– Senedd Cymru am 5:34 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allwch chi wneud hynny'n gyflym? Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Vikki Howells i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis—Vikki.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am edrych ar rai o'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan fod hwn yn bwnc mor eang, ni allaf ymdrin â phob agwedd ar y ddadl. Er enghraifft, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau'n bennaf ar ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio taflu digon o oleuni ar rai heriau allweddol, a chyffwrdd â rhai atebion posibl lle bo'n briodol.
Mae'r her gyntaf sy'n ein hwynebu yn ymwneud â demograffeg. Bydd y niferoedd dros 65 oed yn cynyddu'n bendant ac yn gymesur dros y degawd nesaf, a gallai fod cynnydd o chwarter yn y niferoedd fydd angen gofal. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae'n mynd yn hŷn. Bydd hyn, ynghyd â chostau cynyddol a chyflyrau cynyddol gymhleth a chronig, yn creu costau economaidd. Dyna'r her sy'n rhaid inni ei hwynebu.
Nododd y Sefydliad Iechyd fod Cymru'n gwario bron i £400 y pen ar ofal cymdeithasol i oedolion. Amcangyfrifwyd y byddai'r costau'n codi dros 4 y cant y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf. Erbyn 2030-31, byddem yn gwario £1 biliwn yn ychwanegol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae tua thraean o wariant llywodraeth leol yng Nghymru wedi'i ddyrannu ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl dros 65 oed, ac mae tueddiadau poblogaeth yn golygu mai cynyddu y bydd yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian ychwanegol i helpu gyda'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys £50 miliwn ychwanegol i liniaru'r pwysau rheng flaen ar lywodraeth leol. Ond mae Age Cymru, ymysg eraill, yn awgrymu bod y gwasanaeth eisoes yn cael ei danariannu, a hynny o ran diwallu'r angen presennol yn unig.
Mae cynnig gofal cymdeithasol am ddim yn y fan a'r lle yn rhywbeth y dylem anelu ato, a chroesawaf y ffaith bod fy mhlaid yn sefyll ar faniffesto yfory sy'n ein hymrwymo'n glir i ymestyn hyn os cawn yr hwb ariannu teg y gallem ei ddisgwyl gan Lywodraeth Lafur yn y DU. Awgryma Age Cymru yn rymus fod hynny'n hollbwysig o ran sicrhau cydgyfrifoldeb cymdeithasol am gyllid gofal cymdeithasol. Dywedant y dylai'r cyfrifoldeb am ariannu symud o'r unigolyn i'r gymdeithas. Maent yn galw am fodel ariannu newydd a chynaliadwy sy'n deg, yn gyfiawn ac yn dryloyw ac yn cefnogi cynlluniau ar gyfer costau gofal yn y dyfodol.
Darperir un model posibl yn adroddiad yr Athro Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol. Archwiliodd Holtham y dadleuon a'r gwahanol fodelau ar gyfer pennu canlyniad cynaliadwy wedi'i ariannu'n deg, ond roedd ei gasgliad yn glir: byddai codi ardoll benodol i dalu am ganlyniad penodol yn ateb pryderon y cyhoedd. Mae hynny'n arbennig o wir pe bai'r ardoll yn dibynnu ar oedran ac incwm ac yn gyfrannol. Byddai rôl i'r system nawdd cymdeithasol gamu i mewn i helpu'r rheini sydd ei hangen. Mae Holtham hefyd yn esbonio pam y byddai system wedi'i hariannu yn fwy effeithlon na system talu wrth fynd; gallai'r cyfraddau fod yn llyfn ac yn deg rhwng y cenedlaethau. Byddai canlyniadau wedi'u neilltuo yn darparu gwarantau pendant ar gyfer mewnbwn wedi'i neilltuo. Mae'n bosibl y gallai unrhyw gronfa gynnig manteision economaidd ehangach fel catalydd ar gyfer twf cenedlaethol. Fel y noda Holtham i gloi, gallai cynllun cyfrannol wedi'i ariannu gynnig ateb dichonadwy i broblem ariannu gofal cymdeithasol mewn cyfnod o newid demograffig. Byddai cynllun o'r fath yn ymateb i newidiadau ym mhroffil oedran dinasyddion Cymru ac yn hunangynhaliol.
