Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad mewn gwirionedd, ond mae gennyf gopi ohono, felly efallai y byddaf yn ei ddarllen dros y Nadolig, gan y credaf, fel y dywedwch, fod cryn botensial i ni ddatblygu'r rhwydweithiau hynny. Mae gennyf un yn fy etholaeth—cydweithfa fwyd—sy'n gweithio mewn ardal ddifreintiedig iawn, ac mae'n hollol wych.
Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gwneud datganiad llafar ar glystyrau bwyd yr wythnos diwethaf—credaf mai'r wythnos diwethaf oedd hi—a chredaf fod hynny wedi bod yn un o brif lwyddiannau ein sector bwyd a diod yma yng Nghymru, lle rydym yn cael cwmnïau'n dod at ei gilydd i weithio gyda'i gilydd, rhannu arferion gorau, a chredaf—wyddoch chi, mae'n cyd-fynd yn dda ag ethos y gydweithfa.