Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae llu o bethau y gallwch edrych arnynt wrth ystyried tlodi tanwydd, ac rwy'n derbyn nad yw llawer o'r ysgogiadau wedi'u datganoli. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Smart Energy, a ddywedodd wrthyf am y gwaith y mae'n ei wneud i annog pobl i osod mesuryddion deallus. Mae 40 y cant o aelwydydd yng Nghwm Cynon eisoes wedi newid i fesuryddion deallus, roeddwn yn falch o ddarganfod, ac mae hynny'n llawer uwch na'r cyfartaledd, sy'n dda i ddefnyddwyr ond hefyd yn gadarnhaol i'r amgylchedd. Beth yw eich barn, Weinidog, ynglŷn â rôl mesuryddion deallus ar gyfer trechu tlodi tanwydd? A sut y gellir sicrhau bod mentrau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn annog pobl i newid?