Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch. Nawr, mae trafnidiaeth yn rhan allweddol o'r economi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn o sôn yn barod y prynhawn yma am y broblem gyda gorlenwi ar y gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym wedi clywed am hynny yng nghwm Rhymni ac rydym wedi clywed am hynny ar reilffordd Maesteg, ond wrth gwrs, mae gorlenwi difrifol yn nodwedd o bob un o'n rheilffyrdd, bron â bod. Nawr, rydych wedi sôn am gynyddu'r capasiti, ond wrth gwrs, rydym oll yn aros, ac wedi bod yn aros ers amser maith, am welliant. Ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol, nodaf eich bod yn addo gostyngiad o draean i bris tocyn tymor. Wel, mae pob un ohonom yn sylweddoli bod Corbyn yn addo'r ddaear mewn ymgais i lwgrwobrwyo'r etholwyr, ond yn ôl yn y byd go iawn, sut ar y ddaear y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymdopi â'r cynnydd tebygol yn y galw pan ydych eisoes yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaeth addas?