Yn wir, rhag i ni oedi gormod gyda'r costau, dylem gofio mai hanfod hyn yw darparu ateb pragmatig i'r anghenion mwyaf hollbwysig yn y dyfodol—sef sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymgorffori urddas a'r safonau gorau. Byddai hyn yn cynnig un ffordd arloesol o ddefnyddio'r pwerau newydd sydd gan y Senedd hon mewn perthynas â threthiant. Edrychaf ymlaen at weld canfyddiadau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol maes o law.
Rwyf hefyd am roi amser i siarad am y modd y mae fy awdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, yn ymateb i'r pwysau. Mae'r cyngor yn mabwysiadu llwybr gweithredu uchelgeisiol i weddnewid ei ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, yn seiliedig ar y weledigaeth a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rwy'n ddiolchgar i gynghorwyr, swyddogion a staff rheng flaen am roi amser i siarad â mi. Gwnaeth Cadw'n Iach yn y Cartref argraff arbennig arnaf. Dyma fenter hyblyg a chymunedol a ddatblygwyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf ynghyd â chyngor Merthyr a bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gan ddefnyddio arian o gronfa gofal canolraddol Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac eraill. Mae'n gweithredu saith diwrnod yr wythnos, o wyth tan wyth, a chaiff ei gefnogi gan ystod o ymatebion yn y gymuned, gan ddod â grwpiau fel Gofal a Thrwsio, toogoodtowaste ac eraill i mewn. Ei nod yw atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a sicrhau bod y bobl sydd angen eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu rhyddhau'n amserol. Ac mae hynny'n dangos un o ganlyniadau methiant ar ein rhan i gyflawni'r her gofal cymdeithasol, sef blocio gwelyau. Disgwylir i'r gwasanaeth hanfodol hwn ehangu y flwyddyn nesaf.
Mae ymatebion eraill gan gyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys defnyddio technoleg. Bydd llinell fywyd technoleg gynorthwyol Rhondda Cynon Taf yn cael ei gwella i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym, symudol 24 awr a 365 diwrnod y flwyddyn i bobl sy'n defnyddio mwclis llinell fywyd Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal ychwanegol ar draws Rhondda Cynon Taf, ac mae'r rheini wedi creu argraff fawr arnaf pan fyddaf yn ymweld â hwy. Maent yn rhan o ymrwymiad y cyngor i foderneiddio gwasanaethau preswyl a dydd pobl hŷn, ac rwy'n falch y bydd Aberaman ac Aberpennar yn fy etholaeth yn cynnig cyfleusterau gofal ychwanegol cyn bo hir.
Mae'r model economi sylfaenol hefyd yn ein galluogi i fynd i'r afael â gofal cymdeithasol o bersbectif newydd. Rwy'n gobeithio bod y dadleuon ynghylch yr economi sylfaenol bellach yn gyfarwydd. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd economaidd yr eitemau a'r gwasanaethau hanfodol bob dydd hynny sydd, hyd yn ddiweddar, wedi eu gwthio i'r cyrion wrth lunio polisïau economaidd. Ochr yn ochr â chyfleustodau, cynhyrchu bwyd ac angenrheidiau a weithgynhyrchir, ceir y gwasanaethau lles cyffredinol y mae dinasyddion yn eu disgwyl ac yn eu defnyddio’n ddyddiol, ac edefyn allweddol yma yw’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol.
Fel y canfu'r Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol, gall methiant i feithrin y rhan hon o'r economi sylfaenol yn briodol arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol. Er enghraifft, mae mentrau preifat gyda llawer o adnoddau wedi cyflwyno llety mwy o faint a mwy pwrpasol yn lle cartrefi gofal teuluol llai o faint. Mae'r rhain yn blaenoriaethu elw cyfranddalwyr ac yn arwain at weithlu ar gyflogau annigonol, gwariant cyhoeddus uchel, a chanlyniadau gofal gwael. Felly, rwy'n croesawu'r ymrwymiad newydd i'r economi sylfaenol sy’n ganolog i Lywodraeth Cymru. Ar ben hynny, caiff adnoddau eu halinio â rhethreg yma, ac mae'n dda gweld cyllid yn cael ei ddyrannu i ystod o brosiectau gofal cymdeithasol drwy gronfa her yr economi sylfaenol. Roedd 12 prosiect gofal cymdeithasol yn llwyddiannus o dan yr elfen honno o her yr economi sylfaenol, megis y £100,000 a roddwyd i PeoplePlus Cymru i ddatblygu prosiectau uwchsgilio gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol i ddarparu hyfforddiant o safon i staff. Rwy’n edrych ymlaen at ledaenu a chynyddu arferion gorau, a'r ffocws o'r newydd ar dyfu'r canol coll.
