1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran plannu coed ledled Cymru? OAQ54842
Diolch. Mae dogfen bolisi Llywodraeth Cymru, strategaeth 'Coetiroedd i Gymru’, yn amlinellu ein hymrwymiadau a'n hamcanion mewn perthynas â choedwigaeth yng Nghymru. Mae £1 miliwn yn ychwanegol wedi’i roi i’r rownd gyfredol o greu coetiroedd Glastir, ac rydym yn datblygu rhaglen goedwigoedd genedlaethol i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Ond yn dilyn eich datganiad ddoe ar eich cynllun aer glân, ymddengys bod y Llywodraeth yn hoff o rethreg, ond braidd yn brin o ymrwymiad. Soniasoch am bethau fel cadernid iach, gostyngiad mewn llygredd aer o ddiwydiant a thrafnidiaeth, a'r angen dirfawr i wella ansawdd aer. Ac eto, nid ydych yn sôn am un ymyrraeth a fyddai’n eich helpu i gyflawni eich holl amcanion—plannu coed. O ystyried bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan argyfwng hinsawdd, pam fod y Llywodraeth yn methu mor ddifrifol mewn perthynas â’i thargedau ei hun o ran plannu coed? Mae'n ffaith a dderbynnir gan bawb fod gan goed botensial enfawr i leihau lefelau carbon deuocsid, ac eto, mae'r targedau rydych wedi'u gosod ar eich cyfer eich hunain, os ydych, yn wir, yn wirioneddol ymrwymedig i dargedau, o 2,000 hectar y flwyddyn yn unig, yn warthus ynddynt eu hunain, ond rydych yn druenus o bell o’r targed hwnnw hyd yn oed. Fe neilltuoch chi £1 filiwn ar gyfer cyfnod plannu 2018-19, sy'n cyfateb i 240 hectar, neu 43,000 o goed yn unig—12 y cant o'ch targed blynyddol. Cymharwch hyn â'r ffigurau ar gyfer yr Alban, a hyd yn oed Iwerddon. Bydd yr Alban yn plannu dros 11,000 erw o goetir eleni yn unig—mae hynny’n 20 miliwn o goed. Mae Iwerddon wedi cyflawni 5,000 hectar o goetir newydd—mae hynny bron yn 10 miliwn o goed y flwyddyn am y pedair blynedd diwethaf.
Onid yw’n wir, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru yn esgeuluso ei dyletswydd i sefydlu targedau synhwyrol ar gyfer plannu coed, a hyd yn oed yn fwy esgeulus o ran darparu’r gyllideb i gyflawni unrhyw beth tebyg i nifer y coed sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd? A dywedaf eto, Weinidog, onid enghraifft yw hon o Lywodraeth Cymru yn llawn o rethreg ynglŷn â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond yn methu cyflawni rhai o'r ymyriadau pwysicaf sy'n angenrheidiol i gyflawni'r amcan ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Ac un pwynt olaf—
Na. Mae'n Nadolig, ond mae hyd yn oed cwestiwn o ddau funud a hanner o hyd yn fy ymestyn i a fy ysbryd Nadoligaidd. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog ymateb.
Wel, o ran rhethreg, ni chredaf y gallaf gystadlu â Phlaid Brexit. Soniais am blannu coed ddoe pan lansiais yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun aer glân. Fi fydd y cyntaf i gyfaddef nad ydym wedi bod yn plannu'r nifer o goed y buaswn yn dymuno'u gweld ac y bydd eu hangen arnom os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac wedi bod yn mynd rhagddo, buaswn yn dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, ar nifer y coed y gallwn eu plannu. Credaf ein bod wedi plannu dros 16 miliwn o goed yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ailstocio oedd llawer o hynny; mae angen i ni edrych ar ardaloedd newydd. Fe fyddwch yn gwybod am ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog i gael coedwig genedlaethol, ac mae fy swyddogion wedi bod yn canolbwyntio ar hynny dros yr ychydig fisoedd diwethaf a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth am y goedwig genedlaethol pan fyddwn yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.
Credaf mai'r hyn y bydd y goedwig genedlaethol yn ei wneud yw y cyflymu ailgoedwigo, ond bydd hefyd yn edrych tuag at eraill. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu, a bydd hynny'n rhan o'r goedwig genedlaethol.
Mae hanner fy nghwestiwn wedi'i ateb beth bynnag. Honnodd y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn ddiweddar fod lefel y cyllid ar gyfer plannu coed draean yn unig o'r lefel y dylai fod os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau sylfaenol. Aethant ymlaen i ddweud bod angen gwario miliynau o bunnoedd yn rhagor ar y gwaith o blannu coed os yw Cymru am gael unrhyw obaith o wireddu'r dyhead i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Weinidog, rydych newydd ddweud bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. A yw'r cyllid ar gael, a beth yw eich amserlen a'ch targedau ar gyfer cyflawni'r hyn rydych eisoes wedi'i addo—o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn? Felly, pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd, a phryd y byddwch yn agosáu at y targed, sef 80 y cant yn llai ar hyn o bryd? Diolch.
Felly, dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ateb i David Rowlands. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu i wneud hyn. Mae arnom angen i eraill ddarparu cyllid. Mae arnom angen i eraill ddarparu tir. Rhoesom gyllid sylweddol tuag at ein cyfnod mynegi diddordeb ar gyfer cynlluniau coed a choetiroedd mewn perthynas â Glastir. Mae cyllid ar gael hefyd drwy brosiectau’r cynllun rheoli cynaliadwy. Yn ein hymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', un peth y credaf fod pawb yn cytuno arno yw y gallai ffermwyr geisio plannu mwy o goed ar eu tir efallai, ac yn sicr, ymddengys eu bod yn awyddus iawn i wneud hynny pan fyddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw.
Rwy'n gwneud llawer iawn o waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae bwrdd CNC eisoes wedi cymeradwyo rhaglen ambarél i greu coetiroedd, gyda chyllid ar gael. Bydd honno'n ymgorffori cynlluniau a phrosiectau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.
Os ydym am sicrhau bod nifer fawr o goed yn cael eu plannu, mae angen cynllun arnom, nid targed cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru osod targedau blynyddol ar lefel awdurdod lleol, dynodi tir ar gyfer plannu coed, neu ofyn i awdurdodau lleol ddynodi tir ar gyfer plannu coed fel y gwnânt yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer tai, a gosod isafswm o goed i'w plannu fesul tŷ ar gyfer pob datblygiad tai newydd, fel bod gennym ffordd o fwrw ymlaen, yn hytrach na dyheadau yn unig?
Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod targedau ar lefel awdurdod lleol. Fodd bynnag, credaf fod gan awdurdodau lleol ran bwysig iawn i'w chwarae. Byddwch newydd fy nghlywed yn dweud na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain; mae angen i eraill weithio gyda ni. Gwn fod llawer o awdurdodau lleol yn gweithio i gynyddu brigdwf yn eu hardaloedd ac yn awyddus i blannu mwy ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac i annog mwy o seilwaith. A ddoe, yn y datganiad llafar ar y cynllun aer glân, efallai i chi fy nghlywed yn dweud mai un peth rydym yn ei ystyried yw coedwigoedd bach, sef darnau bach o dir, ac yn aml yn dir sector cyhoeddus mewn ysbytai neu ysgolion, er enghraifft, lle gallwn blannu nifer fechan o goed yn unig. Yn amlwg, byddai gan awdurdodau lleol ran i'w chwarae yn hynny o beth.