Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff y GIG, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n Nadolig eto ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig. A fydd bwrdd iechyd gogledd Cymru yn dal i fod o dan reolaeth a goruchwyliaeth eich Llywodraeth chi y Nadolig nesaf?