1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Rhagfyr 2019.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54812
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff y GIG trwy fwy o addysg a hyfforddiant proffesiynol, blaenoriaethu recriwtio a chadw a chymryd camau i sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu gwerthfawrogi a'u diogelu yn y gweithle.
Diolch. Wel, yr wythnos diwethaf, bron i bedair blynedd ar ôl i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 gael Cydsyniad Brenhinol, cyhoeddodd eich Gweinidog iechyd ddatganiad cryno yn datgan mai dim ond rhaglen staff nyrsio Cymru gyfan sy'n sbarduno'r gwaith archwiliadol o ymestyn Deddf 2016. Ddiwedd y mis diwethaf, lansiodd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru ei adroddiad cynnydd a her ar weithredu'r Ddeddf, a ddywedodd bod y gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol: gwaethygir nifer uchel y swyddi gwag, yr amcangyfrifwyd ganddyn nhw i fod o leiaf 1,600, gan fwy o brinder yn y sector cartrefi gofal a'r posibilrwydd o golledion sylweddol i ymddeoliad yn ystod y pum i 10 mlynedd nesaf. Sut, felly, mae Llywodraeth Cymru—ydych chi—yn ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd ganddyn nhw i Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun y gogledd? Sut mae'r trefniadau mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn monitro ac yn cynorthwyo'r bwrdd i gydymffurfio â'r Ddeddf? A wnewch chi gynyddu nifer y myfyrwyr dan hyfforddiant, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i chi ei wneud, ac a wnewch chi gefnogi lleoli nyrsys dan hyfforddiant nad ydynt wedi'u comisiynu o Brifysgol Glyndŵr, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i chi ei wneud?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Roeddwn i yn bresennol mewn digwyddiad Coleg Nyrsio Brenhinol i ddathlu pasio'r Ddeddf staff nyrsio diogel i'r llyfr statud yma yng Nghymru a phopeth a wnaed ers hynny i wneud yn siŵr bod y nifer briodol o nyrsys o dan yr amgylchiadau priodol ar bob ward. Croesawyd ganddynt y ffaith fod y Gweinidog yn symud ymlaen i sicrhau bod effaith y Ddeddf honno'n cael ei theimlo mewn lleoliadau newydd. Siaradais â llawer o nyrsys ar y noson honno, Llywydd. Siaradais yn arbennig â grŵp o nyrsys o'r gogledd, a ddywedodd wrthyf gymaint yn anoddach y mae eu bywydau'n cael eu gwneud gan y beirniadu parhaus o'r bwrdd hwnnw, yn enwedig gan aelodau'r blaid gyferbyn—sut y mae hynny'n ei gwneud yn fwy anodd recriwtio a chadw pobl yn y bwrdd iechyd hwnnw. [Torri ar draws.] Dyna eiriau nyrsys yn siarad â mi. Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw dweud wrthych chi yr hyn a ddywedasant am eich plaid chi a'i heffaith ar eu bywydau gwaith beunyddiol.
Yma, yn Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys gan 89 y cant ers i ni ddechrau ein taith chwe blynedd o gynyddu pob un flwyddyn faint o fuddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud mewn hyfforddi meddygon a phroffesiynau perthynol i feddygaeth yma yng Nghymru. Rydym ni'n ymdrin bob dydd â'r effaith y mae Brexit yn ei chael—un o bolisïau eraill ei blaid ef—ac effaith ar y gogledd yn arbennig, lle mae staff a recriwtiwyd i weithio yma yng Nghymru o Weriniaeth Iwerddon a Sbaen wedi teimlo oerfel rhethreg Brexit ei blaid ac wedi penderfynu gwneud eu dyfodol mewn mannau eraill yn hytrach nag yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n arbennig o wir, Llywydd, yn y sector cartrefi gofal y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gwestiwn. Bydd effaith Brexit yn ein sector cartrefi gofal, boed hynny'n nyrsys cymwysedig, boed yn staff cartrefi gofal, yn wirioneddol ac yn cael ei theimlo ym mywydau pobl yma yng Nghymru.
Rydym ni'n mynd ati i wneud popeth y gallwn drwy ein rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' a phopeth arall i wneud yn siŵr bod gennym ni'r staff sydd eu hangen arnom ni yma yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Nid yw'n cael ei helpu gan lawer o'r pethau a ddywedir wrthym ni ar lawr y Cynulliad hwn ganddo ef a'i blaid.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi mai un o'r ffactorau allweddol i unrhyw weithlu deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael cefnogaeth yw os byddan nhw'n teimlo bod systemau priodol ar waith i ganiatáu iddyn nhw godi pryderon yn effeithiol os byddan nhw'n gweld rhywbeth y maen nhw'n teimlo sy'n anghywir, os byddan nhw'n gweld arferion nad ydyn nhw'n teimlo sy'n ddiogel, os byddan nhw'n gweld bod arferion nad ydyn nhw'n teimlo sy'n dangos parch ac yn effeithiol. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod pryderon nad yw ein harferion presennol yma yng Nghymru yn ddigon annibynnol, a chaiff y pryderon hynny eu codi gan rieni a theuluoedd a hefyd gan sefydliadau proffesiynol. A all y Prif Weinidog ddweud pa un a yw wedi ei argyhoeddi ai peidio ein bod ni'n rhoi'r camau cywir ar waith yma yng Nghymru i sicrhau y gellir cynorthwyo staff pan eu bod yn codi pryderon, ac a wnaiff ef ymrwymo i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dawelu ei feddwl ei hun nad oes mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pryderon yn cael eu codi'n ddiogel—mwy y gallwn ni ei wneud ac nad ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd?
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr, Llywydd, â'r hyn y mae Helen Mary Jones wedi ei ddweud am bwysigrwydd diwylliant yn ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y gwasanaeth iechyd bod pobl sydd â phryderon yn gwybod, pan fydd y pryderon hynny'n cael eu codi, y byddan nhw'n cael gwrandawiad parchus; byddan nhw'n cael eu hystyried fel rhai sydd â'r arbenigedd sydd gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau rheng flaen, pan eu bod nhw'n gweld pethau y maen nhw'n credu sy'n mynd o chwith neu y gellid eu gwneud mewn ffordd well. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd yn gweithio gyda Vaughan Gething, comisiynwyd Keith Evans ar y cyd gennym i lunio'r adroddiad 'Defnyddio Cwynion yn Rhodd'. Roedd Keith Evans, fel y gwyddoch, yn weithredwr uchel iawn yn Panasonic a daeth gydag ef i'r GIG y synnwyr hwnnw o sut, os oes rhywun wedi mynd i'r drafferth—boed yn aelod o staff neu'n glaf, os yw wedi mynd i'r drafferth i roi gwybod i chi am ei brofiad a sut y mae'n meddwl y dylai pethau gael eu cywiro, na ddylech ystyried hynny fel cwyn i boeni amdani, ond fel rhodd y mae'r person hwnnw'n ei wneud i chi, oherwydd dyna yw ei gyfraniad ef. Fel y mae pobl yn dweud wrthych chi dro ar ôl tro yng Nghymru, os ydyn nhw yn cymryd camau o'r fath, mae er mwyn gwneud yn siŵr nad oes rhywun arall yn dioddef rhywbeth y maen nhw wedi ei weld neu y maen nhw eu hunain wedi cael profiad ohono. Ac wrth gwrs rydym ni'n parhau i adolygu hynny. Byddwn yn adolygu'r polisi 'Gweithio i Wella' yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'r Gweinidog iechyd a minnau yn trafod yn rheolaidd ffyrdd y gallwn ni wneud yr hyn a allwn ni i greu'r math o ddiwylliant y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar staff y GIG, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n Nadolig eto ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig. A fydd bwrdd iechyd gogledd Cymru yn dal i fod o dan reolaeth a goruchwyliaeth eich Llywodraeth chi y Nadolig nesaf?
Wel, fe atebaf y cwestiwn hwnnw yr adeg yma y flwyddyn nesaf, Llywydd.