Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:35, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, yn gywir, rwy'n credu, iddo ef a minnau drafod y mater diwethaf hwnnw gyda Llywodraeth Fflandrys ym Mrwsel.

Wythnos cyn etholiad cyffredinol y DU, mae'n ddealladwy y byddech yn cyfeirio'n ddilornus, fel y gwnaethoch ychydig eiliadau yn ôl, at faniffesto Ceidwadwyr y DU. Ond serch hynny, a wnewch chi o leiaf groesawu’n ofalus y datganiad a geir ynddo y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cael ei defnyddio i ddod â'r Deyrnas Unedig gyfan ynghyd, ac na fydd unrhyw gyllid cyfatebol yn cael ei golli yng Nghymru?