5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach — Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:11, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol imi gyfarfod â phractis Gelligaer i drafod cau meddygfa'r Gilfach, ac un o'r materion a godwyd ganddynt oedd nad prinder meddygon teulu yn yr ardal yn unig oedd yn peri iddynt frwydro yn erbyn dull y Llywodraeth o ran y model gofal sylfaenol, ond hefyd prinder gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl, parafeddygon, a'r gweddill. Felly, mae'r ymgyrch hon—a chredaf eich bod wedi dweud eich bod am ei hehangu'n ymgyrch recriwtio ar gyfer pob math o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a fferyllwyr—i'w chroesawu. Y cwestiwn y byddwn i'n ei ofyn yn syml yw: a yw'r Gweinidog yn credu y bydd yr ymgyrch hon yn ei gwneud hi'n haws cyflawni'r dull gofal sylfaenol y mae'n ei arloesi, ac a yw'n credu bod meddygon teulu yn ymgysylltu'n llawn â'r dull gweithredu hwnnw?