Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Yn sicr. Buaswn yn cymeradwyo'r hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud 100 y cant. Byddai Llywodraeth Geidwadol newydd yn rhoi’r GIG ar y bwrdd mewn trafodaethau masnach gyda Donald Trump. Nid wyf wedi fy narbwyllo o gwbl, a gwn na fydd hithau chwaith, gan ymdrechion Arlywydd yr UDA i'n taflu oddi ar y trywydd hwnnw, sy'n amlwg i bob un ohonom yn fy marn i.
Mae'r ddogfen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ymwneud â sgyrsiau a gafwyd rhwng swyddogion y DU a'r UDA cyn i fandad negodi'r UDA gael ei gyhoeddi. Felly, nid yw'r mandad hwnnw, os ydych wedi'i ddarllen, yn dweud yn unman fod gwasanaethau iechyd wedi eu tynnu oddi ar y bwrdd, fel yr ymddengys bod Llywodraeth y DU bellach yn ceisio ein perswadio. Mae'n mynd allan o'i ffordd i sôn am fynediad marchnadoedd fferyllol i'r DU. Un peth yn unig y gall hynny ei olygu yng nghyd-destun system ofal iechyd y DU. Felly, cytunaf yn llwyr â hi. Naill ai fod Llywodraeth y DU heb dynnu hyn oddi ar y bwrdd, neu nid yw wedi gwneud hanner digon i egluro'n glir i Lywodraeth yr UDA nad oes unrhyw ffordd y bydd y GIG yn destun negodi, a chytunaf yn llwyr â hi fod yn rhaid i ni sicrhau nad ydym yn cael Llywodraeth Geidwadol newydd a fyddai'n gwneud y GIG yn agored i'w werthu.