5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:53, 4 Rhagfyr 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau prin, gallaf grynhoi'r ddadl yma gan ddiolch i bawb am eu sylwadau. Angela Burns yn olrhain heriau technoleg, IT a phrinder data; a Helen Mary Jones a Caroline Jones yn olrhain yr angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau staffio i nyrsys yn y gymuned. Dwi'n clywed ymateb y Gweinidog i hynny o beth. Ond, i grynhoi, felly, mae'n hanfodol bod rôl a gwerth nyrsio cymunedol yn cael ei gydnabod yn iawn, a bod ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i'n cleifion ni yng Nghymru heddiw. Diolch yn fawr iawn.