– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y cynllun aer glân. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Pleser yw cael lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ein cynlluniau uchelgeisiol ledled y Llywodraeth i wella ansawdd aer ar draws Cymru. Gwn fod pawb yn y Cynulliad hwn yn cytuno bod gan bobl yng Nghymru yr hawl i anadlu aer sy'n iach. Er bod ansawdd cyffredinol dda i'n haer ni ar hyn o bryd a bod hyn yn cymharu'n dda â gweddill y DU a'r UE, fe allwn ni wneud yn well ac mae cyfle amlwg i weithredu ymhellach.
Mae'r 'Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach' yn nodi fframwaith cenedlaethol a fydd yn galluogi pob un ohonom ni, ledled Cymru, i weithio gyda'n gilydd i sicrhau gwelliannau pellach a chynaliadwy mewn modd sy'n atgyfnerthu ein gwaith ni ar newid hinsawdd, datgarboneiddio a thwf amgylcheddol. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion ni i wella ansawdd yr aer ymhellach eto yng Nghymru, ac mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws llawer o adrannau'r Llywodraeth a sefydliadau'r sector cyhoeddus drwy bedair thema ganolog, sef: diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol; cefnogi'r amgylchedd, ecosystemau a bioamrywiaeth; cefnogi Cymru lewyrchus; a chefnogi mannau cynaliadwy.
Mae'n hanfodol bod ein dull ni o weithredu yn diogelu iechyd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae ein thema gyntaf yn pwysleisio'r camau gweithredu cyfredol ac arfaethedig i leihau llygredd aer, y risgiau ac anghydraddoldebau. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i dargedau newydd o ran deunydd gronynnol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar iechyd, gan ystyried gwerthoedd canllawiau caeth Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae'r ail thema yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd naturiol, ein hecosystemau a'n bioamrywiaeth a hyrwyddo twf amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Un o'r heriau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu yw dod o hyd i ffordd o sicrhau amgylchedd sy'n iach, yn gydnerth ac yn gynhyrchiol i'r dyfodol gan barhau i greu swyddi, tai a seilwaith. Byddwn yn mesur cynnydd drwy ddangosyddion newydd ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae'r drydedd thema yn cefnogi Cymru lewyrchus. Rydym yn awyddus i fod yn gymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang ac yn defnyddio adnoddau yn effeithlon ac yn gymesur â'n hangen. Mae busnesau ffyniannus yn bwysig i economi lwyddiannus yng Nghymru ac mae angen inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twf economaidd ochr yn ochr â'n hymrwymiadau i gael aer glân a thwf amgylcheddol iach. Drwy gyfuniad o reoleiddio, buddsoddi a datblygiadau technegol, llwyddwyd i wneud cynnydd sylweddol eisoes i leihau llygredd aer oherwydd diwydiant. I gyflawni gwelliannau pellach, fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan dargedu heriau penodol o ran ansawdd aer mewn ardaloedd diwydiannol.
Mae'r bedwaredd thema, a'r olaf, yn cydnabod pwysigrwydd lleihau llygredd yn yr aer mewn mannau cyhoeddus. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd aer a seinweddau priodol i iechyd a lles pobl a'r amgylchedd. Rydym yn cynhyrchu canllawiau pellach ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gefnogi ystyriaeth fanwl o ansawdd aer a seinweddau yn y broses gynllunio. Mae dull cydgysylltiedig rhwng polisi trafnidiaeth cenedlaethol a pholisi cynllunio yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan leihau allyriadau a'u heffaith ar y cyhoedd. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i annog newid moddol oddi wrth ddibyniaeth ar gerbydau preifat a thuag at fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.
Er y gallwn arwain a gosod esiampl drwy weithredu gan y Llywodraeth, ni allwn gyflawni'r cynllun ar ein pennau ein hunain. Mae mynd i'r afael â llygredd aer yn llwyddiannus yn golygu bod Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau, awdurdodau lleol, busnes a diwydiant, sefydliadau anllywodraethol ac, wrth gwrs, y cyhoedd yn gweithio gyda'i gilydd. Fe fyddwn yn rhoi'r grym i bawb leihau'r effeithiau a'u cysylltiad ag ansawdd aer lleol drwy addysg well a chodi ymwybyddiaeth, a datblygu dulliau cyfathrebu integredig a dargedwyd i hysbysu a galluogi newid mewn ymddygiad.
Bydd gan ein Deddf Aer Glân newydd ni i Gymru ran allweddol i'w chwarae i'n helpu ni i sicrhau hyn drwy gyflawni'r ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog a lleihau'r baich y mae ansawdd aer gwael yn ei roi ar iechyd pobl, ein heconomi, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol. Byddaf yn ymgynghori ar gynigion mwy manwl ar gyfer y Ddeddf erbyn diwedd tymor presennol y Cynulliad, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Dros y 12 wythnos nesaf, rwy'n gobeithio cael trafodaeth adeiladol ar y cynigion yn y cynllun, ac rwy'n eich annog chi a'ch etholwyr i ymateb iddyn nhw. Gyda'n gilydd, mae gennym gyfle i wella ansawdd aer ledled y wlad, er ein mwyn ni, er mwyn ein plant ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae maes polisi'r agenda aer glân yn hanfodol bwysig i'r Llywodraeth ac i wleidyddion o bob lliw a llun. Rwy'n mynd i ddarllen y datganiad hwn—rwy'n credu y bydd hynny ynddo'i hun yn fodd inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd dan sylw—
Mae marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd clefyd anadlol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy na 60 y cant ar gyfer dynion a 66 y cant ar gyfer menywod, o'u cymharu ag 11 y cant yn unig ar gyfer y ddau ryw pe byddech chi'n digwydd byw mewn maestref goediog braf neu yng nghefn gwlad.
Mae hwn yn ystadegyn brawychus yn wir, a dweud y lleiaf, ac yn fater mewn maes polisi y mae'r ysgogiadau i ymdrin ag ef yn ein dwylo ni, lle y gallwn ni wneud gwahaniaeth.
Mae'n werth myfyrio hefyd ar sefyllfa Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sydd wedi dangos bod allyriadau yng Nghymru rhwng 2015 a 2016 wedi codi 5 y cant, a, rhwng 2009 a 2016, wedi codi bron 1.5 y cant, o'i gymharu â gostyngiad o 5 y cant ledled y DU. Felly, mae'n amlwg nad yw'r dulliau y mae Llafur Cymru wedi bod yn eu defnyddio yn y maes penodol hwn wedi bod yn gweithio, er fy mod i'n credu bod datganiad y Gweinidog yn ddiffuant y prynhawn yma o ran ceisio newid y naratif ar y pwnc penodol hwn. Dyna pam ei bod yn destun gofid i mi fy mod i'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru am fethu â chyflwyno Deddf aer glân a deddfu'n wirioneddol yn y maes penodol hwn. Gallaf gofio'r tro cyntaf y gwnes i alw ar y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, i dynnu'r partneriaid ynghyd a chael trafodaeth wirioneddol i roi darn o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Yn anffodus, erbyn hyn, er gwaethaf ymrwymiad y Prif Weinidog presennol fel arweinydd, ni fyddwn yn gweld y Ddeddf hon gerbron y Cynulliad hwn. Rwy'n clywed y Gweinidog yn cyfeirio at Brexit fel un o'r problemau efallai, oherwydd y pwysau sydd ar ei hadran hi, ond ceir cytundeb ar y maes polisi penodol hwn ar draws y Siambr hon i gyflawni'r gwelliannau hyn. Ac, oni bai fod y gwelliannau hyn yn cael eu hymgorffori mewn cyfraith, ni fydd llawer o bartneriaid cyhoeddus a phartneriaid sector preifat yn gallu cyflawni'r gwelliannau sy'n ddyledus. Ac felly fe fyddwn ni'n annog y Gweinidog i fyfyrio unwaith eto ar y maes penodol hwn. Nid yw'r amser wedi dod i ben yn gyfan gwbl—mae bron 18 mis arall eto cyn yr etholiadau i'r Cynulliad, ac, fel y dywedais i, gydag ewyllys da, mae modd inni wneud cynnydd ar y mater hwn.
