Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod targedau ar lefel awdurdod lleol. Fodd bynnag, credaf fod gan awdurdodau lleol ran bwysig iawn i'w chwarae. Byddwch newydd fy nghlywed yn dweud na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain; mae angen i eraill weithio gyda ni. Gwn fod llawer o awdurdodau lleol yn gweithio i gynyddu brigdwf yn eu hardaloedd ac yn awyddus i blannu mwy ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac i annog mwy o seilwaith. A ddoe, yn y datganiad llafar ar y cynllun aer glân, efallai i chi fy nghlywed yn dweud mai un peth rydym yn ei ystyried yw coedwigoedd bach, sef darnau bach o dir, ac yn aml yn dir sector cyhoeddus mewn ysbytai neu ysgolion, er enghraifft, lle gallwn blannu nifer fechan o goed yn unig. Yn amlwg, byddai gan awdurdodau lleol ran i'w chwarae yn hynny o beth.