Diogelwch Cymunedol yn Abertawe

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:37, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Fe fyddwch yn ymwybodol bod stryd fawr Abertawe wedi cael trafferthion yn ddiweddar o ran troseddu yn yr ardal, o ran defnyddio cyffuriau, puteindra, dwyn, a thrais. Mae'r broblem wedi bod yno ers misoedd—blynyddoedd, mewn gwirionedd—a chofnodwyd 75 o droseddau ym mis Medi a mis Hydref yn unig. Nawr, o ystyried bod gennych chi fel Llywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran diogelwch cymunedol ac o ran adfywio, a chefnogi mentrau fel trin camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, digartrefedd, cysgu ar y stryd ac amddiffyn dioddefwyr, beth arall ydych chi'n bwriadu ei wneud, ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe, i fynd i'r afael â'r broblem hon ar un o byrth allweddol Abertawe?