Fodd bynnag, os ydych chi'n parhau i benderfynu peidio â chyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—yn ôl yr hyn a ddeallaf yn y datganiad hwn, dim ond sôn am Bapur Gwyn yr ydym yma—a wnewch chi ymrwymo i neilltuo amser yng nghalendr y Cynulliad cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu er mwyn trafod y pwnc penodol hwn a phleidleisio ar unrhyw argymhellion a allai ddeillio o'r Papur Gwyn a'r ymgynghoriadau a gynhelir? Oherwydd credaf fod hwn yn faes pwysig, sef deall sut yn union y byddwch chi'n ymdrin â'r eitem benodol hon.
Yn ogystal â hynny, fel y clywsom yn y datganiad busnes, ceir problem fawr ynghylch llosgi yng Nghymru, a'r deunydd gronynnol sy'n deillio o hynny. Mae'n ymddangos bod cytundeb trawsbleidiol ar y mater penodol hwn ymhlith fy nghyd-Aelodau o etholaeth Sir Fynwy, yr Aelod dros Abertawe, neu'r Barri ym Mro Morgannwg yn fy rhanbarth i. A wnewch chi dynnu sylw heddiw at sut y bydd y strategaeth aer glân, neu'r cynllun, fel yr ydych chi wedi ei gyflwyno ef, yn ymdrin ac yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon yn y maes penodol hwn ynghylch llosgi?
Rydych wedi crybwyll bioamrywiaeth a phwysigrwydd creu diwylliant bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod, ysywaeth, bod ymdrechion Llywodraeth Cymru o ran plannu coed wedi taro ymhell iawn oddi wrth y nod. Sut y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y cynllun penodol hwn, wrth iddo sôn am gynyddu bioamrywiaeth ledled Cymru, mewn gwirionedd yn gallu cyflawni'r gwelliannau y soniwch amdanynt yn y maes penodol hwn?
Hefyd, rydych chi'n sôn am grŵp arbenigol—cafodd panel arbenigol ei sefydlu i edrych ar ymyriadau mewn lleoliadau domestig, ac, mewn gwirionedd, mae'n sôn am ddiddymu allyriadau o ffynonellau domestig yn gyfan gwbl. A wnewch chi ein goleuo ni ynglŷn ag union natur yr ymyriadau hynny, oherwydd mae'n ddatganiad beiddgar iawn? A pha ymyriadau fydd y Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni, oherwydd rwy'n tybio bod yr wybodaeth honno gennych chi, gan fod gennych banel o arbenigwyr, yn amlwg, yn rhoi cyngor ichi yn y maes penodol hwnnw?
Siomedig iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwneud gwelliannau i safonau Sefydliad Iechyd y Byd o ran ansawdd aer, dim ond i safonau'r UE yn unig, er eich bod yn cyfeirio'n fyr at hynny yn eich datganiad—y byddwch yn cael eich arwain, yn hytrach na dweud y byddwch chi'n dymuno gwireddu'r targedau hynny mewn gwirionedd. A wnewch chi egluro imi pam na wnewch chi osod y targed ymestynnol iawn hwnnw sydd gan Sefydliad Iechyd y Byd i chi eich hun, yn hytrach na thargedau'r UE, yr ydych chi'n anelu atyn nhw?
Rydym i gyd yn gefnogol i ragor o drafnidiaeth gyhoeddus, ond ceir rhaniad eglur iawn rhwng cefn gwlad a'r trefi. Mewn nifer o achosion, mewn mannau gwledig, yn anffodus, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o gwbl. Felly, fe fyddai'n dda iawn cael gwybod sut y byddwch chi'n llunio'r maes polisi a fydd yn galluogi'r gwelliannau hynny lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bodoli fel bod hwnnw'n ddewis gwerth chweil yn hytrach na defnyddio ceir preifat, heb gosbi pobl mewn mannau gwledig, lle, yn aml iawn, yr unig ddull o drafnidiaeth sydd ganddyn nhw yw defnyddio'r cerbyd modur preifat sydd wedi ei barcio wrth y tŷ.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr, yn amlwg, fel yr oeddech chi'n dweud, fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac, yn y pen draw, ein bod ni'n gweld ymateb gan y Llywodraeth sy'n mapio dyfodol y maes arbennig hwn. Ni allwn barhau i gael ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n tynnu sylw at y ffaith bod rhwng 1,400 a 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yn gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Rwy'n cyfeirio'n ôl at y datganiad agoriadol a wnes i yn y datganiad hwn ynglŷn â sut mae'r anghydraddoldebau—. Os ydych yn byw mewn ardal dlawd, mae yna siawns o 60-66 y cant y byddwch chi'n marw o anhwylderau anadlol, o'i gyferbynnu â siawns o 11 y cant os ydych chi'n byw mewn maestref goediog. Mae hwnnw'n anghydraddoldeb na allwn ni ei oddef na chaniatáu iddo barhau.
Yn ei bapur ar adnewyddu trefol, a gyflwynodd ryw 18 mis yn ôl, nododd fy nghyd-Aelod David Melding pa mor uchelgeisiol yw Ceidwadwyr Cymru yn y maes polisi penodol hwn, a sut y byddem ni'n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu parthau aer glân mewn lleoliadau trefol a mannau diogel o amgylch ysgolion. Felly erbyn 2021, ni fyddwn ni'n trafod hyn o hyd, bydd gennym gamau gweithredu, a gallwn gyfeirio at ardaloedd yng Nghymru a all fod yn batrymau o ragoriaeth, yn hytrach na'r ystadegau hynny a ddefnyddiais yn fy sylwadau agoriadol, sy'n dangos, mewn gwirionedd, fod ansawdd yr aer wedi dirywio yng Nghymru 5 y cant yn ddiweddar, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, lle mae wedi gwella 5 y cant.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir iawn yna o sylwadau ynglŷn â'r ymgynghoriad yr wyf i wedi ei lansio heddiw. Fe wnaf i fy ngorau i ateb eich holl gwestiynau. Mae'n rhaid imi ei alw ef i gyfrif am ddweud y drefn wrth Lywodraeth Cymru. Mae'n dda gweld Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yma yng Nghymru yn cydnabod y gwaith da yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rwy'n falch iawn o'r cynllun, ond fe gafodd cynlluniau'r Torïaid yn Lloegr eu disgrifio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fel cyfle a gollwyd gyda risg o golli tir. Felly, rwy'n dweud hynny ar fy union. Fodd bynnag, mae bron yn Nadolig, felly rwy'n falch iawn eich bod chi'n hapus i weithio gyda ni ynglŷn â hyn.
Yn sicr, rwy'n cofio papur David Melding, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi. Nid oes gennym yr holl atebion. Yn sicr, fe fydd yr ymgynghoriad hwn, rwy'n gobeithio, yn cyflwyno rhai ymatebion da iawn y gallwn ni fwrw ymlaen â nhw. Rydym wedi cael y rhaglen, rwy'n lansio'r ymgynghoriad arfaethedig heddiw, ac yna fe fydd gennym ni'r Ddeddf aer glân. Fe glywais i'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am y Ddeddf, a'r ffaith nad ydym yn ei chynnig yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i gynhyrchu Papur Gwyn cyn diwedd y tymor. Gwn ichi ddweud y byddwn ni'n rhoi'r bai ar Brexit. Wel, mae Brexit yn broblem enfawr i'm hadran i. Fe wyddoch fod fy adran i wedi mynd i'r afael yn llwyr â deddfwriaeth Ewropeaidd a chyllid a rheoleiddio, ac ati. Felly, mae wedi tynnu'r ffocws oddi ar bethau fel hyn. Hoffwn i'n fawr ddod â Deddf aer glân gerbron y tymor hwn, ond rwyf wedi ymrwymo i Bapur Gwyn.
Mae'n rhaid imi ddweud nad deddfwriaeth yw'r ateb i bopeth. Mae gennym ddulliau y gallwn eu defnyddio, ac rwy'n credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, o ran ansawdd aer a gwella ansawdd aer, yw adeiladu sylfaen o dystiolaeth nad oedd gennym o'r blaen. Yn aml iawn, buom yn edrych tuag at Lywodraeth y DU am mai gan y rheini oedd y dystiolaeth i gyd. Ond, erbyn hyn rwy'n credu bod gennym yr argyfwng hinsawdd, mae gennym y materion bioamrywiaeth yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, ac ansawdd yr aer. Er bod yna orgyffwrdd, tri pheth gwahanol iawn yw'r rhain ac mae'n rhaid inni ddod â nhw at ei gilydd.
