1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi wledig? OAQ54840
Diolch. Rydym yn parhau i gefnogi'r economi wledig drwy ystod o bolisïau Llywodraeth Cymru a gweithio rhanbarthol. Bydd hyn, ynghyd â chynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', yn creu'r amodau ar gyfer datblygu economi wledig amrywiol ac iach.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Roeddwn i, fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, allan yn ymgyrchu dros fusnesau lleol. Ymwelais â Neil James, cigydd lleol bach yng nghefn gwlad Sir Fynwy, y mae ei deulu wedi bod yn cefnogi ffermwyr Cymru ac yn cyflenwi cynnyrch lleol ers y 1950au. Enwebir y busnes yn aml ar gyfer gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad, ac nid yw eleni'n eithriad. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am gefnogi busnesau lleol, ond pa gefnogaeth benodol rydych chi—a dylwn ychwanegu, Gweinidog yr economi hefyd, gan fod hwn yn amlwg yn faes trawsbynciol—yn ei darparu i gwmnïau bach, yn enwedig busnesau gwledig fel Neil James, fel y gall pobl mewn ardaloedd gwledig barhau i brynu'n lleol, cefnogi busnesau lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, siopau lleol, ac wrth gwrs, y gymuned ffermio sydd y tu ôl i'r holl gadwyni cyflenwi lleol hynny?
Diolch. Mae'r sector bwyd-amaeth yn amlwg yn sector pwysig iawn i Lywodraeth Cymru ac i Gymru, ac mae'n bwysig iawn fod gennym y busnesau bach hyn, fel y cigyddion y cyfeirioch chi atynt, i gefnogi ein ffermwyr. Yn amlwg, gwn fod ffermwyr yn teimlo dan fygythiad ar hyn o bryd o ran cynhyrchu cig coch, er enghraifft, ac rwyf bob amser yn dweud, 'Os ydych am gefnogi ein ffermwyr, y ffordd i wneud hynny yw prynu'n lleol, gan y gwyddoch fod cig wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy ac nad yw wedi teithio milltiroedd lawer.'
Rwy'n falch iawn, yn eich ymateb i Nick, eich bod wedi sôn am brynu'n lleol, a dyna roeddwn am ganolbwyntio arno. Gobeithio y bydd y Gweinidog—os nad yw wedi'i weld eto, fe'i anfonaf ati—wedi gweld yr adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Blaid Gydweithredol Cymru ac aelodau o'r grŵp Cydweithredol yma yn y Cynulliad, gan Athrofa Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, o'r enw 'Working co-operatively for sustainable and just food systems'. Fe sylwch, ym maniffesto Llafur ar lefel y DU, eu bod bellach wedi dweud y byddant yn cyflwyno Bil ar yr hawl i fwyd—bwyd cynaliadwy, fforddiadwy, iach a hygyrch.
Ond tybed—o ran y pwynt hwn ynghylch y lleol, lleoliaeth—beth arall y gallwn ei wneud, er gwaethaf Brexit, i gyflenwi'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny lle rydych yn gweithio gyda'r tyfwyr bach, cydweithredol, ond rydych hefyd yn gweithio gyda'r ffermydd teuluol a phawb arall. Mae'n chwerthinllyd ein bod mewn sefyllfa bellach lle mai Cymru yw'r wlad fwyaf gwledig o'r holl wledydd, gallech ddadlau, o ran ein hagosrwydd at gynhyrchwyr bwyd gwledig, ac eto, mae gennym dros 500,000 o bobl ledled y DU yn dibynnu ar fanciau bwyd, 10 y cant o gyllideb y GIG yn mynd i drin diabetes math 2, ac 8 miliwn o bobl yn y DU yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd. Yng Nghymru, does bosibl na allwn ddatblygu’r math o rwydweithiau bwyd lleol sy'n rhoi bwyd ar y bwrdd yn lleol i bobl. Ac nid oes angen Bil arnom i wneud hyn, mewn gwirionedd. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw ymgorffori hyn yn y cerrig milltir rydym yn eu datblygu ar hyn o bryd—y cerrig milltir cenedlaethol i Gymru.
Diolch. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad mewn gwirionedd, ond mae gennyf gopi ohono, felly efallai y byddaf yn ei ddarllen dros y Nadolig, gan y credaf, fel y dywedwch, fod cryn botensial i ni ddatblygu'r rhwydweithiau hynny. Mae gennyf un yn fy etholaeth—cydweithfa fwyd—sy'n gweithio mewn ardal ddifreintiedig iawn, ac mae'n hollol wych.
Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gwneud datganiad llafar ar glystyrau bwyd yr wythnos diwethaf—credaf mai'r wythnos diwethaf oedd hi—a chredaf fod hynny wedi bod yn un o brif lwyddiannau ein sector bwyd a diod yma yng Nghymru, lle rydym yn cael cwmnïau'n dod at ei gilydd i weithio gyda'i gilydd, rhannu arferion gorau, a chredaf—wyddoch chi, mae'n cyd-fynd yn dda ag ethos y gydweithfa.
Trosglwyddwyd cwestiwn 5 [OAQ54820] ar gyfer ateb ysgrifenedig. Cwestiwn 6, felly. Vikki Howells.