Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Weinidog, nodaf fod Llywodraeth yr Alban wedi newid y diffiniad o dlodi tanwydd, ac wedi gwneud hyn yn dilyn her gyfreithiol, ac fe'i diffinnir bellach fel cartref lle mae preswylwyr ar incwm isel ac mae angen iddynt wario cyfran uchel o'r incwm hwnnw ar danwydd. Y diffiniad cyfredol yw aelwydydd sy'n gwario 10 y cant o'u hincwm ar danwydd, a gallai hynny gynnwys cwpl cyfoethog iawn sy'n penderfynu byw mewn adeilad hanesyddol a dewis gwario 10 y cant ar ei gynhesu, ac nid hynny rydym am fynd i'r afael ag ef mewn gwirionedd. Mae angen gwell data arnom er mwyn inni gyrraedd y rheini sydd fwyaf o angen y cymorth.