Gallai modelau cydweithredol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol gynnig ateb ychwanegol hefyd. Mae cydweithfeydd gofal cymdeithasol yn adeiladu dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ddarparu gwasanaethau. Yn lle prif swyddfeydd anghysbell a blaenoriaethu cyfranddalwyr, maent yn arwain at fusnesau sydd wedi'u hangori yn y gymuned go iawn, buddsoddiad economaidd lleol a manteision cymdeithasol. Gellir adeiladu sefydliadau yn y modd hwn o amgylch gweithwyr sy'n cael eu cymell drwy gael llais uniongyrchol yn y gwaith o redeg y ddarpariaeth ofal, ei moeseg, ei gweithrediad a'i chynhyrchiant strategol. Caiff refeniw a fyddai fel arall yn cael ei golli mewn difidendau a dyraniadau eraill ei fuddsoddi yn y gwasanaeth, ac mae’r berthynas â defnyddwyr y gwasanaeth yn allweddol. Ar ben hynny, mae gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau lles a gofal personol yn cael mwy o lais yn y modd y gweithredir y gwasanaethau hynny a'r hyn sy'n cael ei gynnig. Maent yn gosod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau wrth wraidd y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau. Wrth wneud hynny, maent yn darparu gwasanaethau ymatebol a gyfeirir gan ddinasyddion, gan roi llais cryfach a mwy o reolaeth i bobl sydd angen gwasanaethau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Mae hyn yn aml yn arwain at wasanaethau o ansawdd gwell, ac wedi'u targedu'n dda.
Rwy'n ddiolchgar i Ganolfan Cydweithredol Cymru am dynnu sylw at sawl enghraifft ragorol o'r model cyflenwi hwn. Mae amser yn fy atal rhag rhestru pob un o'r rhain, ond rwyf am sôn am Gydweithfa Cartrefi Cymru sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru i fyw bywydau cyflawn, gartref ac yn y gymuned. Daethant yn gydweithfa ychydig dros dair blynedd yn ôl. Mae aelodaeth yn wirfoddol ac yn agored i’r bobl y maent yn eu cynorthwyo, gweithwyr, a chefnogwyr cymunedol weithio gyda'i gilydd ar ddau nod cydweithredol.
Rwyf am archwilio mater hanfodol bwysig y gweithlu gofal cymdeithasol fel her allweddol arall. Rwy'n ddiolchgar am sgyrsiau gyda nifer o sefydliadau ac unigolion ynglŷn â hyn, ac yn enwedig sgyrsiau a gefais gyda dynes hyfryd o’r enw Mrs Bishop y treuliais brynhawn gwerthfawr iawn gyda hi, pan ddisgrifiodd yr effaith gadarnhaol a gafodd gofalwyr Rhondda Cynon Taf a gwasanaethau'r cyngor ar ei bywyd. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch i fy undeb llafur, y GMB, am drafodaeth ar sut y maent yn cefnogi aelodau sy'n gweithio yn y sector gofal.
Rwy’n croesawu’r cyfeiriad polisi a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phroffesiynoli’r gweithlu gofal cymdeithasol a chydnabod y gwaith hanfodol y gallant ei wneud, ond rhaid wrth adnoddau priodol i gefnogi hyn, er mwyn rhoi cyflogau i weithwyr gofal sy’n adlewyrchu pwysigrwydd eu galwedigaeth. Fel arall, gallai staff symud yn weddol ddi-dor i’r maes nyrsio yn y pen draw, oherwydd bod y cyflogau gymaint yn uwch yno, gan waethygu’r prinder o staff gofal cymdeithasol.