Rhai o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud—. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod gan awdurdodau lleol bwerau ar hyn o bryd i gyflwyno parthau allyriadau isel, er enghraifft, a pharthau aer glân, felly mae hynny eisoes ar waith; nid oes angen mwy o ddeddfwriaeth arnyn nhw i allu gwneud hynny.
Roeddech chi'n cyfeirio at losgi gwastraff. Yn amlwg, nid fy nghyfrifoldeb i yw gwastraff, ond rwyf wedi cael sawl trafodaeth gyda Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynglŷn â llosgi a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n genedl gyfrifol. Mae'n rhaid ymdrin yn effeithiol â'r gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn ffordd na fydd yn llygru'r amgylchedd nac yn allforio'r broblem honno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Felly, er bod llosgi deunydd gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn uchel iawn o ran hierarchaeth gwastraff statudol, os mynnwch chi—mae'n uwch na thirlenwi—rwyf i o'r farn ei fod yn gam trosiannol. Mae angen inni ddod o hyd i ddatrysiad ar gyfer symud oddi wrth blastigau untro, er enghraifft, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried gwahardd neu gyfyngu ar rai cynhyrchion plastig untro.
Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â choetir. Nid ydym wedi bod yn plannu'r niferoedd o goed y byddem wedi hoffi gwneud, ond unwaith eto, fe welwch chi gynnydd yn hyn, oherwydd rwy'n sicrhau bod hynny yn digwydd.
O ran hylosgi domestig, mae hwn yn faes diddorol iawn, oherwydd yn amlwg mae hynny'n digwydd dan do, dyna lle mae pobl yn byw, ac yn anffodus fe all yr aer gael ei lygru. Felly, fe ofynnwyd y cwestiwn imi, 'A ydych chi'n mynd i wahardd stofiau sy'n llosgi pren?' Nac ydym. Ond, yr hyn y mae angen ei ystyried yw'r tanwydd a ddefnyddir. Felly, er enghraifft, rydym yn ceisio gwahardd coed gwlyb oherwydd gwyddom yn amlwg fod yn rhaid i'r tân weithio hyd yn oed yn galetach i gynhyrchu'r gwres, felly mae angen i bobl ddefnyddio coed sych. Os yw pobl yn defnyddio pren gyda farnais neu baent arno, er enghraifft, fe all hynny'n amlwg gynyddu'r cemegau. Felly, rwy'n mynd i ymgynghori ar gynigion cyn bo hir i wahardd neu gyfyngu ar werthu coed gwlyb a glo traddodiadol hefyd, oherwydd gwyddom fod peth o'r glo carreg di-fwg o Gymru, er enghraifft, yn cael ei ystyried yn gynnyrch glân.
O ran canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn gyda mi o'r blaen ac rwy'n credu imi ateb nad ydym yn gwybod eto a yw'n bosibl cyflawni canllawiau'r WHO ym mhobman ledled Cymru, na sut y gellid ei gyflawni o gwbl, mewn gwirionedd. Felly, rydym yn ystyried hynny. Rydym yn cydymffurfio â'r terfynau deddfwriaethol presennol ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, ond os edrychwch chi ar y canllawiau, rwy'n credu bod hynny tua 50 y cant yn fwy y mae angen inni edrych arno. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ofalus iawn. Unwaith eto, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar dargedau newydd ar gyfer deunydd gronynnol yng Nghymru, a bydd hynny'n rhoi ystyriaeth i ganllawiau'r WHO fel rhan o'r broses o ddatblygu Deddf aer glân i Gymru.
Eich cwestiwn olaf ynghylch trafnidiaeth—fe fyddwch chi'n ymwybodol y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn bwrw ymlaen â strategaeth drafnidiaeth a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Bydd hefyd yn cyflwyno'r Bil bysiau. Rwy'n cytuno'n llwyr, rydym eisiau gweld pobl yn newid eu hymddygiad, i ffwrdd o ddefnyddio'r car tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i'r drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog ynglŷn â phob agwedd ar hynny, o ran tacsis hefyd, er enghraifft, a defnyddio mwy o geir carbon isel. Felly, ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, byddwch chi'n gallu gweld y cysylltiad rhwng y rhain.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y cynlluniau aer glân? Yn amlwg, rwyf fi, yn gadeirydd i'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer Deddf aer glân i Gymru, yn awyddus i weld Deddf, yn y bôn. Rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud cyn belled ag yr aiff hynny, ond credaf fod angen gweithredu ar fyrder nawr. Fe ddaeth hi'n amser i weithredu ar fyrder, oherwydd mae'r gromen hon o aer yr ydym yn ei anadlu yn ddim ond 10 milltir o ddyfnder. Mae'n rhaid inni ofalu am hyn, wyddoch chi. Pan soniwn am deithio yn y gofod a'r pellter i'r planedau ac ati, rydym yn sôn am filiynau o filltiroedd a blynyddoedd goleuni ac ati, ond dim ond 10 milltir yw dyfnder yr aer yr ydym ni'n ei anadlu. Mae'n rhaid inni ofalu am hyn.
Nawr, wrth gwrs, gan fynd yn ôl mewn hanes, cawsom y Deddfau aer glân gwreiddiol a oedd yn ymateb i'r mwrllwch angheuol a'r tawch yn Llundain ym 1952 ac mewn dinasoedd mawr eraill, Manceinion a Lerpwl, yn yr 1940au a'r 1960au. Yna fe gyflwynwyd deddfwriaeth i gynhyrchu tanwyddau di-fwg. Yn amlwg, glanhawyd yr aer, ond ceir llygredd yn yr aer o hyd, ond y gwahaniaeth nawr yw nad ydym yn ei weld. Ond rydym wedi codi ein troed oddi ar y sbardun yn llythrennol gan nad ydym yn cael ein dallu gan y tawch hwnnw erbyn hyn. Ac yn amlwg, yr anghysonder arall oedd bod cynhyrchu'r tanwyddau di-fwg i Lundain yn golygu ein bod ni wedi rheoli'r broses o drosglwyddo'r llygredd aer gronynnol solet hwnnw yn Llundain, a'i drosglwyddo, yn lle hynny, i Abercwmboi yng Nghwm Cynon, a gafodd y gwaith o gynhyrchu'r tanwyddau golosg di-fwg—dyna ychydig o eironi.
Ond beth bynnag, hynny, ynghyd ag etifeddiaeth diwydiant trwm a'r llygredd a ddaw yn ei sgil, ac rydym yn dal i weld hynny gyda glo brig a'r diwydiant dur a metelau trwm fel nicel, mae'r llewygfa yno o hyd ar waelodion Cwm Tawe—. Felly, nid dim ond llygredd hanesyddol sy'n fyw iawn o hyd. Yn amlwg, fel y dywedwyd, rydym ni'n dal i'w gynhyrchu hefyd, yn weithredol, gyda phob math o ddamweiniau traffig a dosbarthiad y traffig ar y ffyrdd. Mae oedi anferthol ar yr M4 ar y gorau.
Nawr, rydym wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae gennym ni lefelau difrifol o lygredd aer yn niweidio iechyd ac yn lladd pobl nawr, heddiw. Dyna 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Mae gennym ni lefelau cynyddol o asthma, mae gennym ni lefelau cynyddol o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, rydym wedi etifeddu niwmoconiosis i'r glowyr, silicosis i'r chwarelwyr, ceir asbestosis mewn mannau o hyd, ac mae gennym ni gyfraddau cynyddol o ffibrosis codennog idiopathig—ystyr idiopathig yn Lladin yw 'Nid ydym yn gwybod beth sy'n ei achosi'. Ond rwy'n amau y byddwn ni, un o'r dyddiau hyn, yn canfod mai llygredd aer sy'n ei achosi, yn bennaf oherwydd ein hagwedd ddi-hid at lygredd aer dros y cenedlaethau. Mae anadlu deunydd gronynnol 2.5 yn lladd pobl, mae nitrogen deuocsid yn lladd pobl hefyd, gall nanogronynnau plastig gael eu hamsugno i'r system waed, i system cylchrediad y gwaed a'r galon. Felly, mae gennym ni Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sydd angen newid sylweddol a difrifol o ran ei gweithredu. Felly fy nghwestiwn cyntaf i yw: beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i wireddu newid sylweddol yn y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes?
Yn ogystal â hynny, fel y clywsom—. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â dwy ymgyrch o leiaf i atal datblygiadau ar gyfer llosgydd—yn Nhywyn Crymlyn ar bwys Abertawe ac yn Llansamlet yn Abertawe hefyd bellach. A wnaiff y Gweinidog gytuno—? Mae hi wedi clywed y sylwadau eraill am losgyddion arfaethedig mewn ardaloedd eraill, ym Mrynbuga ac yn y Barri, nid yr un yn Llansamlet yn unig; a wnewch chi gytuno ar foratoriwm ar adeiladu llosgyddion, o leiaf mewn ardaloedd preswyl ac yn agos at ysgolion? Oherwydd, os oes argyfwng newid hinsawdd ac os ydym ni'n sôn am yr holl farwolaethau hyn oherwydd llygredd aer, 'does bosib y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch.
Ac, fel y dywedais, rwyf i'n bersonol yn ffafrio deddfwriaeth. Nid oes dim byd tebyg i gefnogaeth gyfreithiol i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithredu yn hytrach na gwneud cynlluniau, ni waeth pa mor ddiffuant ydyn nhw. Deddf aer glân i ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn y gyfraith; Deddf aer glân i orchymyn Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd; Deddf aer glân i roi dyletswydd statudol gyfreithiol ar awdurdodau lleol i fonitro llygredd aer, i asesu llygredd aer, i gymryd llygredd aer o ddifrif a chymryd camau i'w rwystro, i ystyried y pryderon o ddifrif oherwydd llygredd aer mewn ceisiadau cynllunio; ac mae angen Deddf aer glân arnom ni i gyflwyno'r hawl i anadlu, lle mae'n rhaid i gynghorau lleol ddweud wrth grwpiau sy'n agored i niwed pan gaiff lefelau penodol eu torri. A gaf i wahodd y Gweinidog i gytuno ar y pwynt olaf hwn?
Ac felly, yn olaf, gan fod pawb yn cwyno bod y gwasanaeth iechyd yn costio mwy o arian o flwyddyn i flwyddyn, nid oes unrhyw un yn credu ym muddsoddi mewn newid ymddygiad i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Na, rydym yn lladd ar y GIG am amsugno arian, pan fo'n rhaid i'r gwasanaethau iechyd fynd i'r afael â'r problemau y dylai Llywodraethau fod yn ei datrys yn y lle cyntaf. Felly, mae gennym ni agenda gordewdra sy'n achosi cynnydd mewn diabetes a chynnydd mewn canser, wel, deddfwch am 120 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos mewn ysgolion, felly. Gwaherddwch hysbysebu gwael a bwyd sothach. Defnyddiwch arian o dreth siwgr yng Nghymru ar gyfer yr agenda addysg hon. Peidiwch â rhoi'r bai ar iechyd am orfod ymdrin â'r canlyniadau. Ac, o ran llygredd aer, ie, deddfwriaeth i lunio Deddf aer glân, i fynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol hynny o asthma, i fynd i'r afael â COPD, y lefelau cynyddol o rai sy'n dioddef o ffibrosis idiopathig ysgyfeiniol, y niwed i ysgyfaint plant sy'n tyfu. Nid ydym mwyach yn goddef dŵr budr, ni ddylem oddef aer budr mwyach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y gwaith o leihau allyriadau yn y ffordd gyflymaf bosibl ar ôl cael ei gweld yn torri rheoliadau'r UE bron dwy flynedd yn ôl—23 mis yn ôl, i fod yn fanwl gywir. Peidied neb â'm cyhuddo i o orliwio'r mater. Bron dwy flynedd yn ôl, fe'i cafwyd yn euog o dorri rheoliadau'r UE ar lygredd aer. Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig y dylai'r Siambr hon eistedd am ddiwrnod ychwanegol er mwyn cyflwyno polisïau a fframweithiau a nodir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus y mae llygredd aer yn ei gyflwyno heddiw? Dwy fil o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru. Pe byddai hwn yn gyffur, pe byddai hwn yn dabled, fe fyddem ni'n neidio lan a lawr er mwyn ei wahardd a'i ddatrys mewn mater o ddyddiau neu wythnosau. Mae yna gynllun a Phapur Gwyn, ac efallai y bydd yna ddeddfwriaeth ymhen 18 mis. Mae'r her yn ddifrifol. Nawr yw'r amser. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Dai Lloyd, am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddwy flynedd a fu, ac fe glywsoch fy ateb i Andrew R.T. Davies ynglŷn â'r dewisiadau anneddfwriaethol sydd gennym ni a'r rhai yr ydym wedi eu rhoi ar waith. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn, ac rwyf wedi nodi hefyd yn fy natganiad llafar y camau gweithredu y byddwn ni'n eu rhoi ar waith.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, am newidiadau o ran ymddygiad. Ac rwyf newydd fod yng Nghynhadledd y Partïon 25 ym Madrid am ychydig ddyddiau, ac roedd yn ddiddorol iawn siarad â'm cymheiriaid o bob cwr o'r byd am newid ymddygiad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd, ac rydym yn gweld beth sy'n digwydd os nad ydych yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. Ac rwy'n credu, yng Nghymru, bod gennym ni hanes da o ran newid mewn ymddygiad. Os ydych chi'n ystyried ailgylchu, roeddem ar waelod y tabl cynghrair ailgylchu 20 mlynedd yn ôl ar ddechrau datganoli. Rydym ni'n drydydd yn y byd erbyn hyn. Ac mae hynny, yn fy marn i, oherwydd arweiniad gan Lywodraeth Cymru a chyllid, ymgysylltiad ein hawdurdodau lleol ac, yn bwysicaf oll, y cyhoedd yn gwneud felly hefyd. Os ydych chi'n meddwl am roi organau—unwaith eto, rydym ni'n arwain y ffordd o ran newid ymddygiad. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o beryglon ansawdd aer drwg, a'u bod nhw'n deall y camau y gall pob un ohonom ni eu cymryd, ac weithiau mae'n anodd gwybod pa newidiadau y gallwch chi eu gwneud yn eich bywyd chi eich hun er mwyn gwella'r sefyllfa. Felly, rwy'n nodi yn fy natganiad llafar y gwaith y byddwn ni'n ei wneud ynglŷn â newid ymddygiad. Rwy'n credu bod pobl wedi cyrraedd y fan nawr lle nad ydyn nhw eisiau i rywun ddweud wrthynt beth na chânt ei wneud; maen nhw'n awyddus i gael gwybod beth y gallan nhw ei wneud. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n eu galluogi nhw i wneud hynny.
Rydych chi'n cyfeirio at ein treftadaeth ni o ran diwydiant trwm ac ynghylch glo, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol, nawr, fod cloddio am lo wedi gostwng i lefel lle nad oes ond nifer gymharol fach o safleoedd glo brig yn weithredol o hyd yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod bod ein treftadaeth ddiwydiannol yn seiliedig ar lo, ac mae gan hynny ran bwysig iawn ym mywyd y Cymry o hyd. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw dod o hyd i ddewisiadau carbon isel yn hytrach na glo, ar gyfer ynni a defnydd diwydiannol arall. Felly, mae angen y newid cyflym hwnnw tuag at ddiwydiannau ynni glân. Ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwarchod ac yn diogelu'r mannau hynny lle mae pobl yn byw ac yn gweithio.
Roeddech chi'n cyfeirio at yr M4. Fe fyddwch yn ymwybodol bod comisiwn Burns yn gwneud darn o waith i'r Prif Weinidog ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr y bydd ansawdd yr aer yn rhan o—. Mae angen inni edrych ar ran o'r datrysiad ar gyfer yr M4 ac, yn amlwg, ansawdd yr aer, a gwella ansawdd yr aer.
Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r pum nitrogen deuocsid—rydym ni wedi rhoi cyfyngiadau 50 mya mewn pum parth i leihau nitrogen deuocsid ac, yn sicr, mae'r data dros dro a gafodd y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi dangos y gwelliannau yn sgil y parthau 50 mya hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau.
