Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Cyfeiriwyd eisoes at ben-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ddeg ar hugain oed. Rwy'n credu, wrth gwrs, bod yn rhaid inni hefyd gofio pen-blwydd pwysig arall y byddwn yn ei goffáu yfory, sef ugeinfed pen-blwydd adroddiad Waterhouse. Ymateb y Cynulliad hwn i'r adroddiad hwnnw a barodd mai ni oedd y weinyddiaeth Llywodraeth gyntaf yng Nghymru i sefydlu comisiynydd plant—yn greadigol, gan nad oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i wneud hynny ar y pryd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol dweud ein bod wedi dod yn bell iawn tuag at wireddu hawliau plant, yn enwedig hawliau plant ar gyfer rai o'n pobl fwyaf agored i niwed. Ond, fel mae'r Gweinidog wedi dweud, mae gennym ni ffordd bell iawn i fynd.
Mae cymaint yn adroddiad y comisiynydd, a byddwn yn ategu popeth y mae'r Gweinidog a Janet Finch-Saunders wedi'i ddweud ynghylch pa mor ddiolchgar yr ydym ni i'r comisiynydd, i'w thîm, am y modd y maen nhw'n gweithio mor effeithiol i ddileu'r rhwystrau rhag gwireddu i hawliau plant. Mae'n amhosib, yn yr amser sydd ar gael i mi heddiw, i wneud sylwadau ar bopeth yr hoffwn ei godi, ond hoffwn wneud sylwadau ar dri maes penodol o argymhellion y comisiynydd, ac efallai gofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o wybodaeth am ymateb y Llywodraeth.
O ran y gyfres gyntaf o argymhellion ynghylch gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn derbyn argymhellion y comisiynydd, er fy mod yn rhannu pryder Janet Finch-Saunders ynglŷn â derbyn argymhellion mewn egwyddor, y gwyddom o brofiad yn aml ei bod hi'n fwy arferol eu torri na'u hanrhydeddu. Byddwn yn annog y Gweinidog a'r Llywodraeth i weithredu ar frys yn hyn o beth.
Rwyf wedi bod yn ymdrin yr wythnos hon ag achos dyn ifanc iawn sydd ag anghenion amrywiol iawn a chymhleth iawn, yn ymwneud â'r sbectrwm awtistiaeth ac iechyd meddwl. Mae ei deulu wedi darganfod yr wythnos hon ei fod yn debygol o gael ei roi mewn sefydliad anghysbell ymhell iawn i ffwrdd, yn Lloegr. Ac mae gwir angen inni weithredu ar hyn, oherwydd mae pob diwrnod y mae'r bobl ifanc hynny oddi cartref yn ddiwrnod yn ormod, a phob dydd y mae eu perthynas â'u teuluoedd wedi chwalu yn ddiwrnod yn ormod.
Hoffwn gyfeirio at ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 5 y comisiynydd, sy'n ymwneud â sicrhau bod y cwricwlwm newydd—bod dyletswydd, a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders, ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Nawr, rwyf wedi drysu braidd gan ymateb y Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn dweud, o gofio bod yn rhaid i'r Gweinidogion roi sylw dyledus i'r confensiwn, nad oes angen gosod dyletswydd ar gyrff eraill i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, Dirprwy Lywydd—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—mae'r Llywodraeth eisoes wedi gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar gyrff drwy'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed gan y Gweinidog pam, mewn egwyddor, y gallwch chi wneud hynny yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ond nad yw hi'n briodol gwneud hyn yn y cwricwlwm.
Mae Janet Finch-Saunders yn gywir, wrth gwrs, i ddweud nad yw'n ddigon i'r cwricwlwm ei hun gael cynnwys sy'n parchu hawliau, rhaid ei gyflwyno drwy sefydliadau sy'n parchu hawliau. Ac er bod gennym ni rai o'r ysgolion mwyaf anhygoel yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymweld â nhw'n rheolaidd, yn enwedig mewn addysg uwchradd, mae ffordd bell i fynd cyn bydd y sefydliadau hynny yn parchu hawliau'n llwyr. Rwyf felly wedi drysu ynghylch amharodrwydd y Llywodraeth i roi dyletswydd o sylw dyledus yn y ddeddfwriaeth. Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gan y Gweinidog am ei rhesymau dros hynny.
Wrth gwrs, mae rhai ohonom yn dadlau dros ymgorffori'r confensiwn yn llawnach. Rydym yn ei ymgorffori'n rhannol yn ein fframwaith deddfwriaethol, ac mae'n bryd symud hynny ymlaen. Pe bai hynny wedi digwydd, efallai bod y Gweinidog yn iawn, efallai na fyddai angen gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar sefydliadau eraill. Ond, fel y mae pethau, ni allaf ddeall pam na wnawn nhw hynny.
Yna, hoffwn gyfeirio'n fyr at argymhelliad Rhif 7, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w dderbyn chwaith. Rwy'n methu'n lân a deall hyn, oherwydd mae'r comisiynydd yn gofyn am adolygiad ac mae'r Llywodraeth yn gwrthod yr argymhelliad ac yna'n dweud eu bod yn mynd i gynnal adolygiad. Nawr, efallai fy mod yn methu rhywbeth yn hyn o beth, ond rwy'n credu bod angen—ac mae'n dda gweld y Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych ar hyn mewn gwahanol bortffolios, oherwydd wrth gwrs mae hyn yn effeithio ar sawl portffolio—ac os yw'r Llywodraeth yn derbyn yr angen am adolygiad, pam maen nhw'n dweud eu bod yn gwrthod argymhelliad y comisiynydd? A yw'n golygu nad ydynt eisiau yr un math o adolygiad ag y mae'r comisiynydd yn ei argymell? Felly, byddai'n ddefnyddiol, gan dderbyn yn llawn fwriadau da'r Gweinidog, ac yn yr achos hwn fwriadau da'r Llywodraeth, deall pam mae'r adolygiad y byddant yn ei gynnal yn wahanol i'r adolygiad y mae'r comisiynydd wedi'i argymell.
Ac, fel sylw olaf o ran y materion hyn ynglŷn â chludiant, mae ymateb y Llywodraeth yn dweud bod y trefniadau ar gyfer cludiant a diogelwch yn yr ysgol yn gweithio'n dda ar y cyfan. Wel, rwy'n siŵr o'm llwyth achosion yn fy etholaeth nad yw hynny bob amser yn wir, yn enwedig o ran myfyrwyr ôl-16. Byddwn i'n dadlau, fel y mae'r Comisiynydd yn ei wneud, fod y fframwaith deddfwriaethol sydd gennym ni gyda Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn hen ffasiwn gan fod gennym ni fwy a mwy o bobl ifanc yn aros mewn addysg yn llawn amser o 16 i 18 oed a thu hwnt. Ac mae hi wrth gwrs yn arbennig o bwysig bod gan y plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gludiant priodol.
Deuaf â'm sylwadau i ben, Dirprwy Lywydd. Mae cymaint mwy, rwy'n siŵr, y byddem i gyd yn hoffi ei ddweud. Rwy'n gwybod y caiff y materion hyn eu harchwilio'n drwyadl yn y pwyllgor priodol, ond rwy'n credu bod llawer i ymfalchïo ynddo gydag ymrwymiad y sefydliad hwn i hawliau plant dros yr 20 mlynedd o'n bodolaeth.