Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch. Mae dogfen bolisi Llywodraeth Cymru, strategaeth 'Coetiroedd i Gymru’, yn amlinellu ein hymrwymiadau a'n hamcanion mewn perthynas â choedwigaeth yng Nghymru. Mae £1 miliwn yn ychwanegol wedi’i roi i’r rownd gyfredol o greu coetiroedd Glastir, ac rydym yn datblygu rhaglen goedwigoedd genedlaethol i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.