Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein GIG mewn perygl enbyd. Wythnos sydd i fynd cyn yr etholiad erbyn hyn. Yr etholiad sydd i fod i gael Brexit wedi'i wneud, yn ôl Boris Johnson. Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn ymweld â'r DU i roi sicrwydd i ni nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael mynediad i'r farchnad am ein GIG. Mae'r ddau safbwynt yn gelwydd. Ni fydd cynlluniau Brexit y Ceidwadwyr yn sicrhau bod Brexit yn cael ei wneud. Dim ond diwedd y dechrau fydd pasio'r cytundeb ymadael, ac mae'r negodiadau ar y berthynas yn y dyfodol eto i ddechrau. Ac mae sicrwydd Donald Trump mor ddibynadwy ag ymrwymiad maniffesto Torïaidd i Gymru, yn anffodus.
Dywedodd Trump ddoe na fyddai'n dymuno i'r GIG fod yn rhan o unrhyw gytundeb, ac nad oedd ganddo syniad chwaith pwy ddechreuodd y si faleisus hon yn y lle cyntaf. Wel, gallaf ei helpu gyda hynny oherwydd mai Donald Trump ei hun wrth gwrs a wnaeth yn union hynny. Yn ystod ymweliad â'r DU ar 4 Mehefin, gofynnwyd iddo a ddylai'r GIG fod ar y bwrdd, a'i ateb oedd:
Pan fyddwch chi'n ymwneud â masnach mae popeth ar y bwrdd, felly'r GIG neu unrhyw beth arall neu lawer mwy na hynny ond bydd popeth ar y bwrdd, yn bendant.
Felly, mae hynny'n glir. Ddeuddydd yn gynharach, roedd y llysgennad Americanaidd, Woody Johnson, wedi dweud yr un peth wrth Andrew Marr. Mae tystiolaeth glir hefyd fod cael mynediad rhannol i'r GIG yn rhan fawr o amcanion masnach yr Unol Daleithiau, sydd i'w canfod mewn dogfen swyddogol gan adran fasnach yr UDA o dan y pennawd 'United States-United Kingdom Negotiations'. Cafwyd rhagor o dystiolaeth yn y dogfennau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur, sy'n dangos bod trafodaethau archwiliadol eisoes yn mynd rhagddynt a bod patentau a phrisiau cyffuriau, yswiriant iechyd a dyfeisiau meddygol wedi'u trafod. A ddoe ddiwethaf, cyfaddefodd Dominic Raab ar Sky News y gallai cwmnïau o'r UDA godi prisiau cyffuriau ar gyfer y GIG yn wir drwy ddarpariaethau sy'n debygol o gael eu gweithredu mewn cytundeb masnach yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o fanylion ynglŷn â beth yn union y mae'r UDA ei eisiau yma, a sut y gallai effeithio ar gleifion yma. Nid ydym yn sôn am breifateiddio'r gwasanaeth iechyd cyfan. Ni fyddai gan gwmnïau preifat unrhyw ddiddordeb mewn rhedeg adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, oherwydd, a siarad yn blwmp ac yn blaen, nid oes elw hawdd i'w wneud yno. Yr hyn y maent ei eisiau yw dewis a dethol y rhannau mwyaf proffidiol o'r farchnad, er mwyn dargyfeirio arian o wasanaethau rheng flaen y GIG i bocedi cwmnïau fferyllol mawr yr UDA. Y ffordd symlaf o wneud hyn yw drwy newid rheolau'n ymwneud â phatentau a phrisio cyffuriau, a dyna'n union pam mai'r ddau ffactor hwn sy'n ffurfio'r brif ran o ofynion negodi'r UDA. Nawr, pe bai'r UDA yn llwyddo i gael mynediad llawn i'r farchnad i gyffuriau'r Unol Daleithiau, byddent yn cyfyngu'n fawr ar allu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i benderfynu pa feddyginiaethau y gall cleifion eu cael. Yn yr Unol Daleithiau, mae prisiau cyffuriau wedi'u chwyddo i lefelau sy'n anweddus a dweud y gwir, oherwydd bod y drefn drwyddedu'n hirfaith ac o dan reolaeth lobïwyr pwerus, sy'n golygu mai ychydig gwmnïau'n unig sy'n meddu ar yr arbenigedd i lywio drwy'r broses.