Mercher, 4 Rhagfyr 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Cwestiwn 1, Hefin David.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cerbydau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ54785
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid grant ar gyfer busnesau lleol yn Aberconwy? OAQ54790
Diolch. Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau'r llefarwyr a’r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ54789
4. Pa fentrau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i wella economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54788
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymoedd y gogledd? OAQ54802
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella'r rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Fynwy? OAQ54782
Eitem 2 ar yr agenda yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit. Daw cwestiwn 1 gan Suzy Davies.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu addysg ar ôl Brexit? OAQ54800
2. Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar gyfer cydweithredu trawsffiniol ym Mhrydain ar ôl Brexit? OAQ54780
Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, Delyth Jewell.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ54791
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynnal refferendwm arall ar Brexit yn ei chael ar economi Cymru? OAQ54796
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch statws gwladolion tramor yr UE sy'n byw yng Nghanol Caerdydd, pe bai'r DU yn gadael yr UE yn ystod yr ychydig...
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Brexit i GIG Cymru? OAQ54797
9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch sut y bydd cronfa ffyniant gyffredin yn gweithio yn y dyfodol? OAQ54783
Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn y prynhawn yma. Mae'r cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. David Rees.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1,000 o swyddi yn y DU? 372
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r bygythiad i ddinasyddion Cymru yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener diwethaf? 373
Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae gennym ddau yr wythnos hon. Y cyntaf—Helen Mary Jones.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ardal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i...
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Symudwn ni ymlaen at y ddadl nesaf, y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yn awr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais. Na? O'r gorau. Iawn. Felly, mae'r bleidlais...
Gan na chyflwynwyd eitem ar gyfer y ddadl fer, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch newidiadau i amserlennu trenau yng ngorllewin Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia