Safleoedd Anghyfreithlon i Deithwyr

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:35, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, maen nhw wedi sefydlu mesurau sydd, yn amlwg, yn cynorthwyo awdurdodau lleol a'r asiantaethau gorfodi i symud ar safleoedd anghyfreithlon. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i effeithiolrwydd darpariaeth o'r fath yma yng Nghymru? Ac, yn ail, yn aml iawn pan fydd safleoedd anghyfreithlon yn datblygu, mae bil glanhau enfawr y mae'n rhaid i drethdalwyr lleol ei ysgwyddo. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ystyried cryfhau pwerau lleol i adennill rhai o'r costau gan y teithwyr anghyfreithlon sydd wedi sefydlu safleoedd, ac eto trethdalwyr lleol sy'n talu'r bil am y llanastr yn y pen draw?