Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Weinidog, ers 2012, mae cyfraddau gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu o 69 y cant i 75 y cant—mae llawer o hyn, rwy'n credu, wedi digwydd drwy gydweithredu gweithredol y tu ôl i'r llen, beth bynnag, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwy’n eich canmol am y gwaith hwnnw. Ymddengys i mi fod sgiliau a hyfforddiant yn arbennig o bwysig i gyflawni'r ffigurau gwell hyn, a chan eich bod yn pwysleisio'r economi sylfaenol, ymddengys i mi fod y dull hwn bellach yn dwyn ffrwyth yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig.