Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Gweinidog y prynhawn yma. Llygredd aer yw un o broblemau mwyaf ein hoes ni, ac mae'n fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd. Drwy'r byd, rydym nid yn unig yn cynhesu'r atmosffer o ganlyniad i allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond rydym hefyd yn difrodi'r gynhaliaeth bwysicaf sydd gennym ni: yr aer a anadlwn ni.
Yng Ngorllewin Casnewydd, mae gan ardaloedd fel Caerllion, sydd, oherwydd ei harwyddocâd hanesyddol, â ffyrdd cul, poblogaeth sy'n tyfu a dewisiadau gwael o ran trafnidiaeth gyhoeddus—mae hynny'n creu storm berffaith o lygredd aer. Yng Nghasnewydd, mae gennym ni'r M4 hefyd yn ymestyn drwy galon y ddinas, yn agos at dai ac ysgolion, a lle mae traffig yn aml yn aros yn yr unfan heb symud. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll eisoes y bydd hyn ar agenda comisiwn Burns. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n galed i gyflwyno cynigion i wella ansawdd aer yn ein dinas ni, ond mae llawer mwy y gellir ei wneud eto.
Mae'n rhaid inni gael camau i leihau traffig ar bwys ein hysgolion ni. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd disgyblion o ysgol gynradd Maesglas yn fy etholaeth i brotest newid hinsawdd ar hyd ffordd brysur ger eu hysgol nhw, yn galw am newid. A'n ddyletswydd ni yw gwrando ac ymateb i'r galwadau hyn.
Fe all y pethau bychain helpu. Er enghraifft, traffig sy'n aros yn yr unfan yn aml iawn sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd aer y tu allan i ysgolion. Gall un funud yn unig o injan car yn troi lenwi 150 o falwnau gyda mwg ecsôst. Felly, i'r rheini y mae'n rhaid iddynt yrru car ar yr adeg honno o'r dydd, byddai eu hannog nhw i ddiffodd eu hinjans pan fyddan nhw wedi parcio yn helpu i leihau llygredd yn yr aer.
Rhywbeth arall sy'n gymharol syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yw plannu coed. Mae coed trefol yn arbennig o effeithiol yn amsugno carbon deuocsid, gydag un astudiaeth yn dangos bod parthau gwyrdd trefol yn amsugno cymaint o garbon deuocsid â fforestydd glaw. Gwyddom am uchelgais Llywodraeth Cymru o ran plannu coed, ond mae modd gwneud mwy, a hynny gyda chyflymder ac yn ddi-oed. I lawer o ysgolion, nid oes unrhyw goed na gwrychoedd wrth ymyl y ffordd. Fe allai mesurau o'r fath helpu gyda lefelau llygredd, a helpu i wasgaru mygdarth. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i'w hannog nhw i blannu mwy o goed a fyddai'n addas ar eu tir nhw?
Ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o weld y bydd yr ymgynghoriad hwn yn adolygu'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag allyriadau yn sgil llosgi tanwyddau ffosil dan do, fel coed a glo. Mae llygredd dan do yn fater o bwys, ac yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu yn aml iawn. Hoffwn i hefyd groesawu'r ffaith y caiff coelcerthi a thân gwyllt eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, a'r cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i lefelau allyriadau niweidiol.
Yn olaf, mae mynegai o amddifadedd lluosog Cymru 2019 wedi dangos bod lefelau uchel o aer o ansawdd gwael i'w cael mewn ardaloedd o amddifadedd mawr. Mae ambell i ardal yn fy etholaeth i ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda'i chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?