Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:45, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, os nad ydych yn ei ddeall, efallai y gofynnwch i'r bobl sy'n gwybod orau, sef y bobl sy'n ffermio'r tir hwnnw o ddydd i ddydd. Rwy'n siŵr y byddant yn dweud wrthych beth yn union sydd angen i chi ei wybod.

Nawr, wrth gwrs, rydych yn argymell, neu rydym yn meddwl eich bod yn dal i argymell, rhoi'r rheoliadau hyn ar waith yn gyffredinol ledled Cymru. Ac fe gofiwch, rwy'n siŵr, adolygiad 'Hwyluso’r Drefn', a oedd, ymhlith ei argymhellion, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithredu egwyddor o ddull gweithredu sy'n seiliedig ar risg ac wedi'i dargedu ar gyfer rhoi rheoliadau amgylcheddol ar waith yng Nghymru.

Nawr, buaswn yn deall pe baech yn bwriadu rhoi rheoliadau mwy llym ar waith mewn rhai rhannau o Gymru. Nid wyf yn siŵr—. Ni chredaf fod gennym broblem gyda hynny, pe bai'r rhesymeg yno i wneud hynny. Ond nid yw eich dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Cymru gyfan yn seiliedig ar risg nac wedi'i dargedu o gwbl. Felly, a ydych yn derbyn bod cyflwyno cyfnod gwaharddedig yn debygol o gynyddu'r risg o lygredd amaethyddol? Ac wrth gwrs, fel rydym wedi clywed, bydd cost bodloni'r rheoliadau newydd hynny'n golygu cost o ddegau o filoedd o bunnoedd i ffermwyr Cymru. Ac a ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i chwarae eich rhan i'w cefnogi i gyflawni'r her honno os gofynnir i chi wneud hynny?