Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gweithlu'r GIG y mae ei angen arnom i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl sy'n cael gofal. Rydym yn cyflawni hyn drwy gael mwy o leoedd hyfforddi, drwy annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa fel gweithiwr iechyd proffesiynol, a chefnogi recriwtio drwy ein hymgyrch farchnata lwyddiannus, 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' Mae'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn parhau i farchnata gyrfaoedd gofal iechyd GIG Cymru ynghyd â'r cyfleoedd ffordd o fyw sydd ar gael yng Nghymru. Mae hynny wedi'i farchnata o fewn y DU ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel ymgyrch yn canolbwyntio ar hyrwyddo manteision gweithio yn feddyg teulu yng Nghymru, dros y tair blynedd diwethaf, wedi ehangu i gynnwys amrywiaeth o broffesiynau allweddol eraill—nyrsio, seiciatreg, fferylliaeth ac yn fwyaf diweddar, bydwreigiaeth. Mae'r ymgyrch yn creu darlun cadarnhaol o Gymru a'r hyn y gallwn ei gynnig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Eleni, roeddwn yn bresennol fy hun yng nghynadleddau y Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, gan weld drosof fy hun yr ymateb cadarnhaol i'n presenoldeb yn y digwyddiadau mawr hyn a'r diddordeb a ddeilliodd o hynny. Y flwyddyn nesa bydd arddangosfa am yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn nigwyddiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol yn rhan o flwyddyn ryngwladol y nyrs a'r fydwraig. O ran digwyddiad y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol, bydd yn digwydd am y tro cyntaf yma yng Nghymru. Bu'r ymgyrch yn allweddol hefyd wrth sefydlu cysylltiadau â systemau gofal iechyd y tu allan i'r DU, ac mae gwaith ar y gweill i ddatblygu dull cydgysylltiedig o recriwtio nyrsys yn rhyngwladol.
Mae hyfforddi meddygon teulu wedi parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i'r ymgyrch. Yn dilyn y llwyddiant sylweddol a fu wrth lenwi lleoedd ers 2016, cytunais ar gynnydd yn y dyraniad llinell sylfaen o 136 i 160 o leoedd, gan ddechrau'r hydref hwn. Mae hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflwyno'r gweithlu sydd ei angen arnom yn dilyn y lefelau uchaf erioed o feddygon yn dewis Cymru ar gyfer eu hyfforddiant meddyg teulu.
Eleni llwyddwyd i gyrraedd y gyfradd lenwi uchaf erioed, gan lenwi 186 o leoedd o ddyraniad o 160, gan ragori ar y dyraniad newydd hwnnw hyd yn oed, gyda phob cynllun hyfforddi ledled Cymru yn llenwi hyd at gapasiti, gan gynnwys yr ardaloedd hynny a oedd yn anodd recriwtio ar eu cyfer yn hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynllun Sir Benfro, a oedd â chyfradd llenwi o sero mor ddiweddar â 2016. Eleni, yn dilyn pob rownd recriwtio, mae Sir Benfro bellach wedi llenwi saith lle. Llenwodd y tri chynllun yn y gogledd 28 o leoedd o'u dyraniad targed cychwynnol o 22 lle.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi nifer cynyddol bobl sydd eisiau hyfforddi i fod yn feddygon teulu, gyda'r bwriad o ehangu'r cynlluniau hyfforddi ymhellach dros y ddwy flynedd nesaf. Cyflawnwyd y gwelliant parhaus yn y sefyllfa recriwtio drwy osod targedau realistig ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni ac ymestyn ein huchelgais bob yn dipyn wrth i'r system ddatblygu'r gallu i gyflenwi'r niferoedd ychwanegol hynny.
Mae'r ymgyrch hefyd wedi hybu arbenigeddau meddygol eraill sydd wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau llenwi. Mae'r gyfradd lenwi ar gyfer hyfforddiant seiciatreg graidd wedi cynyddu o ddim ond 33 y cant i 100 y cant mewn dwy flynedd. Mae hynny'n ganlyniad cadarnhaol arall. Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd sy'n parhau, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein gweithlu yn y GIG, sy'n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Am y chweched flwyddyn yn olynol, bydd cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cynyddu. Gwneuthum y penderfyniad i fuddsoddi £127.8 miliwn yn 2020-1. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd blynyddol o 13 y cant, gyda £16.4 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys £1.4 miliwn ar gyfer 47 o leoedd hyfforddi ôl-raddedig meddygol ychwanegol. Mae hynny'n golygu, ers 2014, bod nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys wedi cynyddu 89 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i fydwragedd wedi cynyddu 71 y cant, bod nifer y lleoedd hyfforddi i ffisiotherapyddion wedi cynyddu 71 y cant hefyd, a bod lleoedd hyfforddiant radiograffeg wedi cynyddu 57 y cant.