O ran teithio llesol, rydym yn rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian tuag at deithio llesol. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi lansio'r cynllun cyflawni carbon isel yn ôl ym mis Mawrth, ac fe ofynnais i bob Gweinidog edrych ar y cynlluniau a'r cynigion yn y rhain i weld a oedd angen iddyn nhw gael eu diweddaru yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd, ond mae ansawdd yr aer yn rhan o hynny hefyd, ac mae teithio llesol yn faes y gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Dirprwy Weinidog wedi rhoi mwy o arian tuag ato.
Ynghylch llosgi gwastraff, mae hynny yn nwylo'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a gwn y gofynnwyd iddi hi ystyried moratoriwm, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni maes o law.
Mae'n amlwg bod gan gynllunio swyddogaeth aruthrol. Ac, unwaith eto, rhoddwyd sylw i ansawdd yr aer a seinwedd yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Mae honno'n elfen allweddol o'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, ac mae'n gosod y materion ar sail gyfartal ag amcanion eraill fel tai, trafnidiaeth a datblygu economaidd.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog y prynhawn yma. Llygredd aer yw un o broblemau mwyaf ein hoes ni, ac mae'n fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Drwy'r byd, rydym nid yn unig yn cynhesu'r atmosffer o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond rydym hefyd yn difrodi'r gynhaliaeth bwysicaf sydd gennym ni: yr aer a anadlwn ni.
Yng Ngorllewin Casnewydd, mae gan ardaloedd fel Caerllion, sydd, oherwydd ei harwyddocâd hanesyddol, â ffyrdd cul, poblogaeth sy'n tyfu a dewisiadau gwael o ran trafnidiaeth gyhoeddus—mae hynny'n creu storm berffaith o lygredd aer. Yng Nghasnewydd, mae gennym ni'r M4 hefyd yn ymestyn drwy galon y ddinas, yn agos at dai ac ysgolion, a lle mae traffig yn aml yn aros yn yr unfan heb symud. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll eisoes y bydd hyn ar agenda comisiwn Burns. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n galed i gyflwyno cynigion i wella ansawdd aer yn ein dinas ni, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud eto.
Mae'n rhaid inni gael camau i leihau traffig ar bwys ein hysgolion ni. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd disgyblion o ysgol gynradd Maesglas yn fy etholaeth i brotest newid hinsawdd ar hyd ffordd brysur ger eu hysgol nhw, yn galw am newid. A'n ddyletswydd ni yw gwrando ac ymateb i'r galwadau hyn.
Fe all y pethau bychain helpu. Er enghraifft, traffig sy'n aros yn yr unfan yn aml iawn sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd aer y tu allan i ysgolion. Gall un funud yn unig o injan car yn troi lenwi 150 o falwnau gyda mwg ecsôst. Felly, i'r rheini y mae'n rhaid iddynt yrru car ar yr adeg honno o'r dydd, byddai eu hannog nhw i ddiffodd eu hinjans pan fyddan nhw wedi parcio yn helpu i leihau llygredd yn yr aer.
Rhywbeth arall sy'n gymharol syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yw plannu coed. Mae coed trefol yn arbennig o effeithiol yn amsugno carbon deuocsid, gydag un astudiaeth yn dangos bod parthau gwyrdd trefol yn amsugno cymaint o garbon deuocsid â fforestydd glaw. Gwyddom am uchelgais Llywodraeth Cymru o ran plannu coed, ond mae modd gwneud mwy, a hynny gyda chyflymder ac yn ddi-oed. I lawer o ysgolion, nid oes unrhyw goed na gwrychoedd wrth ymyl y ffordd. Fe allai mesurau o'r fath helpu gyda lefelau llygredd, a helpu i wasgaru mygdarth. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i'w hannog nhw i blannu mwy o goed a fyddai'n addas ar eu tir nhw?
Ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o weld y bydd yr ymgynghoriad hwn yn adolygu'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag allyriadau yn sgil llosgi tanwyddau ffosil dan do, fel coed a glo. Mae llygredd dan do yn fater o bwys, ac yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu yn aml iawn. Hoffwn i hefyd groesawu'r ffaith y caiff coelcerthi a thân gwyllt eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i lefelau allyriadau niweidiol.
Yn olaf, mae mynegai o amddifadedd lluosog Cymru 2019 wedi dangos bod lefelau uchel o aer o ansawdd gwael i'w cael mewn ardaloedd o amddifadedd mawr. Mae ambell i ardal yn fy etholaeth i ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda'i chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?
Diolch i chi, Jayne Bryant. Fe fyddwch chi wedi clywed fy ateb i gyd-Aelodau ynglŷn â'r M4 yn flaenorol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r comisiwn ystyried yr holl broblemau a'r cyfleoedd a'r heriau a'r amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thagfeydd o amgylch yr M4. Ac rwy'n deall y bydd yna adroddiad interim—rwy'n credu y bydd hynny cyn diwedd eleni, y byddaf i, wrth gwrs, â diddordeb mawr ynddo.
Ynglŷn ag ansawdd aer ac ysgolion, unwaith eto, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Ac os edrychwch chi ymhle yr ydym ni'n treulio ein hamser, rydym yn treulio ein hamser dan do—ac rwy'n dychwelyd at yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am hylosgiad domestig—ac yn y gweithle hefyd, ac, wrth gwrs, y tu allan—mannau fel ysgolion. Felly, fe fyddwch chi'n ymwybodol o'n canllawiau statudol ni i awdurdodau lleol—fe wnaethom ni gyhoeddi'r rhain yn 2017—a oedd yn cydnabod ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymysg eraill, fel lleoliadau sensitif ar gyfer derbynyddion. Ac fe wyddom ein bod ni wedi—. Rydym wedi rhoi canllawiau i orfodi awdurdodau lleol i gymryd dull sy'n seiliedig ar risg wrth leoli eu monitorau. Mae angen iddyn nhw gael eu llywio gan y mannau y mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn debygol o fod yn agored i'r lefelau uchaf o lygredd aer, ac, yn amlwg, mae ysgolion yn faes lle mae angen gwneud hyn. Soniais eisoes fod gennym ni ddulliau, ac mae gan awdurdodau lleol bwerau—yn arbennig o ran injans yn aros yn yr unfan; rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.
Plannu coed—unwaith eto, mae Aelodau eraill wedi codi'r mater nad ydym ni'n plannu digon o goed, fel y dylem ni fod yn ei wneud, ond, fel y dywedais rydym yn gwneud cynnydd yn hyn o beth. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog i goedwig genedlaethol. Ac o fewn y goedwig genedlaethol honno, rydym ni'n edrych ar gysyniad a elwir yn goedwigoedd bychain, lle mae gennych chi lecyn o faint cwrt tenis, efallai, y gellir ei ddefnyddio i blannu coed i sefydlu'r goedwig fechan honno. Felly, rydym yn edrych ar ysbytai, er enghraifft; a byddai ysgolion yn faes arall lle y gallem ni weithio efallai, i weld a oes modd gwneud hynny.
Llygredd dan do—soniais y byddwn yn ceisio gwahardd coed gwlyb, oherwydd gwyddom fod coed gwlyb yn defnyddio mwy—mae angen mwy o ynni o'r tân i'w losgi. Felly, byddwn yn ceisio gwneud hynny. Ac o ran rhai mathau o lo sy'n llygru mwy nag eraill, byddwn yn cymryd cyngor pellach ar hynny, ac yn ymgynghori ar gynigion i gyfyngu ar y defnydd o lo bitwminaidd wrth symud ymlaen.
Ynglŷn â choelcerthi a thân gwyllt, mae hyn yn rhywbeth a godir yn aml iawn o ran llygredd sŵn. Ond, fel y dywedwch, gall gael effaith ar ansawdd aer hefyd, yn amlwg. Felly, unwaith eto, rwy'n edrych ymlaen at glywed ymatebion i'r ymgynghoriad ynglŷn â hynny. Ar draws y Llywodraeth, mae llawer—yn ôl pob tebyg, y rhan fwyaf o'm cyd-Aelodau yn y Cabinet yr wyf i'n ymwneud â nhw—. Soniais i o'r blaen fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi cael ei newid ddiwedd y llynedd i sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried ac yn amlwg, gyda Ken Skates, o ran y strategaeth drafnidiaeth—rwyf wedi cael trafodaethau sylweddol gydag ef ynghylch hynny, ac rwy'n gwybod ei fod eisiau lansio'r strategaeth yn y dyfodol agos iawn o ran sut y gallwn ni fynd i'r afael â llygredd aer a achosir gan drafnidiaeth.
