Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Hoffwn innau dalu teyrnged i ddisgyblion Cymru am eu holl waith caled, yn ogystal â diolch i'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd, ond mae'n rhaid defnyddio'r data'n ddoeth, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddadansoddi'r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf ac i weld beth ydy barn arbenigwyr addysgol ar y canlyniadau diweddaraf yma.