Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r adroddiad ac ymateb y Llywodraeth. Nawr, mae cyflawniadau mawr y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw yma yng Nghymru, a hynny o ganlyniad i waith Comisiynydd Plant Cymru. Pan feddyliwch am rai o'r prosiectau y mae hi wedi gweithio arnyn nhw—. Bellach gwelsom ethol Senedd Ieuenctid, yr ydym wedi cydweithio â hi arni; y cynadleddau hawliau ysgolion uwchradd cyntaf i fyfyrwyr a staff; a'r gefnogaeth a roddir i gyrff cyhoeddus mawr i fabwysiadu ymagwedd hawliau plant.
Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu rhai ffeithiau gwych sy'n deillio o swyddfa'r comisiynydd: y ffaith ei bod wedi ymgysylltu â 9,857 o blant a phobl ifanc ledled Cymru; wedi hyfforddi'n uniongyrchol tua 700 o blant a phobl ifanc i fod yn llysgenhadon hawliau yn eu hysgolion a'u cymunedau; a chynnal yr arolwg hawliau addysg cyntaf erioed, gan sicrhau 6,392 o ymatebion.
Nawr, fel y dywedodd y comisiynydd, mae heriau sylweddol o hyd o ran hawliau plant ledled Cymru. Felly, roedd yn ddiddorol iawn darllen ei hadroddiad a'i hargymhellion i Lywodraeth Cymru. O ran gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, dim ond mewn egwyddor y mae Llywodraeth Cymru, ysywaeth, wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf. Yr hyn y gelwir amdano yw arian newydd wedi'i neilltuo'n benodol at ddibenion darpariaeth breswyl iechyd meddwl a gofal cymdeithasol wedi ei chomisiynu ar y cyd, i blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yng Nghymru. Ond, nid oes ymrwymiad wedi'i wneud ynglŷn â'r cyllid hwnnw. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gronfa trawsnewid a'r gronfa gofal integredig yn cwmpasu Cymru gyfan.
Hefyd, mae'r adroddiad yn cynnwys enghraifft rymus iawn o'r effaith y mae'r diffyg darpariaeth bresennol wedi'i chael ar blentyn sydd ag anghenion ymddygiadol cymhleth. Er enghraifft, ni ddylai'r comisiynydd orfod ymyrryd er mwyn i blentyn gael ei symud o ward oedolion ar ôl sawl wythnos. Nid yw hynny'n ddigon da. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog i fwrw ymlaen ar frys â'i gwaith i ddatblygu trefniadau comisiynu ac, o leiaf, neilltuo cyllid ar gyfer y tymor byr.
Yn yr un modd, credaf y gellir gwneud mwy i wahardd yr arfer o wneud elw mewn gwasanaethau gofal plant. Mae natur frys hyn yn amlwg wrth ystyried bod traean o blant Cymru mewn gofal maeth yn cael eu lleoli gydag asiantaethau annibynnol, a chanfyddiadau'r comisiynydd y bu rhai pobl ifanc yn ymwybodol iawn o gostau ariannol eu lleoliadau eu hunain, ac mae'r rhieni'n anghyfforddus oherwydd bod elfen o wneud elw yn rhan o'u hangen am ofal a chymorth.
Er fy mod yn croesawu'r ffaith eich bod yn parhau i weithio gyda'r fframwaith maethu cenedlaethol i recriwtio mwy o ofalwyr maeth mewn awdurdodau lleol, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer comisiynu a rheoli'r sbectrwm llawn o leoliadau i blant mewn gofal? Yn yr un modd, Dirprwy Weinidog, hoffwn gael eglurhad o'r ffaith eich bod yn gwrthod rhoi dyletswydd ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawlia'r Plentyn wrth gyflwyno'r cwricwlwm. Er gwaethaf bodolaeth Mesur Plant a Phobl ifanc (Cymru) 2011, credaf fod hyn yn gamgymeriad. Mae'r comisiynydd yn iawn wrth ddweud mai'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn dysgu am eu hawliau yw mewn amgylcheddau sy'n parchu'r hawliau hynny, a gellir gwneud hynny drwy osod dyletswydd ar wyneb y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Ategir hyn gan y ffaith mai dim ond 34 y cant o'r plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yn Y Ffordd Gywir: Arolwg Addysg oedd hyd yn oed wedi clywed am y CCUHP; bod pobl ifanc wedi dweud wrth y comisiynydd bod angen help arnynt i ddeall eu hawliau; a'r dystiolaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chlywed yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, drwy ein hymchwiliad presennol i hawliau plant yng Nghymru. Felly, byddai o ddiddordeb i mi, Dirprwy Weinidog, gael gwybod sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo hawliau plant mewn addysg ac ysgolion, felly, a hithau'n ddeng mlynedd ar hugain ers sefydlu'r CCUHP, rwy'n eich annog i ailystyried gwrthod argymhelliad y comisiynydd yn hyn o beth.
Croesawaf yr adroddiad, rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud, fel y gwnaethoch chi ddweud, o ran hawliau plant yng Nghymru, ond hoffwn ganmol a diolch i'r comisiynydd plant am bopeth mae hi'n ei wneud, gan weithio gyda ni a gweithio gyda'r Llywodraeth, i gefnogi hawliau ac anghenion ein plant yng Nghymru.