Ond rwy'n dychwelyd at newid ymddygiad. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n clywed yr hyn y mae pobl yn credu y gallan nhw ei wneud. Ac rwy'n credu, o edrych ar yr ymgynghoriad a lansiais heddiw, ac rwy'n ymbil ar yr Aelodau i annog eu hetholwyr i gyflwyno—efallai na fyddai etholwyr unigol yn meddwl am gyflwyno'r math hwn o ymgynghoriad. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni ddefnyddio sefydliadau sy'n bodoli eisoes fel Awyr Iach Cymru a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i'n helpu ni gyda'r cynllun hwn.
Gweinidog, a gaf i ganmol gwaith Awyr Iach Cymru, sef y grŵp ymbarél sy'n ymgyrchu dros Ddeddf aer glân? Ac rwy'n credu os edrychwch chi ar eu llenyddiaeth nhw a'r deunydd ymgyrchu fe welwch chi'n glir pam mae angen Deddf arnom i wreiddio canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd, i sicrhau ein bod ni'n gorchymyn strategaeth ar ansawdd aer bob pum mlynedd, ac yn sicrhau hefyd fod yna ddyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddull cydlynol iawn ac mae cytundeb trawsbleidiol yn y fan hon mai dyma'r hyn sydd ei angen. Felly, rwy'n credu bod llawer o bobl yn siomedig nad ydym yn mynd i weld hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Fe gafodd hyn ei godi yn nyddiau cynnar iawn y Cynulliad, oherwydd efallai y cofiwch nad oedd sôn am aer glân yn rhaglen y Llywodraeth o gwbl, ac fe gafodd y Llywodraeth, yn gwbl briodol, ei beirniadu'n hallt ledled y sector oherwydd hynny.
A gaf i ddweud yn fwy cadarnhaol nawr ein bod ni, yn ein dogfen 'Dinasoedd Byw', wedi edrych hefyd ar y sefyllfa o ran ysgolion yn benodol, oherwydd ein bod yn credu y gallwn ni symud yn gyflym iawn yn hyn o beth? Fe soniodd Jayne Bryant am geir yn aros yn eu hunfan a'u hinjans yn troi—yr holl fater o ollwng plant o geir wrth yr ysgol, gan greu cyfradd enfawr o lygredd. Nid oes gennym ddata gwych iawn, felly un peth y gallem ei wneud yw bod pob ysgol yn gorfod monitro ansawdd yr aer, yn enwedig o gwmpas y mannau gollwng plant ac unrhyw ffordd brysur. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n codi'r safon yn hyn o beth ac yn sicrhau bod gan ein dinasyddion iau yr hawl i anadlu aer o'r ansawdd gorau posibl, ac mae hynny'n rhywbeth y gallech chi ei wneud yfory nesaf, neu o leiaf ddechrau ar y broses yfory nesaf.
Diolch, David Melding ac, yn amlwg, mae fy swyddogion i, yn arbennig, wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag Awyr Iach Cymru. Roeddwn i'n falch iawn eu bod nhw'n croesawu'r cynllun y bore yma a byddaf i'n sicr o barhau i weithio gyda nhw. Rwyf newydd ddweud, yn fy ateb i Jayne Bryant, fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gweithio gyda'n rhanddeiliaid wrth symud ymlaen.
Yr ymrwymiad ym maniffesto'r Prif Weinidog oedd gwella ansawdd aer drwy ddatblygu Deddf aer glân i Gymru. Fe fyddai hynny'n sicr yn darparu mecanwaith ffurfiol, ac rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd y tymor hwn. Ond fel y dywedais, mae ystod eang o ddulliau ar gael inni ar gyfer gweithredu nawr i wella ansawdd aer, ac ar hyn o bryd mae gan awdurdodau lleol bwerau, er enghraifft, i gyflwyno parthau allyriadau isel a pharthau aer glân, naill ai drwy godi tâl neu heb godi tâl. Mae ganddyn nhw, hefyd, y pwerau i gyflwyno dirwyon ar gyfer injans ceir yn troi'n ddiangen, y cyfeiriasoch ato fel problem. Ond rwy'n credu bod angen inni ystyried sut y gallwn ni rymuso'r pwerau hyn drwy Ddeddf aer glân, a dyna fwriad y Llywodraeth hon yn bendant.
Wrth sôn am ysgolion, pan soniais wrth Andrew R.T. Davies fy mod i wedi bod ym Madrid ar gyfer y cyfarfod COP25 yn ddiweddar, sy'n dal i fynd rhagddo, un o'r pethau a welais i ym Madrid oedd waliau byw. Felly, mae yna waliau gwirioneddol uchel anhygoel wedi cael eu gorchuddio â gwyrddni ac yn cael eu dyfrhau o'r tu mewn. Tybed pam nad oes gennym ni fwy o waliau o'r fath yn y wlad hon, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n awyddus iawn i'w ddatblygu.
Ac roeddech chi'n siarad am ysgolion yn monitro ansawdd eu haer nhw. Rwy'n credu imi sôn wrth Jayne Bryant fod angen iddyn nhw ddilyn dull sy'n seiliedig ar risg wrth leoli eu monitorau. Y nhw sy'n adnabod y boblogaeth leol a'r ardal leol orau ac mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod yn edrych ar ein canllawiau ni ynglŷn ag ysgolion a llwybrau teithio llesol.
Gweinidog, a gaf i groesawu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw, ac a gaf i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun gweithredu gwirioneddol, oherwydd mae hynny'n hanfodol? Rwy'n sylwi bod sawl cyfeiriad at Bort Talbot. Fel y gallwch ddeall yn llwyr, mae'r goblygiadau i Bort Talbot yn aruthrol. Mae gennym draffordd yn mynd drwy'r ardal. Mae gennym y gwaith dur a diwydiannau eraill yma hefyd. Yn wir, mae gennym gyfuniad o bopeth y mae eich cynllun chi'n sôn amdano. Felly mae gennyf ychydig o gwestiynau, a byddaf yn ceisio cadw at fy nau gwestiwn oherwydd gwn y byddai'r Dirprwy Lywydd yn hoffi canolbwyntio ar gwestiynau ar yr adeg hon.
O ran y materion ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru', fe wnaethoch chi siarad yn gynharach mewn ymateb i hyn. Mae'n bwysig inni gael cefnogaeth i hynny unwaith eto, oherwydd mae'n rhaid rhoi sylw i'r modd y bydd y cynlluniau datblygu lleol yn ystyried y mater hwn o ansawdd aer a rheoli ansawdd aer. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cynigion cynllunio a fydd yn cynnwys naill ai losgyddion neu ryw fath o elfen a fydd yn cynyddu llygredd aer yn yr ardal dan sylw, boed honno'n ardal breswyl neu'n ardal ddiwydiannol. Felly, a fyddwch chi'n edrych ar awdurdodau lleol ac yn gofyn iddyn nhw adolygu eu CDLlau i sicrhau eu bod yn gyfredol ar gyfer bodloni'r cynllun hwn?
O ran traffyrdd, fel y dywedasoch, mae'r darn o'r M4, rhwng cyffyrdd 41 i 42 yn fy ardal i, yn un o'r parthau y bu'n rhaid ei gyfyngu i 50 mya. Unwaith eto, a wnewch chi fy sicrhau i, rhoi sicrwydd imi, eich bod chi'n trafod â'r Gweinidog i ystyried sut yr ydych chi am ymdrin â'r mater hwnnw, oherwydd bydd dargyfeirio traffig yr M4 ar ffyrdd lleol yn dirywio ansawdd yr aer i'r trigolion yn yr ardaloedd ger y ffyrdd lleol hynny, yn enwedig i'r plant, gan eu bod nhw'n cerdded ar hyd y ffyrdd hynny i'w hysgolion? Felly, nid yw hwn yn ddatrysiad; mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion eraill, yn hytrach na chau cyffyrdd yn unig neu ddargyfeirio traffig oddi ar yr M4 ar ffyrdd lleol.
