Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Hoffwn geisio deall o'r asesiad effaith faint o ffermydd a swyddi a fyddai'n cael eu colli, a phe gallech wneud hynny i mi ar ffurf ysgrifenedig, buaswn yn ddiolchgar am hynny, gan y buaswn yn disgwyl i asesiad effaith wneud y cyfrifiad hwnnw. Ond fe gyfeirioch chi at fforwm tir Cymru a'r sector yn dod at ei gilydd i gyflwyno 45 o argymhellion yn y maes penodol hwn y cytunodd y rheoleiddiwr a'r diwydiant y byddent yn gwella ansawdd dŵr yn sylweddol yma yng Nghymru. A ydych yn bwriadu ystyried yr argymhellion hynny yn eich trafodaethau newydd yn y maes penodol hwn? Neu a fyddwch yn dal i weithredu'r rheoliadau fel yr amlinellwyd, ond y dyddiad fydd yn symud yn hytrach na mwy o'r sylwedd, efallai?