Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mantra'r Torïaid ar gyfer yr etholiad hwn yw eu bod yn mynd i gael Brexit wedi'i wneud. Gwyddom fod hynny'n gelwydd, ac yn fwy na hynny, mae'n amlwg bellach fod y bygythiad o 'ddim cytundeb' ar ddiwedd 2020 hyd yn oed yn fwy. Weinidog, a ymgynghorodd Boris Johnson neu Michael Gove â Llywodraeth Cymru cyn dweud wrth y wasg nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y cyfnod pontio?