Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae'n embaras i sectorau eraill hefyd, onid yw? Nid yw eu perfformiad yn wych. Cafwyd 30,000 o ollyngiadau carthion yn y wlad hon yn ôl yn 2017, ac nid wyf yn clywed y Llywodraeth yn gwneud môr a mynydd o hynny. Ond, dyna ni—mater arall yw hynny.

Ond a ydych yn derbyn y gall gwasgaru yn ystod cyfnodau gwaharddedig a chael dyddiadau penodol ar gyfer gwasgaru slyri a ffermio yn ôl y calendr fod yn wrthgynhyrchiol? Rydym yn clywed pobl fel Tony Juniper, pennaeth Natural England, yn dweud hynny. Felly, a yw hynny'n rhywbeth rydych yn ei dderbyn bellach, a'ch bod chi, wrth gwrs, yn ymbellhau oddi wrth y dull hwnnw o weithredu?