Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cau ymgynghoriad ar yr union fater penodol hwn yn ddiweddar. Gwn y bydd y Gweinidog addysg yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ganlyniad ei hystyriaethau, pan fydd hi wedi cael y cyfle i roi ystyriaeth lawn i'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw.