Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Ar fater arall, tybed a allech roi diweddariad i ni ynghylch Tomlinson's Dairies, a aeth i'r wal, wrth gwrs. Ac a allech gadarnhau i ni pa un o Weinidogion y Llywodraeth sydd bellach yn arwain y gwaith hwn, gan y deallaf, o gofio'r ffaith ei fod yn cynrychioli’r etholaeth leol, nad yw Gweinidog yr economi mewn sefyllfa i wneud hynny? Felly, byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ynghylch pwy sy'n arwain y gwaith hwn i Lywodraeth Cymru. A hefyd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud nid yn unig i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan y cau, ond mae safle enfawr a modern yno, sy'n segur, felly pa fath o gymhellion ac ymdrechion y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud i ddenu proseswyr eraill i'r safle?