Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Y peth a arhosodd yn fy mhen ar ôl yr ymchwiliad hwn oedd y term 'gwasanaeth anweledig', ac mae hynny eisoes wedi cael ei grybwyll gan eraill—y ffaith nad yw'r gwaith y mae'r nyrsys hyn yn ei wneud yn cael ei weld, i raddau helaeth, oni bai eu bod yn peidio â'i wneud neu oni bai fod rhywbeth yn mynd o'i le—a hefyd y dystiolaeth a roesant am lefel cyfrifoldeb nyrs ar ei phen ei hun mewn cartref teuluol, mewn cartref nyrsio, efallai, lle nad oes ganddynt rwydwaith o gymorth gan staff nyrsio sydd ar gael i staff nyrsio sy'n gweithio mewn ysbytai.
Nawr, fel llawer o bobl eraill, rwy'n siŵr, roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn derbyn naw o'r 10 argymhelliad, nes i mi ddarllen yn fanwl yr hyn a ddywedodd mewn ymateb i'r argymhellion hynny. Ac rwy'n ofni mai'r hyn a ddywedodd wrthym oedd fod llawer o'r hyn y gofynnem amdano, yr hyn y gofynnai'r staff nyrsio amdano, eisoes yn digwydd. Wel, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n anodd weithiau pan fydd gennych dystiolaeth sy'n gwrthdaro, ond pan fo gennyf nyrsys o fy mlaen a phan fo gennyf uwch reolwyr o fy mlaen, rwy'n dueddol o gredu'r staff rheng flaen, sy'n gwybod yn well beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Roeddwn yn pryderu'n benodol nad yw ymateb y Gweinidog ond yn tynnu sylw at adnoddau ychwanegol, neu adnoddau ychwanegol posibl, ar gyfer un o'r argymhellion y mae'n eu derbyn. Oherwydd os ydym am wireddu ei ddyhead—dyhead, rwy'n credu, a rennir ar draws y Siambr hon a ledled Cymru—i weld mwy o wasanaethau'n cael eu symud i'r gymuned, bydd yn rhaid inni gael gweithlu mwy, gyda mwy o gefnogaeth, gyda gwell adnoddau, ac ni chawn hynny yn rhad ac am ddim.
Hoffwn droi'n fyr at yr argymhelliad y penderfynodd y Gweinidog ei wrthod, sef argymhelliad 4, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Nawr, er fy mod yn derbyn ei bod yn anos gwneud hynny—. Mae'n gymharol hawdd canfod faint o nyrsys, gyda pha lefel o sgiliau, sydd eu hangen i gefnogi set benodol o gleifion mewn ward benodol oherwydd ei bod yn gymharol hawdd canfod beth yw lefel eu hangen—lefel angen y cleifion. Ac mae wedi bod yn anodd gwneud hynny, ac mae hyn, wrth gwrs, yn bwydo i mewn i'r pwyntiau y mae Angela Burns eisoes wedi'u gwneud am y problemau gyda gwybodaeth.
Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â thrin gwasanaethau cymunedol gyda'r un parch ag y byddwn yn trin gwasanaethau a ddarperir mewn ysbytai, os ydym o ddifrif ynglŷn â darparu'r un lefel o barch a'r un lefel o gymorth i staff nyrsio cymunedol, does bosibl nad oes rhaid inni wneud yr asesiadau hynny, canfod aciwtedd a salwch y cleifion y maent yn ymdrin â hwy a'r sgiliau y maent eu hangen a'r amser y maent ei angen, ac felly, nifer y nyrsys cymunedol a'r nyrsys ardal sy'n ddiogel ar gyfer y boblogaeth benodol honno. Ac ni allaf ddeall pam nad yw'r Gweinidog yn cytuno. Buaswn wedi bod yn berffaith hapus i'w weld yn dweud y byddai hyn yn cymryd mwy o amser, efallai, nag y gofynnem amdano fel pwyllgor, ond mae awgrymu nad yw'n angenrheidiol yn peri pryder gwirioneddol.
Hoffwn dynnu sylw at un agwedd benodol y credaf efallai fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hi, sef materion yn ymwneud â thelerau ac amodau ar gyfer nyrsys a gyflogir gan bractisau meddygon teulu yn hytrach nag yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd. Mae'n amlwg iawn i mi fod y telerau a'r amodau i rai o'r nyrsys hynny yn llusgo ar ôl telerau nyrsys a gyflogir yn uniongyrchol. Un pryder penodol a godwyd gyda mi gan nyrsys unigol yn fy rhanbarth yw nad oes ganddynt amser ar gyfer dysgu yn aml. Nawr, rydym yn gwybod bod honno'n broblem ar draws y sector cyfan, ond os ydych yn nyrs ar eich pen eich hun, efallai, wedi'ch cyflogi gan bractis meddyg teulu gwledig, gall fod yn anhygoel o anodd i chi gael eich rhyddhau i wella eich sgiliau. Rwy'n credu y gallai'r gwaith a amlygwyd gan y Gweinidog y diwrnod o'r blaen o ran gwneud yn siŵr fod practisau meddygon teulu yn adrodd ar y lefelau staffio sydd ganddynt helpu gyda hynny, ond rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn diogelu telerau ac amodau'r grŵp pwysig hwnnw o staff nyrsio.
Rwy'n credu bod yna elfen o gytundeb ynglŷn â'r materion sy'n ein hwynebu. Y cwestiwn yn awr yw pa mor gyflym a pha mor effeithiol y gallwn fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'n air rwy'n ei ddefnyddio dro ar ôl tro, ac nid yw'n un rwyf eisiau ei ddefnyddio fel y cyfryw, ond ofnaf fod elfennau o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn sy'n ymddangos yn hunanfodlon ac yn fwy difrifol, maent yn ymddangos yn hunanfodlon i'r gweithlu nyrsio. Mae staff ein gweithlu nyrsio yn haeddu gwell na hynny. Mae ein gweithlu nyrsio cymunedol yn haeddu gwell na hynny gan bawb ohonom, ac yn bwysig iawn, mae eu cleifion yn haeddu gwell na hynny hefyd.
Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu ein gwasanaethau cymunedol, ond oni bai ein bod yn rhoi adnoddau a pharch priodol i'n gweithlu nyrsio cymunedol, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny.