2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:45, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl yfory ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019 wedi'i thynnu yn ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.