Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae gennym ni lefelau difrifol o lygredd aer yn niweidio iechyd ac yn lladd pobl nawr, heddiw. Dyna 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Mae gennym ni lefelau cynyddol o asthma, mae gennym ni lefelau cynyddol o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, rydym wedi etifeddu niwmoconiosis i'r glowyr, silicosis i'r chwarelwyr, ceir asbestosis mewn mannau o hyd, ac mae gennym ni gyfraddau cynyddol o ffibrosis codennog idiopathig—ystyr idiopathig yn Lladin yw 'Nid ydym yn gwybod beth sy'n ei achosi'. Ond rwy'n amau y byddwn ni, un o'r dyddiau hyn, yn canfod mai llygredd aer sy'n ei achosi, yn bennaf oherwydd ein hagwedd ddi-hid at lygredd aer dros y cenedlaethau. Mae anadlu deunydd gronynnol 2.5 yn lladd pobl, mae nitrogen deuocsid yn lladd pobl hefyd, gall nanogronynnau plastig gael eu hamsugno i'r system waed, i system cylchrediad y gwaed a'r galon. Felly, mae gennym ni Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd angen newid sylweddol a difrifol o ran ei gweithredu. Felly fy nghwestiwn cyntaf i yw: beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i wireddu newid sylweddol yn y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes?
Yn ogystal â hynny, fel y clywsom—. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â dwy ymgyrch o leiaf i atal datblygiadau ar gyfer llosgydd—yn Nhywyn Crymlyn ar bwys Abertawe ac yn Llansamlet yn Abertawe hefyd bellach. A wnaiff y Gweinidog gytuno—? Mae hi wedi clywed y sylwadau eraill am losgyddion arfaethedig mewn ardaloedd eraill, ym Mrynbuga ac yn y Barri, nid yr un yn Llansamlet yn unig; a wnewch chi gytuno ar foratoriwm ar adeiladu llosgyddion, o leiaf mewn ardaloedd preswyl ac yn agos at ysgolion? Oherwydd, os oes argyfwng newid hinsawdd ac os ydym ni'n sôn am yr holl farwolaethau hyn oherwydd llygredd aer, 'does bosib y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch.
Ac, fel y dywedais, rwyf i'n bersonol yn ffafrio deddfwriaeth. Nid oes dim byd tebyg i gefnogaeth gyfreithiol i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithredu yn hytrach na gwneud cynlluniau, ni waeth pa mor ddiffuant ydyn nhw. Deddf aer glân i ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn y gyfraith; Deddf aer glân i orchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd; Deddf aer glân i roi dyletswydd statudol gyfreithiol ar awdurdodau lleol i fonitro llygredd aer, i asesu llygredd aer, i gymryd llygredd aer o ddifrif a chymryd camau i'w rwystro, i ystyried y pryderon o ddifrif oherwydd llygredd aer mewn ceisiadau cynllunio; ac mae angen Deddf aer glân arnom ni i gyflwyno'r hawl i anadlu, lle mae'n rhaid i gynghorau lleol ddweud wrth grwpiau sy'n agored i niwed pan gaiff lefelau penodol eu torri. A gaf i wahodd y Gweinidog i gytuno ar y pwynt olaf hwn?
Ac felly, yn olaf, gan fod pawb yn cwyno bod y gwasanaeth iechyd yn costio mwy o arian o flwyddyn i flwyddyn, nid oes unrhyw un yn credu ym muddsoddi mewn newid ymddygiad i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Na, rydym yn lladd ar y GIG am amsugno arian, pan fo'n rhaid i'r gwasanaethau iechyd fynd i'r afael â'r problemau y dylai Llywodraethau fod yn ei datrys yn y lle cyntaf. Felly, mae gennym ni agenda gordewdra sy'n achosi cynnydd mewn diabetes a chynnydd mewn canser, wel, deddfwch am 120 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos mewn ysgolion, felly. Gwaherddwch hysbysebu gwael a bwyd sothach. Defnyddiwch arian o dreth siwgr yng Nghymru ar gyfer yr agenda addysg hon. Peidiwch â rhoi'r bai ar iechyd am orfod ymdrin â'r canlyniadau. Ac, o ran llygredd aer, ie, deddfwriaeth i lunio Deddf aer glân, i fynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol hynny o asthma, i fynd i'r afael â COPD, y lefelau cynyddol o rai sy'n dioddef o ffibrosis idiopathig ysgyfeiniol, y niwed i ysgyfaint plant sy'n tyfu. Nid ydym mwyach yn goddef dŵr budr, ni ddylem oddef aer budr mwyach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y gwaith o leihau allyriadau yn y ffordd gyflymaf bosibl ar ôl cael ei gweld yn torri rheoliadau'r UE bron dwy flynedd yn ôl—23 mis yn ôl, i fod yn fanwl gywir. Peidied neb â'm cyhuddo i o orliwio'r mater. Bron dwy flynedd yn ôl, fe'i cafwyd yn euog o dorri rheoliadau'r UE ar lygredd aer. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig y dylai'r Siambr hon eistedd am ddiwrnod ychwanegol er mwyn cyflwyno polisïau a fframweithiau a nodir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus y mae llygredd aer yn ei gyflwyno heddiw? Dwy fil o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru. Pe byddai hwn yn gyffur, pe byddai hwn yn dabled, fe fyddem ni'n neidio lan a lawr er mwyn ei wahardd a'i ddatrys mewn mater o ddyddiau neu wythnosau. Mae yna gynllun a Phapur Gwyn, ac efallai y bydd yna ddeddfwriaeth ymhen 18 mis. Mae'r her yn ddifrifol. Nawr yw'r amser. Diolch yn fawr.