Fe dynnodd Andrew R.T. Davies sylw at fater trafnidiaeth gyhoeddus ac, unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig. Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus. A wnewch chi ofyn iddo ef sicrhau y bydd hwnnw'n bodloni'r cynllun hwn, oherwydd ceir llawer o ardaloedd lle nad oes gan bobl gar a'r bws yw eu hunig ddewis nhw? Os ydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu defnyddio'r bws, yna mae'n rhaid bod bws yno i'w ddefnyddio. Felly, mae'n rhaid i'r Bil hwnnw sicrhau ei fod yn rhoi'r baich ar ardaloedd lle nad oes unrhyw ddewis amgen na cheir ar wahân i fws, a sicrhau bod y bysiau hynny ar gael.
Rwy'n croesawu'r adolygiad o'r cynllun gweithredu ar gyfer Port Talbot—mae'n amser inni gael hwnnw—ond a wnewch chi sicrhau ei fod yn ystyried llwch niwsans yn ogystal â'r gronynnau PM10, PM 2.5 a nitrogen deuocsid? Oherwydd, er y gallai pobl feddwl nad yw hynny o reidrwydd yn fater sy'n ymwneud ag iechyd mewn un ffordd, rydym yn awyddus i ymdrin â lles pobl hefyd, ac mae'r rhain yn effeithio'n fawr iawn ar fy etholwyr i yn hyn o beth.
Rwy'n croesawu'r cyfeiriad at lygredd dan do yn y datganiad ac mae angen rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hynny, oherwydd fe es i lan i'r atig yr wythnos diwethaf, i ddod ag addurniadau'r Nadolig i lawr. Pan edrychwch chi ar y cynllun a pha faterion sy'n effeithio ar eiddo dan do, rydych chi'n dechrau sylweddoli sut y gall rhywbeth syml effeithio ar bawb ohonom, ond efallai nad yw pobl yn gwybod hynny. Nid oeddwn i'n ymwybodol o rai o'r pwyntiau yn y cynllun hwn.
Mae newid ymddygiad yn bwysig, ond mae angen dewisiadau amgen arnom os ydych chi'n dymuno newid ymddygiad, a dyna'r broblem. Weithiau, nid yw'r dewisiadau amgen hynny ar gael ar gyfer achosi newid ymddygiad. Gadawaf bethau yn y fan honno, rwy'n credu.
Diolch. [Chwerthin.]
Diolch i chi, Dai Rees, am y pwyntiau yna. Rwyf am gyfeirio at Bort Talbot a Tata Steel ac, yn amlwg, nid yw'r Aelod byth yn colli cyfle i drafod ansawdd aer ym Mhort Talbot gyda mi. Fel y gwyddoch, rhoddwyd y cynllun gweithredu tymor byr ar waith i atal gormodiant o ran terfynau cyfreithiol a diogelu iechyd trigolion yn benodol. Nid ydym erioed wedi mynd uwchlaw'r terfynau cyfreithiol Ewropeaidd ar gyfer deunydd gronynnol ym Mhort Talbot; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn gwneud y pwynt hwnnw. Serch hynny, fel gyda llawer o'r pethau hyn, mae'n ymwneud ag amgyffrediad, a gwn eich bod chi wedi gofidio bod eich etholwyr wedi byw gyda llawer o lwch. Rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn gynharach mai pethau anweledig sy'n achosi'r problemau mwyaf, nid yr hyn a welwn ni. Eto i gyd, yr amgyffrediad yw mai hynny sy'n niweidiol iawn.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am y parth 50 mya; nid ydych eisiau canlyniadau gwrthnysig. Wrth i'r strategaeth drafnidiaeth gael ei chyflwyno—rwy'n credu bod y Gweinidog yn ei chyflwyno yr wythnos nesaf—yn sicr, fe allwn ni sicrhau bod y cynllun hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth honno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, a'r Bil trafnidiaeth gyhoeddus hefyd, oherwydd rydych chi'n iawn: ni allwn ddisgwyl y bydd pobl yn gwneud y newid moddol hwnnw i ffwrdd o'r car.
Yn fy marn i, mae angen ystyried yr effaith economaidd hefyd o ran trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd, os yw pobl yn edrych ar y gost a'i bod yn llawer rhatach teithio yn y car, bydd hynny hefyd yn siŵr o effeithio ar bobl. Yn ogystal â hynny, os ydych chi'n eistedd mewn bws ac rydych chi'n eistedd mewn bws sy'n teithio tu ôl i 200 o geir, fe fyddwch yn amau a yw'n werth y drafferth. Er hynny, os oes yna lôn fysiau ac rydych chi'n gallu defnyddio'r lôn fysiau a theithio'n gyflymach o lawer—. Rwy'n credu mai pethau syml fel hyn sy'n cyfrif oherwydd, fel y dywedais i, rwy'n credu bod Cymru wedi arwain y ffordd o ran newid ymddygiad gydag ailgylchu a rhoi organau, felly rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny yn y maes hwn hefyd.
O, mae'n ddrwg gennyf, fe wnaethoch holi am gynllunio hefyd, ac fe ddywedais i fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi newid, ond mae'n bwysig i awdurdodau lleol edrych ar y cynllun aer glân hwn yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn gweddu.
Iawn. Mae'r amser wedi dod i ben, ond mae gen i ddau siaradwr arall ac rwy'n siŵr mai dim ond gofyn cwestiynau y byddan nhw. Huw Irranca-Davies.
Fel hyn y bydd hi bob amser arnaf i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cyffredinol i'r datganiad a'r cyhoeddiadau heddiw, ond, fel i lawer o unigolion a mudiadau y tu allan, mae hyn yn debyg i'r foment yn y rhaglen deledu 'Bake Off', lle maen nhw'n disgrifio'r hyn y maen nhw am ei bobi a ninnau'n llyfu ein gweflau wrth feddwl am hynny, ond rydym yn aros mewn gwirionedd i weld beth ddaw allan o'r ffwrn? Felly, mae rhywfaint o ddisgwyl o ran amserlenni a manylion ac ati, ac rwy'n siŵr y daw hynny. Ond a gaf i ddweud—? Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n ei olygu drwyddo draw: dyma'r hyn sy'n cyfateb heddiw i epidemigau colera yn Llundain yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai mater yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yw hwn ac mae'n dangos pa gamau sydd angen eu cymryd. Y cwestiwn nawr yw, a ydym yn bwriadu symud yn gadarn ac yn ddi-oed i gymryd y camau gwirioneddol angenrheidiol? Ac mae'r Gweinidog wedi disgrifio rhywfaint o hynny yn ei datganiad heddiw a rhai o'r syniadau o ran yr hyn y gallem ni ei wneud. Yr hyn y mae angen inni ei wneud nawr yw gweithredu arnyn nhw a bwrw ymlaen â nhw.
Felly, gadewch imi ofyn rhai cwestiynau penodol yma—a mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn, oherwydd mae hyn yn effeithio'n fwy ar y cymunedau mwyaf difreintiedig ac ar blant yn eu hysgolion nhw. Felly, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar drafnidiaeth. Yn gyntaf oll, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: onid oes raid inni wneud nawr yr hyn y mae'r hierarchaeth teithio llesol yn ei ddweud, sef buddsoddi'r arian mwyaf mewn beicio a cherdded a chludiant cyhoeddus, a bod y blychau metel bychain yr ydym ni'n teithio ynddyn nhw—eu bod nhw ar waelod y rhestr, nid ar frig y rhestr fel y maen nhw nawr? Mae hynny'n rhan o'r dilyniant i ymdrin â'r mater hwn o ansawdd aer. Oherwydd rydym ni'n llythrennol—yn gwbl lythrennol—bellach wedi gyrru ein hunain i lawr ffordd bengaead o ran ansawdd aer, lle'r ydym ni'n eistedd mewn bocsys metel sydd ag aerdymheru, seinyddion a seddi cynnes, ac yn gollwng ein plant wrth yr ysgol, gan gystadlu'n wyllt â mamau a thadau eraill i balu trwy'r llinellau melyn igam-ogam. Yna rydym yn taro ein pen yn erbyn olwyn llywio'r car wrth eistedd mewn tagfa ddyddiol arall ar y draffordd neu mewn ras annifyr ar ffordd gefn ar ein ffordd i'r gwaith mewn trefi a dinasoedd. Nawr, efallai fod Chris Rea yn un o'r bobl hynny sydd wedi cyfrannu fwyaf i'r Blaid Geidwadol, ond roedd yn ŵr doeth iawn pan ddywedodd yn ei gân
'this is the road to hell.'
Felly, a gawn ni edrych ar—? Pa mor fuan y gallwn ni edrych ar gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya? Rydym wedi siarad amdanyn nhw. Dyma'r syniad cywir. Mae angen inni fwrw ymlaen â hyn nawr. Pam nad yw parthau gwahardd o'r ysgol yn cael eu crybwyll yn benodol? Gobeithio nad ydych chi wedi eu diystyru nhw. Gobeithio, yn yr ymgynghoriad, y bydd parthau gwahardd ysgolion, lle y gallwn ni naill ai ddweud wrth rieni, 'cerddwch neu beiciwch gyda'ch plant i'r ysgol, ac ewch gyda nhw'—fel y gwnes i fy hunan, nid wyf yn siarad ar fy nghyfer yma—'neu, fel arall, parciwch mewn man arall a cherddwch'. Y cyfleusterau parcio a rhodio sy'n cael eu cynnal gan Sustrans, Dinasoedd Byw ac yn y blaen—
Ie. Ac yn olaf.
Ac yn olaf—. Yn olaf—bobl bach, fel hyn y bydd hi arnaf i bob amser pan wyf i'n gwybod bod eraill wedi siarad am—. Mae'n flin gennyf. Fy mhwynt olaf i, felly, yw: a ydych chi wedi cael amser i ystyried y cynigion ynglŷn ag egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud Sustrans, sef y syniad na ddylid datblygu unrhyw gymuned yng Nghymru lle mae mwy nag 20 munud o waith teithio ar feic i gyrraedd pob math o wasanaeth hanfodol? Oherwydd, yn hynny o beth, gallwn eu hatal rhag gyrru i bobman a gallwn fwrw ymlaen heb amharu ar ansawdd yr aer. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dilynwch y dystiolaeth: awn amdani.
Mae angerdd yr Aelod yn amlwg iawn, fel y mae bob amser. Felly, rydym yn cyflwyno ystod eang o gamau gweithredu eisoes. Rydym wedi bod yn eu gweithredu nhw ac yn amlwg rydym yn gwybod bod angen inni fynd ymhellach. Ymgynghoriad o 12 wythnos yw hwn. Nid oes dim wedi cael ei ddiystyru ac, fel y dywedais i wrth gyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i wrando ar syniadau sydd gan unrhyw un i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn yn esgor ar y gwelliant yr ydym ni'n awyddus i'w weld o ran ansawdd aer. Roeddech chi'n canolbwyntio fwy neu lai ar gludiant ac rwyf i o'r farn eich bod chi yn llygad eich lle i wneud felly. Yn amlwg, mae teithio llesol yn faes y mae angen inni ei wella ac rydym wedi ei wella. Fe soniais mewn ateb cynharach fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Dirprwy Weinidog wedi cyflwyno cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer teithio llesol at y diben hwn. Mae'r strategaeth drafnidiaeth y bydd y Gweinidog yn ei chyflwyno yn edrych ar ddulliau penodol o deithio. Mae hynny'n cynnwys bysiau, yn amlwg, ac fe fydd yna Fil trafnidiaeth gyhoeddus a bysiau. Rydym yn edrych ar dacsis. Gwn eu bod nhw, yng Nghaerdydd, yn ystyried disodli'r fflyd bresennol o dacsis ac yn eu lle gael tacsis sy'n allyrru llawer llai o garbon.
Mae llawer o'r camau gweithredu yng nghyd-destun datgarboneiddio trafnidiaeth, oherwydd gwyddom mai gwella ansawdd aer drwy leihau allyriadau yw'r dull cywir ac fe fydd yn un o gonglfeini datblygiad y strategaeth drafnidiaeth wrth symud ymlaen. Mae angen inni annog newid o'r or-ddibyniaeth ar geir. Rydych chi yn llygad eich lle. Ni allaf ddyfynnu'r hyn a wnaethoch chi o gwbl, ond yn sicr mae angen inni roi ystyriaeth i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n rhaid i'r seilwaith hwnnw fod yn ei le i bobl allu ei ddefnyddio. Yn fy ateb i Dai Rees yn gynharach roeddwn i'n dweud bod elfen economaidd i hyn hefyd oherwydd ein bod yn mynd yn ôl i'r ardaloedd hynny o amddifadedd. Mae angen sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy.
Rwyf dim ond eisiau pwysleisio mor siomedig yr wyf i na fyddwn ni'n cyflwyno Deddf aer glân yn y Cynulliad hwn, gan fod hynny ym maniffestos y tair prif blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn, felly mae consensws enfawr ynghylch hyn ac, felly, tybed pam nad yw'n bosib gwneud cynnydd ar rywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno. Mae hefyd ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Heb ailadrodd yr hyn a ddywedodd pobl eraill eisoes, gan ddilyn pwynt Jayne Bryant ynghylch y diffyg gwrychoedd o amgylch ysgolion i'w diogelu rhag llygredd aer, a gawn ni sicrhau felly bod pob awdurdod lleol yn rhwystro chwistrellu plaladdwyr o gwmpas ffiniau ysgol heb unrhyw gynllun penodol, oherwydd mae hynny'n ei gwneud hi'n amhosib cynhyrchu'r gwrychoedd hyn os cânt eu lladd wedyn?
Y peth arall, gan godi syniad o faniffesto'r Blaid Werdd, yw pwysigrwydd sicrhau na chaiff datblygiadau tai newydd eu hadeiladu mewn ardaloedd lle nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn rhwydd. Fy nghwestiwn, ar wahân i'r un i'r awdurdodau lleol, yw: ar ôl inni ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau a bellach mae gennym ni Trafnidiaeth Cymru yn comisiynu gwasanaethau trên a bws, a yw'n ddyhead gan y Llywodraeth i wneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach na theithio mewn car?
Felly, os caf i ddechrau gyda rhan olaf cwestiwn Jenny Rathbone, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth ateb Huw Irranca-Davies fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd mae'n rhaid i bobl ystyried beth yw cost trafnidiaeth gyhoeddus, os oes ganddynt gar, o gymharu â'r car. Felly, mae'n rhaid inni edrych ar hynny'n bendant.
Rwyf yn ymwybodol bod sôn am Ddeddf aer glân ym maniffestos sawl plaid. Rwyf wedi edrych ar hynny ac rwy'n credu nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi amserlenni ar ei chyfer. Yn amlwg, roedd yn ymrwymiad maniffesto gan y Prif Weinidog. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn. Y gwir amdani yw—. Ac rwy'n gwybod i Andrew R.T. Davies ddweud, 'o, byddwch yn beio Brexit', ond mae hynny wedi bod yn fater i'm hadran i. Efallai y bydd angen inni gyflwyno deddfwriaeth frys er mwyn talu ffermwyr, er enghraifft, y flwyddyn nesaf. Wn i ddim beth fydd yr effaith ar y rhaglen ddeddfwriaethol os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymarferol ynglŷn â hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r Papur Gwyn, ond rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cydnabod nad deddfwriaeth yw'r ateb i bopeth a bod angen inni ddefnyddio'r dulliau dylanwadu sydd gennym ni.
Mae angen inni ganolbwyntio, rwy'n credu, ar newid ymddygiad. A minnau wedi bod yn COP25 ym Madrid am ychydig ddyddiau—ac rwyf wedi cwrdd â llawer o'm cyd-Weinidogion o bob cwr o'r byd—mae'n ddiddorol iawn y bu pwyslais sylweddol ar newid ymddygiad a galluogi pobl i wneud y newidiadau hynny: nid dweud wrthynt beth na allant ei wneud, ond dweud wrthynt beth y gallant ei wneud, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Yn amlwg, mae codi ymwybyddiaeth pobl yn bwysig iawn ac yn rhan fawr o'r cynllun.
O ran eich cwestiwn ynghylch plaladdwyr ac ysgolion, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw beth penodol yr ysgrifennais at awdurdodau lleol yn ei gylch, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch.