Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei ymchwiliad a'i adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod yr argymhellion yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru yn fras o ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, fel y'i nodwyd yn ein gweledigaeth 'Cymru Iachach'. Fel rhan o ddull amlddisgyblaethol o gyflawni'r nod hwn, gwyddom y bydd nyrsys cofrestredig yn parhau i chwarae rhan ganolog.
Mae'r rhan fwyaf o'r argymhellion yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithlu cymunedol o ran cynllunio, recriwtio a hyfforddi. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes ar gynyddu'r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru gyda chanlyniadau cadarnhaol. Fodd bynnag, nid ydym byth yn hunanfodlon ac rydym yn cydnabod bod heriau'n gysylltiedig â recriwtio a chadw nyrsys mewn nifer o leoliadau. Dyna pam fy mod, unwaith eto, wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer addysg iechyd 13 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â'r flwyddyn hon. Aethom drwy'r ffigurau ddoe mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol mewn addysg a hyfforddiant i nyrsys yma yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf.
Gyda sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym bellach mewn gwell sefyllfa—sefyllfa well nag erioed—i sicrhau dull strategol cenedlaethol o ddeall ein gweithlu a chynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o staff nyrsio ar gyfer y dyfodol. Mae cyfarwyddwr gweithlu a datblygu sefydliadol Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos ag Arolygiaeth Iechyd Cymru, wrth iddynt ddatblygu eu strategaeth ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, a bydd hynny'n sicrhau bod argymhellion 1 i 3 a 6 i 8 yn ffactor yn y gwaith hwnnw.
Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y rôl hollbwysig y mae technoleg yn ei chwarae mewn nyrsio cymunedol, rhywbeth y cyfeiriwyd ato gan nifer o Aelodau yn y ddadl. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd i gefnogi buddsoddiad mewn dyfeisiau modern. Rwy'n cyfarfod â nyrsys ardal yn fy etholaeth a ledled y wlad ac maent yn disgrifio rhai o'r rhwystredigaethau y mae rhai Aelodau wedi cyfeirio atynt. Unwaith eto, mae'n rhan o'r her rwy'n ei disgrifio'n rheolaidd am ddal i fyny â'r hyn sy'n fywyd normal bellach a'n gallu i wneud pethau ar ddyfeisiau symudol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a ddisgrifiais o fewn y Llywodraeth—blaenoriaethu dyfeisiau symudol ar gyfer nyrsys cymunedol ac eraill nad ydynt wedi'u lleoli mewn ysbyty. Gwnaethom ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gynyddu'r buddsoddiad mewn technoleg ddigidol yn sylweddol fel ffactor allweddol sy'n galluogi newid, ac ategir hynny gan bwyslais cynyddol ar safonau cenedlaethol cyffredin ar draws dyfeisiau a chymwysiadau digidol.
Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi cymeradwyo egwyddorion y prif swyddog nyrsio ar gyfer nyrsio ardal yn 2017. Mae'r rhain yn gam hanfodol yn y paratoadau i gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ymhellach. Mae'r wybodaeth a ddarperir o hynny, a'r monitro y mae fy swyddogion o swyddfa'r prif nyrs yn ei wneud yn rheolaidd, yn gam pwysig, a deallaf fod cynnydd yn digwydd ar lawr gwlad.
O ran gwaith pellach ar sut y dylai'r model edrych, rydym yn cynnal gwerthusiad o'r model nyrsio ardal seiliedig ar gymdogaeth. Yn amodol ar werthusiad llwyddiannus, byddaf wedyn yn ystyried opsiynau ar gyfer dechrau ei gyflwyno ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fel rhan o'n hymateb i'r cylch cyllideb nesaf.
Mae'n ddrwg gennyf na allwn dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, a deallaf fod Aelodau wedi cyfeirio'n arbennig at yr un na wneuthum ei dderbyn. Argymhelliad 4 oedd hwnnw, sy'n ymwneud ag ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Mae adran 25A o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) eisoes yn berthnasol i bob lleoliad lle mae gofal nyrsio naill ai'n cael ei ddarparu neu ei gomisiynu. Mae'r ddyletswydd hon yn nodi cyfrifoldeb trosfwaol byrddau iechyd i sicrhau bod digon o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif, ac mae byrddau iechyd yn ymrwymedig i gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw.
O ran ymestyn adran 25B, C ac E o'r Ddeddf i gynnwys pob lleoliad, y gwir plaen yw na fyddai'n bosibl mynegi gweledigaeth strategol gydag unrhyw fanylder y gellid ei ystyried yn werthfawr ac yn fuddiol ar hyn o bryd. Mae gwahaniaethau sylweddol a sylfaenol i'r gwahanol leoliadau lle mae nyrsys yn darparu gofal, ac mae'n rhy gynnar i ddechrau deall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth yr amrywioldeb ar draws pob lleoliad.
Bydd angen i raglen staff nyrsio Cymru wneud gwaith mapio sylweddol cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol, ond mae rheolwr y rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw. Tanlinellir hynny gan realiti'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ac sydd wedi bod yn sail i gam cyntaf y broses gyflwyno, y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, y gwaith a wnaed cyn fy natganiad ysgrifenedig heddiw, lle roeddwn yn cadarnhau fy mod wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i ymestyn y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig, gyda'r nod o sicrhau y bydd yr estyniad ymarferol yn ei le erbyn Ebrill 2021. Wrth gwrs, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi'r cynnydd cyfredol ar draws holl ffrydiau gwaith y rhaglen staff nyrsio.
Credaf fod yna bwynt terfynol sy'n werth ei grybwyll o ran y ddadl, sef y ffaith bod adroddiad y pwyllgor wedi cael ei gyhoeddi ym mis Awst. Yna, cyhoeddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y rheoleiddiwr proffesiynol, ei fod yn bwriadu cynnal adolygiad llawn o gymwysterau cofnodadwy ar ôl cofrestru, ac mae wedi nodi cymwysterau ymarfer arbenigol yn benodol. Gallai hynny arwain at oblygiadau sylweddol o bosibl i rolau yn y gymuned a'r ffordd y cânt eu diffinio. Mae rolau o'r fath yn cynnwys, yn benodol, nyrsys practis, nyrsys cymunedol i blant, a nyrsys ardal yn enwedig. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad—drwy'r pwyllgor—yn ymwybodol o ganlyniad yr adolygiad hwnnw a'r ffyrdd y gallai hynny effeithio ar weithrediad ymarferol polisi Llywodraeth Cymru.