Gwasanaethau Cynghori

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:45, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw. Yr hyn sy'n bwysig o ran trefniadau'r gronfa cyngor sengl, yr arian grant cyngor sengl yr wyf wedi'i ddyfarnu i ddarparwyr yw, er bod darparwyr arweiniol—yn yr achos hwn, Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, mewn ymateb i'r cwestiwn hwn—mae ganddyn nhw hefyd bartneriaid cynghori a phartneriaid mynediad, yn ogystal â phartneriaid eraill yn y sector gwirfoddol.