Mae'n ymyrraeth gadarnhaol fod yn rhaid i'r gweithlu gofal cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach, fod yn rhaid iddynt fodloni meini prawf o ran cymwysterau: cymwysterau sy'n golygu ein bod yn cydnabod yr hyn yw gofalu, sef galwedigaeth fedrus iawn sydd o’r pwys mwyaf i'n cymunedau. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y gweithwyr gofal hyn yn fedrus iawn, ond yn rhy aml o lawer nid yw eu sgiliau'n cael eu cydnabod na'u gwerthfawrogi'n ffurfiol. Gan symud hyn ymlaen, mae heriau yn y gwahanol gyflogau a thelerau ac amodau rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus. Er enghraifft, mae gweithiwr gofal sector preifat yn ennill £2 yr awr yn llai ar gyfartaledd na'u cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol.
Gall fod heriau ynghlwm wrth negodi gyda'r sector preifat. Cefais ychydig o syndod o glywed bod dros 25,000 o ddarparwyr gofal cymdeithasol preifat cofrestredig yn y DU. Fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid ein hatgoffa y llynedd, mae yna heriau hefyd yn yr ystyr fod cyfran uchel o staff yn heneiddio, a cheir dibyniaeth ar staff o dramor. Hoffwn weld mesurau pellach i broffesiynoli'r gweithlu, gydag unrhyw gynnydd yn y cyllid yn cael ei ddyrannu i'r perwyl hwn. Rhaid i hyn fynd law yn llaw â mwy o gydnabyddiaeth i'r rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chyflawni i atal y gyfradd trosiant staff o 33 y cant. Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru, megis rhoi diwedd ar gontractau dim oriau gorfodol a sicrhau tâl am amser teithio, nid yn unig yn allweddol i gyflawni hyn, maent hefyd yn foesol gywir ac yn deg.
Hoffwn weld gwaith yn cael ei wneud i sicrhau parch cydradd rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, a rhwng y gweithlu gofal cymdeithasol a'r rhai sy'n ymwneud â sectorau cysylltiedig fel gofal iechyd, gan atgoffa gweithwyr gofal o'r hawliau sydd ganddynt. Nid yw ond yn deg ein bod yn rhoi’r hyn sy’n ddyledus i'r gweithwyr hyn. Wrth wneud hynny rwy'n gobeithio y byddwn yn galluogi pobl i ystyried gofal cymdeithasol yn opsiwn gyrfa deniadol. Bydd hyn yn annog recriwtiaid newydd i ymuno, gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddod yn aelodau profiadol o staff, a sicrhau eu bod yn aros yn y sector yn hirdymor.
Yr her olaf rwyf am ei hystyried yw sut rydym yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn briodol. Mae tua 96 y cant o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Mae proffil 'Cyflwr Gofalu' Gofalwyr Cymru yn cynnig mewnwelediad pwysig yn y maes hwn. Gan dynnu ar eu gwaith yn 2018, mae rhai canfyddiadau allweddol yn sefyll allan. Mae hwn yn fater sy’n ymwneud â rhywedd: roedd mwy o fenywod na dynion yn ofalwyr. Mae bron i un o bob tri gofalwr yn anabl eu hunain. Mae gan bron i un o bob pedwar gyfrifoldeb gofal plant. Mae bron i draean yn gweithio, ac o’r rheini mae bron eu hanner yn gweithio amser llawn. Mae tua 56 y cant yn gofalu am fwy na 90 awr yr wythnos. Mae un o bob pedwar gofalwr yn gofalu am ddau neu fwy o bobl.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Carers UK ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr yn darparu allwedd arall i raddau’r mater. Ceir tebygolrwydd o 50:50 y bydd y person cyffredin yng Nghymru yn ofalwr erbyn y bydd yn 45 oed, ymhell cyn oedran ymddeol. Ac yng Nghymru, bydd menywod yn ofalwyr erbyn eu bod yn 42 oed. Mae gofalu yn ystod ein bywydau gwaith yn dod yn fwy a mwy tebygol wrth i bobl fyw’n hwy ac angen mwy o help gyda'u bywydau bob dydd. Gall menywod sy'n ysgwyddo mwy o rôl gofalu ac ar oedran iau gyfyngu ar eu cyfranogiad economaidd, eu henillion oes, a'u hincwm yn ddiweddarach mewn bywyd.
