Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Diolch, Rhun. A fyddech yn cytuno bod gennym gytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau ymhell cyn inni ymuno â'r UE a bod cyfle ar hyd yr amser, o 1948 pan gawsom y GIG, hyd at 1975 pan aethom i mewn i'r UE, i ddiwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r holl ddiwydiannau eraill fod wedi gwneud yn union beth rydych chi'n ei ddweud i'r GIG bryd hynny?