Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:41, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n siomedig, yn amlwg, y bydd hynny ar ffurf ysgrifenedig, yn hytrach nag ar lafar, ond rwy'n derbyn bod pwysau o ran amser. Rwy'n synhwyro rhywfaint o symud, efallai, a byddai'r sector yn croesawu hynny, rwy'n siŵr. Fe gynhalioch chi asesiad effaith rheoleiddiol ar y mater penodol hwn. A allwch gadarnhau heddiw faint o ffermydd a faint o swyddi a allai gael eu colli, a'r hyn a amlygwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw, oherwydd mae'n siŵr mai ar hynny y bu'n edrych os yw'r rheoliadau hyn i'w gweithredu fel y mae'r diwydiant yn deall?