Pwysleisir yr her pan gofiwn fod tebygolrwydd o 70 y cant y bydd rhywun sy'n byw yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl i berson arall. Dyna'r gyfradd uchaf yn y DU. Gwyddom fod cyfraniad gofalwyr di-dâl yn llythrennol amhrisiadwy. Pe na byddai, byddai cost ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus o tua £8 biliwn. Ond gall y ddeuoliaeth rhwng darparu gofal amser llawn ac angen gweithio achosi cyfyng-gyngor poenus. Rwyf wedi ymdrin ag etholwyr sydd wedi bod angen rhoi'r gorau i weithio er mwyn gofalu am anwyliaid. Nid yw'r iawndal a ddarperir gan y lwfans gofalwyr yn mynd agos digon pell i ddiwallu angen. Mae rhywfaint o gymorth ar gael, ac rwy’n croesawu’r cymorth ymarferol a ymgorfforwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ond ceir rhwystrau eraill sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.
Diben fy nadl oedd edrych ar rai o'r heriau a wynebwn wrth geisio braslunio rhai o'r atebion. Ni all dadl fer fyth ddarparu'r holl atebion, ond wrth imi gloi, rwyf am orffen o leiaf trwy ddweud 'Diolch' wrth bawb sy'n darparu gofal mor hanfodol o un diwrnod i'r llall.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Julie Morgan.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ar y pwnc pwysig hwn. Rwy'n credu bod y dadleuon byr yn ddefnyddiol iawn er mwyn tynnu sylw at feysydd pwnc penodol, ac rwy'n credu ei bod wedi gwneud hynny'n dda iawn heddiw.
Mae gofal cymdeithasol yn faes gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael llawer mwy o sylw, a chredaf mai'r rheswm am hynny yw y gallwn i gyd weld y gofynion ar ofal cymdeithasol sy'n cynyddu’n fawr, ac yn sicr mae wedi bod yn fater sy’n codi yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Mae'r angen yn cynyddu ac mae'r adnoddau y gall llywodraeth leol a Llywodraeth genedlaethol eu codi i ddiwallu'r angen yn cael trafferth dal i fyny â’r angen hwnnw. Nid wyf am oedi ar y pwynt hwn yn fy nghyfraniad i'r ddadl hon, a fydd, gobeithio, yn gadarnhaol ac yn optimistaidd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, wrth inni edrych ymlaen, fod ein man cychwyn yn llawer anos nag y gallai fod wedi bod pe bai gwahanol benderfyniadau wedi'u gwneud ar lefel y DU.
Y pwynt cyntaf rwyf am ei wneud ynglŷn ag ateb heriau gofal yr unfed ganrif ar hugain yw bod ein polisi a’n fframwaith deddfwriaethol yn ein gwasanaethu'n dda yn hynny o beth. Mae'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer gofal cymdeithasol, a’i ddatblygu, yn edrych tua'r dyfodol. Soniodd Vikki Howells am y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ac yn sylfaenol, mae hon yn rhoi’r unigolyn yng nghanol y broses o gynllunio ei anghenion gofal a chymorth. Mae hwn yn gam ymlaen ac yn adlewyrchu'n gryf ein gwerthoedd ein hunain o gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cael eu hanghenion gofal a chymorth wedi’u diwallu, ac mewn ffordd lle caiff eu llais ei glywed a lle gweithredir ar eu dymuniadau. Felly, mae gennym y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddeddfwriaeth sylfaenol yma yn y Cynulliad, sy'n bwysig iawn ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn bwysig iawn, oherwydd mae wedi ymgorffori'r syniad fod angen inni ystyried y dyfodol hirdymor yn yr holl benderfyniadau a wnawn, a chredaf fod hwn yn gam enfawr ymlaen i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Wedyn, o ran y cyfeiriad polisi, 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yw'r sylfaen ar gyfer ein gweithredu. Ac rwy'n credu mai Cymru, mewn gwirionedd, yw'r unig genedl yn y DU sydd â chynllun strategol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Fel cynllun, mae'n sicr yn mynd i'r afael â'r prif dueddiadau hirdymor a fydd yn effeithio ar Gymru. Ac yn ysbryd y ddadl hon, hoffwn gyfeirio'n fyr at rai o'r tueddiadau hynny yn y dyfodol.
