Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Mae yna gynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes—mathemateg, gwyddoniaeth a darllen—ers 2015, sy'n galonogol. O'i gymharu â 2006, cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio bod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 a dim ond megis ailgydio yn sefyllfa 2006 ydym ni rŵan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau fod nôl ar y trywydd cywir wedi cyfnod maith o ddirywiad, ond mae hi'n ddyddiau cynnar ac mae'r her yn fawr.
Fy nghwestiwn cyntaf i felly ydy: pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni yn cyrraedd 500 pwynt erbyn 2021? Dwi'n falch iawn o'ch clywed chi heddiw'n cadarnhau bod y targed yna yn dal yna, ond pa mor hyderus ydych chi y byddwn ni'n ei gyrraedd o a beth ydy'ch blaenoriaethau chi ynglŷn â'r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn bod yn y sefyllfa yna yn 2021? Achos mae'n amlwg bod angen parhau efo'r cynnydd bychan yma sydd wedi digwydd rŵan ers 2015, ond mae hi yn gyfnod o newid anferth yn ein system addysg ni, ac mae'r cwricwlwm newydd angen cael cyfle i wreiddio, ac mae angen darparu adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol ein staff ni.
Mae'n fy mhryderu i ei bod hi'n ymddangos bod yna anghysondeb mawr ar draws Cymru o safbwynt sut mae athrawon yn ymgymryd â her y cwricwlwm newydd. Dwi'n sôn am astudiaeth mae Prifysgol Caerdydd wedi'i gwneud, sy'n dangos nad yw bron i 40 y cant o athrawon mewn ysgolion arloesi yn teimlo eu bod nhw'n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm. Rŵan, dwi'n sôn am 40 y cant mewn ysgolion arloesi; mae'n debyg bod y ffigur yn dipyn is mewn ysgolion sydd ddim yn rhan o'r gyfundrefn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod anghysondeb fel yna—mae angen cael gwared ohono fo. Felly, fy ail gwestiwn i ydy: beth ydy'r cynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod athrawon ymhob ysgol yn rhan o'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd?
Ar ben y gwaith cwricwlwm, mae trefniadau asesu a'r systemau atebolrwydd yn newid, ac yn gefndir i hyn oll mae problemau recriwtio athrawon, ac mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd. Ac yn ogystal â'r uchelgais o gyrraedd y 500, y targed yma, yn amlwg hefyd—. A dwi'n rhannu'r uchelgais ac yn hyderus bod angen inni fod efo'r uchelgais yna, ond does bosib bod angen chwistrelliad o arian cyson i ysgolion erbyn hyn ac mae angen gwella amodau gwaith athrawon. Mae angen i athrawon fedru neilltuo eu hamser i addysgu ac ysbrydoli ein disgyblion ni, ac mae angen gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i ddarpar athrawon, gan arwain at recriwtio mwy i mewn i'n hysgolion ni.
Mi ydym ni fel plaid wedi addo darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn tuag at gyllido ein hysgolion ni yn sgil y gostyngiad o 8 y cant mewn termau real o wariant sydd wedi digwydd, ac, er bod rhywun yn gwybod am sefyllfaoedd fel Estonia ac yn y blaen, mae'r athrawon yn dweud wrthym ni fod y pwysau ariannol maen nhw'n eu hwynebu yn llesteirio eu gwaith nhw. Rydym ni'n gwybod bod llawer gormod o'n hathrawon mwyaf profiadol ni yn gorfod cael eu diswyddo wrth i ysgolion orfod gweithredu ar lai a llai o arian yn sgil toriadau. Ac mae hynny wedyn yn arwain at nifer fawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol, a gwaith bugeiliol yn cael ei esgeuluso a'i dorri.
A dwi'n troi at y pwynt olaf yna wrth gloi. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch llesiant disgyblion. Mae hyn yn bryderus. Maen nhw'n adrodd am lefelau o ddiflastod a phryder sy'n uwch na'r cyfartaledd rhyngwladol. Hoffwn i gael eich ymateb chi i hynny, a beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch o. Mae'r comisiynydd plant, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi bod yn tynnu sylw at y broblem llesiant yn benodol ers tipyn o amser rŵan, ond mae'n ymddangos bod y cynnydd yn araf, a hoffwn weld os oes gennych chi gynlluniau penodol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma ynghylch llesiant disgyblion. Diolch.