Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Fel y dywedais i, rydym ni wedi cyhoeddi, wrth gwrs, y canllawiau ar reoli gwersylloedd diawdurdod, yn 2013, ac mae'n nodi ein disgwyliadau clir o ran sut y bydd awdurdodau cyhoeddus yn datrys gwersylloedd o'r fath. Hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried cymesuredd unrhyw gamau i ddatrys gwersylloedd, gan bwyso a mesur hawliau a rhwymedigaethau pawb dan sylw. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi datrysiad cyson, dyngarol ac effeithiol ar gyfer gwersylloedd diawdurdod, gan barchu hawliau Sipsiwn a Theithwyr i fyw bywyd nomadig, a hawliau'r gymuned ehangach. Ac yn sicr, rydym ni'n bryderus iawn—roeddwn i'n bryderus iawn—am yr ymgynghoriad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhywbeth lle y byddwn ni'n ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, gan bwyso ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl a mabwysiadu ein dull gweithredu ni.