Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, drwy strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, byddwn yn gallu ystyried yr holl gyfleoedd i wella cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd, ac nid yn unig cydnerthedd y rhwydwaith ffyrdd, ond dulliau eraill o fynd â phobl o A i B. Rydych wedi gweld, er enghraifft, gwasanaethau bysiau, teithio llesol a gwasanaethau rheilffyrdd. Nawr, credaf ei bod yn deg dweud, yn dilyn trafodaethau gyda'r tirfeddiannwr a'r ffermwr tenant, fod y ffermwr wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn clirio ffosydd ar ei dir yn ôl yn 2018, 2019. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith hwnnw i helpu gyda'r llifogydd ar yr A4042. Rydym yn monitro'r sefyllfa yn agos a byddwn yn ystyried pob ffordd o fynd i'r afael ag unrhyw lifogydd pellach.