Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Byddai cwmnïau fferyllol mawr yr UDA eisiau dadreoleiddio'r farchnad gyfan, fel y gallai cyffuriau yr Unol Daleithiau gystadlu. Ac mae pawb ohonom wedi darllen y straeon, Mark, ynglŷn â sut y mae fferyllfeydd yn y DU ar hyn o bryd—er enghraifft, ar gyfer unrhyw fath o barasetamol, mae'r pris yn llawer is na'r hyn y byddai ar gyfer cyffur cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Felly, os oes gennych dystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn eich cyfraniad y byddwch yn siŵr o'i wneud yn ddiweddarach, buaswn yn falch iawn o'i chlywed.
Ond fel roeddwn yn dweud, mae prisiau cyffuriau'r UDA yn warthus ac ychydig iawn o gwmnïau sydd â'r arbenigedd i lywio drwy'r broses gymhleth sy'n rheoli hynny. Mae hyn felly'n caniatáu i fwlturiaid diegwyddor gaffael cyffuriau di-batent rhad i wthio prisiau i fyny. Felly, pan fydd Trump yn dweud bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw nad ydynt yn cael eu chwyddo'n artiffisial er mwyn cynyddu elw'r diwydiant fferyllol. Felly, dyma'r realiti hunllefus a allai ein hwynebu yn y DU. Pe bai'r UDA yn llwyddo i newid rheolau patentau a phrisiau, byddai'r DU naill ai'n gorfod cynyddu maint cyllideb y GIG yn ddramatig i dalu'r costau ychwanegol enfawr hyn, neu symud arian y GIG o wasanaethau i wariant ar gyffuriau.
Nawr, yr ail fygythiad mwyaf yw'r effaith y byddai dadreoleiddio presgripsiynau cyffuriau yn ei chael ar iechyd cleifion. I weld sut y gall hyn effeithio ar iechyd y cyhoedd, nid oes angen edrych ymhellach na'r argyfwng opioid yn yr Unol Daleithiau, argyfwng sydd wedi arwain at bron 0.5 miliwn o farwolaethau dros yr 20 mlynedd diwethaf. Llwyddodd y diwydiant fferyllol i newid y polisi presgripsiynu yn yr UDA fel bod opioidau yn cael eu presgripsiynu am amrywiaeth eang o resymau y tu hwnt i'r defnydd a fwriadwyd ar eu cyfer, gan arwain at gamddefnydd a dibyniaeth eang. Felly, mae'r bygythiad yn un gwirioneddol.
Mae ein GIG yn wynebu perygl clir a real. Y cwestiwn yw beth y gallwn ei wneud yn ei gylch? Y ffordd hawsaf o gael gwared ar y bygythiad yn llwyr fyddai peidio â gadael yr UE. Pe baem yn penderfynu aros yn dilyn refferendwm, byddai'r bygythiad i'n GIG yn diflannu, a byddai gennym fwy o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hefyd oherwydd byddem wedi osgoi ysgariad drud a dirwasgiad tebygol. Ond os etholir Llywodraeth Dorïaidd wythnos i yfory, mae'n anodd gweld sut y gellid osgoi Brexit caled wedi'i ddilyn gan gytundeb masnach peryglus gyda'r Unol Daleithiau, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei anwybyddu am nad yw'n wleidyddol gyfleus inni gyfaddef ei fod yn bosibl yn ystod cyfnod etholiad.
Mae Plaid Cymru yn cynnig tri mesur heddiw i amddiffyn GIG Cymru. Yn gyntaf oll, rydym am i'r deddfwrfeydd datganoledig gael feto ar gytundebau masnach y DU sydd â photensial i effeithio ar feysydd datganoledig. Ni fyddai'r DU yn cynnwys mesurau a fyddai'n annerbyniol i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon pan fydd Stormont yn cael ei ailgynnull, oherwydd byddent yn dymuno osgoi gweld y feto'n cael ei defnyddio. Nid yw ein cynnig yn ddi-gynsail, gan fod ardal Walonia yng Ngwlad Belg yn meddu ar y feto hon ac yn ei defnyddio mewn ffordd gyfrifol. Un waith yn unig y maent wedi'i defnyddio, mewn perthynas â chytundeb masnach CETA rhwng yr UE a Chanada, cyn caniatáu i'r cytundeb fynd rhagddo ar ôl iddynt sicrhau'r consesiwn y gofynnent amdano. Drwy bleidleisio yn erbyn ein cynnig, bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn rhoi feto ar breifateiddio'r GIG. Efallai y byddant am ystyried hyn cyn gwneud hynny.
Rydym hefyd yn galw ar Aelodau Seneddol o Gymru i gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd gan yr SNP gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Byddai hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r GIG yn erbyn effaith cytundeb masnach yn y dyfodol.
Ac yn olaf, rydym am ddiddymu neu addasu adran 82 o Ddeddf Cymru er mwyn dileu'r pwerau sydd gan San Steffan ar hyn o bryd i orfodi Gweinidogion Cymreig i weithredu cyfarwyddebau i roi cytundebau rhyngwladol ar waith. Ein hofn yw y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r adran led anghyfarwydd hon i orfodi mesurau preifateiddio niweidiol ar y GIG yng Nghymru. Eto, ni allaf ddeall pam nad yw Llafur yn cytuno â hyn. Does bosibl na fyddai'n well ganddynt beidio â gadael i Alun Cairns ddweud wrthynt beth i'w wneud mewn meysydd datganoledig? Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynigion i ddiogelu GIG Cymru rhag bygythiad dwbl Boris Johnson a Donald Trump.