Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch. A gaf fi ddechrau fy ymateb drwy ddiolch i Russell George, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac aelodau'r pwyllgor am eu hadroddiad hynod o gadarnhaol ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol? Rwy'n arbennig o falch fod yr adroddiad yn cydnabod rôl bwysig partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y tirlun sgiliau ehangach yng Nghymru. Argymhellodd y pwyllgor y dylai fod gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol ragolwg clir a strategol. Amlinellais y dull rhanbarthol o weithredu ar sgiliau pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn ôl yn 2014, gyda'r datganiad polisi ar sgiliau. Sefydlwyd partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel mecanwaith i gyflogwyr a rhanddeiliaid rhanbarthol ddod at ei gilydd i drafod a hefyd i gytuno ar flaenoriaethau a fyddai, yn eu tro, yn dylanwadu ar y defnydd o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer sgiliau.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r broses wedi aeddfedu a gwnaed llawer o waith ar fireinio'r system. Gall y tri rhanbarth yng Nghymru bennu eu blaenoriaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid, yn rhanbarthol ac yn lleol, a thrwy gasglu safbwyntiau gan rwydweithiau busnes rhanbarthol, a galluogi dull mwy gronynnog yn seiliedig ar le drwy hynny, a symud oddi wrth y strategaethau cenedlaethol blaenorol a gâi eu harwain gan sectorau. Mae hon yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd.
Mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i'n system gynllunio strategol newydd ar gyfer darparu addysg a sgiliau ar draws addysg ôl-16. Rwy'n falch fod eu hargymhellion blynyddol ar gyfer newid wedi arwain at system sgiliau fwy ymatebol ac adweithiol yng Nghymru, wrth i golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith gysoni'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion economaidd rhanbarthol. Mae'n bwysig fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn parhau i chwarae'r rôl strategol o gynghori Llywodraeth Cymru ar awdurdodau rhanbarthol, fel y nodir yn y cynlluniau amlinellol rhanbarthol. Dyma'r prif fecanwaith i gyflogwyr ddylanwadu ar arlwy'r cwricwlwm a wneir gan ddarparwyr prentisiaethau a cholegau addysg bellach.
Nawr, er mwyn sicrhau bod gennym y fframweithiau prentisiaeth cywir a'r mewnbwn cywir gan gyflogwyr, sefydlwyd panel cynghori ar brentisiaethau Cymru. Y partneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n llywio gwaith y panel, gan ddarparu mewnwelediad rhanbarthol gwerthfawr yn seiliedig ar wybodaeth gan gyflogwyr. Ni ellid bod wedi sicrhau'r cyflawniadau hyn pe bai partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gyrff gwneud penderfyniadau, a dyna pam nad wyf yn sicr y dylid ail-greu partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar ffurf byrddau cynghori ar sgiliau rhanbarthol. Adeiladwyd ein llwyddiant hyd yn hyn ar y cynsail fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithredu fel partneriaethau gwirfoddol annibynnol yn hytrach na bod ganddynt bwerau i wneud penderfyniadau yn eu hawl eu hunain. Roedd adroddiadau SQW a Graystone yn cydnabod cryfder cynnal partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel partneriaethau annibynnol hyd braich, yn hytrach na'u sefydlu fel cyrff lled-Lywodraethol gyda phwerau i wneud penderfyniadau.
Ond gwrandewais ar yr Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig yr achosion cymhellol a gyflwynwyd gan Russell George a Bethan Sayed ar gamau gweithredu 1 a 10. Mae wedi fy arwain i gredu bod angen ystyriaeth bellach yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n ymrwymo i wneud hyn, yn enwedig gan fod yr Aelodau'n teimlo bod fy ymatebion yn annigonol. Mae'r dull presennol yn rhoi rôl glir i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn system sgiliau Cymru a ddeellir gan bartneriaid a rhanddeiliaid. Ond rwy'n ymrwymo i adolygu trefn lywodraethu a statws cyfreithiol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, fel yr argymhellwyd gan adroddiad y pwyllgor, yn ystod 2020.
Cododd y pwyllgor gwestiwn ynglŷn ag adnoddau hefyd, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae angen inni adolygu'r lefelau o adnoddau ar draws y tair partneriaeth sgiliau ranbarthol. Unwaith eto, rwy'n ymrwymo i gynnal adolygiad trwyadl o ddarpariaeth adnoddau'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn ystyried y dulliau gweithredu gorau gan ddefnyddio'r mecanweithiau sydd ar gael i roi newidiadau ar waith a gwneud gwelliannau.
Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol i wella'r data a sicrhau bod gennym yr adroddiadau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol gorau posibl. Mae'n ymwneud â mwy nag adroddiadau ffurfiol yn unig. Mae gwybodaeth feddal yn hanfodol bwysig hefyd, ac rwy'n falch fod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn cymryd rhan weithredol yn ein grwpiau ymateb ar gyflogaeth ranbarthol a sefydlwyd i ddatblygu atebion cyflym ar draws ein rhanbarthau i gyflogwyr o ganlyniad i ansicrwydd yn sgil Brexit. A byddwn yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y gofod hwn dros y misoedd nesaf i weithredu newid ac i drafod y ffordd orau o gyflawni hyn.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ailddatgan pwysigrwydd y Gymraeg, a ddylai fod yn ystyriaeth ar draws ein holl weithgarwch yn ddyddiol wrth i ni weithio. Byddaf yn gofyn i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau bod anghenion y Gymraeg ar draws y sector addysg uwch yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu eu cynlluniau cyflogaeth a sgiliau. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddatblygu dull o gasglu gwybodaeth sy'n cefnogi ein dull gydol oes o wella cyfleoedd iaith Gymraeg yma yng Nghymru.
Wrth gloi, hoffwn ailddatgan fy ymrwymiad i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a chryfhau'r rôl sydd ganddynt i'w chwarae yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor wedi tynnu sylw at nifer o feysydd y bydd angen inni eu hystyried yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a cheisiaf ailedrych ar y camau gweithredu hynny, yn enwedig 1 a 10, a'u hailystyried. Rwy'n falch ein bod eisoes yn symud ymlaen mewn meysydd sy'n parhau i adeiladu rôl strategol y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwy'n hyderus y gallwn wella'r system sgiliau yng Nghymru ymhellach er mwyn hybu twf economaidd ar draws rhanbarthau Cymru yn eu tro er mwyn gwella ein ffyniant fel cenedl.