Dyma'r lefel uchaf erioed o gyllid a bydd yn cefnogi'r nifer mwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae'n cynyddu gallu ein gweithlu i helpu'r GIG i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu yn awr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch o record y Llywodraeth hon o ran buddsoddi. Yn nannedd degawd o gyni, mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, a'r cyfan wedi'i anelu at atal a gofalu am bobl ym mhob un cymuned yma yng Nghymru.
Yn ogystal â recriwtio a hyfforddi, mae cadw'r gweithlu presennol yn allweddol i sicrhau gweithlu medrus a chynaliadwy. Dyna pam roedd lles staff yn ganolog i'n gweledigaeth a nodwyd yn 'Cymru Iachach' a bydd yn rhan o strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf fy mod yn ymestyn bwrsariaeth GIG Cymru tan 2023. Bydd y fwrsariaeth ar gael ar gyfer dwy garfan ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021-22 a 2022-23. Bydd ar gael i nyrsys a bydwragedd, ond, yn wahanol i'r Alban, byddwn yn parhau i ddarparu'r fwrsariaeth i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi eglurder ynghylch trefniadau bwrsariaeth ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf i fyfyrwyr a darparwyr.
Mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'n cenhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob cyfnod yn eu haddysg. Nod y rhaglen cefnogi gyrfaoedd meddygol yw cynyddu nifer y ceisiadau llwyddiannus gan siaradwyr Cymraeg i ysgolion meddygol yng Nghymru, ac rwyf wedi ymestyn hyn am flwyddyn arall. Yn dilyn llwyddiant rhaglen 2018, cytunais y byddai'r cynllun yn rhedeg am ail flwyddyn yn 2019. O'r 60 o fyfyrwyr a oedd yn rhan o'r rhaglen yn 2018, cofrestrodd 43 ar gyrsiau yn ymwneud ag iechyd yng Nghymru—28 ar gyrsiau meddygaeth a 15 ar gyrsiau anfeddygol.
Yn ogystal â hyn, rwyf wedi cytuno ar estyniad pellach o flwyddyn i ehangu mynediad i feddygfeydd teulu drwy'r rhaglen profiad gwaith. Nod y rhaglen, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yw rhoi cyfle i fyfyrwyr blwyddyn 12 weld y gwaith sy'n gysylltiedig â phractis cyffredinol. Hyd yma, mae dros 200 o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn llwyddiannus.
Eleni, rydym ni hefyd wedi cyflwyno tri phrif ddull i fod yn sail i ymagwedd fwy cyfannol a chefnogi gwaith cynllunio gweithlu effeithiol mewn gofal sylfaenol: cofrestr Cymru gyfan ar gyfer meddygon teulu locwm, system adrodd gweithlu genedlaethol i gasglu gwybodaeth am staff practis cyffredinol, a gwefan symlach i bractisau meddygon teulu reoli a hysbysebu swyddi gwag.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo drwy'r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol i nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn y dyfodol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd wrth gwrs yn rhan allweddol o'r gweithlu. Lansiwyd fframwaith y proffesiynau perthynol i iechyd, 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd', yn y gynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol ar 7 Tachwedd. Datblygwyd y fframwaith ar y cyd ag aelodau o'r proffesiynau a nifer o randdeiliaid.
Diben y fframwaith yw sicrhau bod dinasyddion yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt ac yn cael gofal a thriniaeth o'r safon uchaf bob amser. Mae'n darparu cyfeiriad clir ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu defnyddio a'u cyrchu. Yn benodol, bydd yn helpu i gefnogi'r symudiad o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i wasanaethau sylfaenol a gofal yn y gymuned sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae hyn yn gyson o ran cyflawni ein gweledigaeth genedlaethol i ddarparu gofal yn agosach at y cartref, i wella iechyd a lles y boblogaeth, ac i sicrhau'r adferiad mwyaf posibl sy'n galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl.
Ategir y fframwaith gan gynllun gweithredu i ysgogi newid. Un o'r camau gweithredu a weithredwyd eisoes yw penodi arweinydd cenedlaethol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer gofal sylfaenol yn y rhaglen strategol ar gyfer ein tîm gofal sylfaenol. Edrychaf ymlaen at gymryd cwestiynau heddiw, ac, wrth gwrs, yn y dyfodol.