Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am edrych ar rai o'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan fod hwn yn bwnc mor eang, ni allaf ymdrin â phob agwedd ar y ddadl. Er enghraifft, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau'n bennaf ar ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio taflu digon o oleuni ar rai heriau allweddol, a chyffwrdd â rhai atebion posibl lle bo'n briodol.
Mae'r her gyntaf sy'n ein hwynebu yn ymwneud â demograffeg. Bydd y niferoedd dros 65 oed yn cynyddu'n bendant ac yn gymesur dros y degawd nesaf, a gallai fod cynnydd o chwarter yn y niferoedd fydd angen gofal. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae'n mynd yn hŷn. Bydd hyn, ynghyd â chostau cynyddol a chyflyrau cynyddol gymhleth a chronig, yn creu costau economaidd. Dyna'r her sy'n rhaid inni ei hwynebu.
Nododd y Sefydliad Iechyd fod Cymru'n gwario bron i £400 y pen ar ofal cymdeithasol i oedolion. Amcangyfrifwyd y byddai'r costau'n codi dros 4 y cant y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf. Erbyn 2030-31, byddem yn gwario £1 biliwn yn ychwanegol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae tua thraean o wariant llywodraeth leol yng Nghymru wedi'i ddyrannu ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl dros 65 oed, ac mae tueddiadau poblogaeth yn golygu mai cynyddu y bydd yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian ychwanegol i helpu gyda'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys £50 miliwn ychwanegol i liniaru'r pwysau rheng flaen ar lywodraeth leol. Ond mae Age Cymru, ymysg eraill, yn awgrymu bod y gwasanaeth eisoes yn cael ei danariannu, a hynny o ran diwallu'r angen presennol yn unig.
Mae cynnig gofal cymdeithasol am ddim yn y fan a'r lle yn rhywbeth y dylem anelu ato, a chroesawaf y ffaith bod fy mhlaid yn sefyll ar faniffesto yfory sy'n ein hymrwymo'n glir i ymestyn hyn os cawn yr hwb ariannu teg y gallem ei ddisgwyl gan Lywodraeth Lafur yn y DU. Awgryma Age Cymru yn rymus fod hynny'n hollbwysig o ran sicrhau cydgyfrifoldeb cymdeithasol am gyllid gofal cymdeithasol. Dywedant y dylai'r cyfrifoldeb am ariannu symud o'r unigolyn i'r gymdeithas. Maent yn galw am fodel ariannu newydd a chynaliadwy sy'n deg, yn gyfiawn ac yn dryloyw ac yn cefnogi cynlluniau ar gyfer costau gofal yn y dyfodol.
Darperir un model posibl yn adroddiad yr Athro Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol. Archwiliodd Holtham y dadleuon a'r gwahanol fodelau ar gyfer pennu canlyniad cynaliadwy wedi'i ariannu'n deg, ond roedd ei gasgliad yn glir: byddai codi ardoll benodol i dalu am ganlyniad penodol yn ateb pryderon y cyhoedd. Mae hynny'n arbennig o wir pe bai'r ardoll yn dibynnu ar oedran ac incwm ac yn gyfrannol. Byddai rôl i'r system nawdd cymdeithasol gamu i mewn i helpu'r rheini sydd ei hangen. Mae Holtham hefyd yn esbonio pam y byddai system wedi'i hariannu yn fwy effeithlon na system talu wrth fynd; gallai'r cyfraddau fod yn llyfn ac yn deg rhwng y cenedlaethau. Byddai canlyniadau wedi'u neilltuo yn darparu gwarantau pendant ar gyfer mewnbwn wedi'i neilltuo. Mae'n bosibl y gallai unrhyw gronfa gynnig manteision economaidd ehangach fel catalydd ar gyfer twf cenedlaethol. Fel y noda Holtham i gloi, gallai cynllun cyfrannol wedi'i ariannu gynnig ateb dichonadwy i broblem ariannu gofal cymdeithasol mewn cyfnod o newid demograffig. Byddai cynllun o'r fath yn ymateb i newidiadau ym mhroffil oedran dinasyddion Cymru ac yn hunangynhaliol.
Yn wir, rhag i ni oedi gormod gyda'r costau, dylem gofio mai hanfod hyn yw darparu ateb pragmatig i'r anghenion mwyaf hollbwysig yn y dyfodol—sef sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymgorffori urddas a'r safonau gorau. Byddai hyn yn cynnig un ffordd arloesol o ddefnyddio'r pwerau newydd sydd gan y Senedd hon mewn perthynas â threthiant. Edrychaf ymlaen at weld canfyddiadau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol maes o law.
Rwyf hefyd am roi amser i siarad am y modd y mae fy awdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, yn ymateb i'r pwysau. Mae'r cyngor yn mabwysiadu llwybr gweithredu uchelgeisiol i weddnewid ei ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, yn seiliedig ar y weledigaeth a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rwy'n ddiolchgar i gynghorwyr, swyddogion a staff rheng flaen am roi amser i siarad â mi. Gwnaeth Cadw'n Iach yn y Cartref argraff arbennig arnaf. Dyma fenter hyblyg a chymunedol a ddatblygwyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf ynghyd â chyngor Merthyr a bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gan ddefnyddio arian o gronfa gofal canolraddol Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac eraill. Mae'n gweithredu saith diwrnod yr wythnos, o wyth tan wyth, a chaiff ei gefnogi gan ystod o ymatebion yn y gymuned, gan ddod â grwpiau fel Gofal a Thrwsio, toogoodtowaste ac eraill i mewn. Ei nod yw atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a sicrhau bod y bobl sydd angen eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu rhyddhau'n amserol. Ac mae hynny'n dangos un o ganlyniadau methiant ar ein rhan i gyflawni'r her gofal cymdeithasol, sef blocio gwelyau. Disgwylir i'r gwasanaeth hanfodol hwn ehangu y flwyddyn nesaf.