Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod dwy ran o dair o'i aelodau'n gweithio yn y gymuned, yn diwallu anghenion cleifion oedrannus, anabl ac agored i niwed a allai, fel arall, ei chael hi'n anodd ymweld ag ysbyty. Mae'r symudiad tuag at ddarparu mwyfwy o wasanaethau iechyd yn y gymuned wedi cynyddu disgwyliadau pobl o allu cael mynediad at driniaeth yn y modd hwn, ac mae datblygiadau mewn meddygaeth wedi gwireddu hyn. Dywedodd tystion wrthym fod pobl eisoes yn disgwyl gallu cael triniaeth gymhleth iawn yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r galw'n debygol o gynyddu o ganlyniad i ryddhau pobl o'r ysbyty yn gynharach, cadw pobl gartref i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, a bod mwy o bobl yn dioddef o gyflyrau cymhleth a lluosog.
Mae timau nyrsio cymunedol yn gweithredu fel cyswllt gwerthfawr rhwng gwasanaethau acíwt a gofal sylfaenol ac maent yn hyrwyddo byw'n annibynnol. Felly, mae clywed bod nyrsys yn ei chael yn fwyfwy anodd ateb y galwadau cynyddol hyn arnynt yn destun pryder. O'r herwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod rôl hanfodol nyrsio cymunedol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol yn cael ei chydnabod yn briodol wrth gynllunio gweithlu, recriwtio nyrsys ac mewn hyfforddiant, a dyna argymhelliad 1.
Gan droi at nyrsys cymunedol i blant: y neges gan dystion yw fod yn rhaid cael cynnydd yn nifer y nyrsys cymunedol i blant. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ardal o faint cyfartalog sydd â phoblogaeth o 50,000 o blant angen o leiaf 20 o nyrsys cymunedol i blant, cyfwerth ag amser llawn, i ddarparu gwasanaeth nyrsio cymunedol cyfannol ar gyfer plant. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal gartref. Mae clywed felly nad oes gennym ddarlun clir o nifer y nyrsys plant sy'n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn destun pryder. At hynny, mae clywed bod plant yn llai tebygol o dderbyn gofal gartref ar ddiwedd eu hoes nag oedolion oherwydd prinder nyrsys cymunedol sydd â'r sgiliau addas yn destun pryder mawr iawn.
Gan droi at ofal lliniarol a diwedd oes, er gwaethaf y rôl hollbwysig y mae nyrsys cymunedol yn ei chwarae yn galluogi cleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol i aros gartref, clywsom nad yw'r cynllun cyflawni ar gyfer darparu gofal lliniarol a diwedd oes yn cyfeirio llawer atynt. Heb ddealltwriaeth well o bwy sy'n derbyn gofal a lle, a chan bwy, mae'n amhosibl pennu lefel yr angen am ofal lliniarol sydd heb ei ddiwallu. Rydym yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad ar gynnydd a wnaed ar ddatblygu'r cynllun gweithredu hwn yn awr—argymhelliad 3 yw hwnnw—a gwahoddaf y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y pwynt hwn heddiw.
Gan droi at staffio nyrsys ardal, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn parhau'n ymrwymedig i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau ychwanegol. Fodd bynnag, ar gyfer nyrsys ardal, nid yw'n debygol y bydd offeryn priodol ar gyfer cynllunio'r gweithlu, sy'n ofynnol o dan y Ddeddf i gyfrifo'r lefel staff nyrsio sydd ei hangen, yn barod am rai blynyddoedd. Felly, rydym yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, ac argymhelliad 4 yw hwnnw.
Gan droi at forâl staff, daeth rhywfaint o'r dystiolaeth fwyaf trawiadol a gafodd y pwyllgor gan nyrsys a oedd yn gweithio yn y gymuned, a ddywedodd wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
'Gadewais nyrsio ardal ar ôl 18 mlynedd gan na allwn i ymdopi mwyach â’r straen. Cynyddodd y llwyth gwaith, roedd mwy o alw am waith papur, dim digon o staff ac ni allai cleifion gael y gofal yr oeddent yn ei haeddu.'
A dyfyniad arall:
'Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi gweld llai o adnoddau mewn gwasanaethau rheng flaen. Nyrsys yn gadael a phroblemau recriwtio. Nid ydym bob amser yn gofalu am ein staff yn dda iawn, rydym yn disgwyl mwy a mwy ganddyn nhw.'
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod morâl yn eithaf isel, yn enwedig ar lefelau uwch, oherwydd y pwysau aruthrol sydd wedi bod ar nyrsys cymunedol ers amser maith. Yn ddiddorol, nid oedd hwn yn ddarlun roedd cynrychiolwyr y byrddau iechyd y buom yn siarad â hwy wedi ei nodi yn eu hardaloedd, ac roedd clywed safbwyntiau mor wahanol yn peri pryder.
Yn olaf, hoffwn droi at seilwaith TGCh a thechnoleg, gan mai un o'r prif faterion a godwyd gan nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned oedd eu hanallu i ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf priodol i'w galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol. Dywedodd hanner y nyrsys ardal a'r nyrsys cymunedol y gofynnwyd iddynt am eu profiadau o gymorth TG eu bod yn defnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys gliniaduron a dyfeisiau 'Blackberry'. Nododd yr hanner arall nad oedd ganddynt ddyfais symudol o gwbl at eu defnydd. Dywedodd un tyst wrthym:
'Does gennym ni ddim system gyfrifiadurol ar gyfer dogfennaeth - mae’n bapur i gyd.'
Mater arall a godwyd gan y nyrsys oedd eu hanallu i gael mynediad at galendr a negeseuon e-bost y swyddfa. Nid yn unig y mae diffyg technoleg briodol yn effeithio ar nyrsys, mae hefyd yn effeithio ar gleifion sy'n ceisio cysylltu â'u gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Os nad ydym yn darparu'r dechnoleg ddiweddaraf i nyrsys, sut yn y byd y gallwn ddisgwyl iddynt gyfathrebu â'u cleifion a rhoi'r cymorth gorau posibl iddynt?