw i'r system. Yr hyn sy'n bwysig hefyd yw nad oedd disgyblion yng Nghymru sydd o gefndir mewnfudol yn wahanol iawn i ddisgyblion nad ydyn nhw'n fewnfudwyr o ran eu perfformiad darllen sydd, unwaith eto, yn uwch na chyfartaledd yr OECD. Felly, o ran dysgwyr a allai wynebu amrywiaeth o heriau wrth ymuno â'r ysgol, boed hynny o bosib o deulu nad yw'n siarad Cymraeg neu Saesneg, neu'n dod o deulu difreintiedig yn gymdeithasol, mae ein system ni'n helpu'r plant hynny i wneud yn dda.
Ond a yw hynny'n golygu bod tensiwn rhwng ein cefnogaeth ni i ddisgyblion mwy galluog a thalentog o'i gymharu â'n cefnogaeth ni i'n myfyrwyr o gefndir mwy difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol? Nid wyf i'n credu bod tensiwn yno. Ni all y Llywodraeth anwybyddu unrhyw un. Mae'n rhaid i'r system addysg fod yn system sy'n gweithio i bob disgybl unigol i'w alluogi i gyrraedd ei lawn botensial, boed yn ddisgybl ag anghenion dysgu ychwanegol dwys, fel y gwelais i yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yng Nghaerffili ddoe, neu'n ddisgyblion fel y rhai y gwnes i gyfarfod â nhw heddiw sydd ar eu ffordd i brifysgolion byd enwog. Mae'n rhaid creu system addysg sy'n caniatáu i bob unigolyn gyrraedd ei lawn botensial.
Ni wnaf i ymddiheuro byth am y buddsoddiad yn y grant datblygu disgyblion. Fe wyddom ni fod y plant hynny'n llai tebygol o wneud yn dda, ac nid wyf i'n dymuno byw mewn gwlad lle mae maint cyflog eich rhieni neu gefndir eich bywyd chi'n eich dynodi ac yn dweud wrthoch chi o'r crud, 'Dyma yw eich tynged chi.' Mae'n rhaid atal hynny. Mae'n rhaid rhoi cyfle i alluoedd cynhenid pob plentyn ddisgleirio, heb ystyried eu cefndiroedd—heb ystyried eu cefndiroedd nhw. Ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro byth am fynd ar ôl y freuddwyd honno i'r plant hynny.
O ran darllen, rydych chi'n iawn; nid ydym mewn sefyllfa dderbyniol o ran ein sgoriau darllen, ac mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer ein bechgyn. Fe fydd angen inni ystyried ein perfformiad a deall beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau cynnydd yn hyn o beth. O ran darllen i ferched, mae eu sgôr nhw'n sylweddol uwch, ond mae gennym ni—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef hynny—her yn y fan hon, yn enwedig o ran y bechgyn, i godi'r lefel ddarllen hon. Cafwyd llawer o adroddiadau ar y ffigur o 44 y cant o bobl nad ydyn nhw'n darllen llyfrau. Nawr, nid wyf i'n gwybod a yw'n rhy hwyr yn hynny o beth, ond gwn y gellir olrhain hyn i'r blynyddoedd cynnar, a datblygu arferion darllen yn gynnar yng ngyrfa addysgol y plentyn, a datblygu cariad at ddarllen. Mae'n rhaid inni ennyn y diddordeb hwn o oedran cynnar. Mae troi'n sydyn at blentyn 15 oed—ac yn fam i blentyn 15 oed, rwy'n gwybod hyn—a dweud, 'Mae'n rhaid iti ddarllen y llyfr hwn' yn annhebygol o wneud llawer o ddaioni. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar hynny eto yn ein blynyddoedd cynharaf a datblygu'r cariad at ddarllen a'r arfer o ddarllen. Ac, wrth gwrs, mae llawer iawn o waith i'w wneud gan y rhieni. Gall rhieni ein helpu ni'n aruthrol, a helpu ysgolion yn fawr iawn, drwy ddarllen gyda'u plant yn y cartref o oedran cynnar i wneud y plant yn gyfarwydd â'r arfer hwnnw o godi llyfr a chael difyrrwch o'i ddarllen. Ond mae'n rhaid cofleidio technoleg newydd hefyd. Efallai y gwnaiff pobl ifanc—rydym ni'n fwy tebygol o'u denu nhw i gymryd rhan mewn byd o eiriau os rhown wahanol ddewisiadau iddyn nhw, ond mae gennym ni waith i'w wneud eto yn hyn o beth, a fi a fyddai'r person cyntaf i gyfaddef ein bod ni'n is na'r DU o ran ein sgoriau darllen.