Mae newid demograffig, fel y soniodd Vikki Howells, eisoes gyda ni a bydd ei effeithiau’n cyflymu, gyda’r rhagamcan y bydd nifer y bobl dros 85 oed yn dyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. A'r newid demograffig hwn mewn gwirionedd yw ein cyflawniad mwyaf fel cymdeithas o bosibl. Mae'n fuddugoliaeth i'r GIG ac yn sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, ond mae'n rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â’i effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae Vikki Howells wedi cyfeirio at hynny. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif y bydd angen 20,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol arnom i ymateb i'r anghenion gofal cynyddol a ddaw gyda'r boblogaeth oedrannus gynyddol hon. Ac mae ein cymdeithas sy'n heneiddio yn her nid yn unig i ofal cymdeithasol, ond i'r Llywodraeth gyfan a dyna pam, y flwyddyn nesaf, y byddaf yn ymgynghori ar strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Bydd yn nodi'r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd mewn ymateb i newid demograffig, a hefyd yn gosod gweledigaeth sy'n herio Llywodraeth Cymru a'n holl bartneriaid i gyflawni mwy eto yn yr amser sydd i ddod.
Wrth ddweud hyn, mae'n rhaid i ni gofio mai plant yn hytrach na phobl hŷn yw'r maes sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn gwariant yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd. Cynhyrchwyd llawer mwy o gostau er mwyn gofalu am blant, yn enwedig plant ag anghenion cymhleth, nag ar gyfer pobl hŷn. Ac rwy'n credu mai’r rheswm am hyn yw oherwydd bod plant yn byw o adeg eu geni gyda chyflyrau mwy cymhleth ac mae eu gofal yn dod yn llawer mwy dwys o ran adnoddau. Ac rydym hefyd yn gweld mwy o blant yng Nghymru yn derbyn gofal, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i geisio gwrthdroi’r tueddiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Rwy'n credu bod y ddadl hon yn cynnig persbectif diddorol ar hyn.
Fodd bynnag, gwn fod Vikki yn canolbwyntio ar oedolion yn ei chyfraniad, ond credaf nad yw pobl yn aml yn sylweddoli mai plant sy'n achosi’r gost fwyaf. Rydym yn ceisio gostwng nifer y plant sy'n rhaid eu gosod mewn gofal, ond diogelwch yw'r sylfaen ar gyfer gostwng y niferoedd hynny. Mae'n rhaid inni gefnogi teuluoedd a chymunedau yn well, ac adeiladu ymatebion a fydd yn ein galluogi i wrthdroi’r tueddiad, a phan fydd angen i blant gael eu gosod mewn gofal mae angen inni sicrhau bod darpariaeth ar gael yn agos at eu cartref.
Nawr, ar fater adnoddau, soniodd Vikki am y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol sy'n edrych ar yr heriau ar gyfer y dyfodol. Mae bob amser wedi bod yn well gennym weld Cymru'n rhan o ddull o weithredu ar draws y DU i sicrhau nad yw pobl yn wynebu costau gofal mawr yn ddiweddarach mewn bywyd, ac fe welwn beth a ddaw yn sgil yr etholiad yr wythnos hon yn hynny o beth. Ond os bydd methiant polisi yn parhau ar lefel y DU, mae'r grŵp rhyngweinidogol yn gweithio i ddatblygu ateb a wnaed yng Nghymru sy'n iawn ar gyfer anghenion gofal yr unfed ganrif ar hugain. Dim ond rhan o'r ateb yw adnoddau ychwanegol, er mor bwysig ydynt, a soniodd Vikki Howells am yr argymhellion a ddeilliodd o waith Gerry Holtham; rydym yn edrych ar hynny yn y grŵp rhyngweinidogol.
Ond tuedd fyd-eang arall yw effaith technoleg ac mae sut y bydd hyn yn effeithio ar ofal cymdeithasol yn faes pwysig iawn. Credaf fod yn rhaid i ofal cymdeithasol bob amser fod yn ymdrech gynhenid wyneb yn wyneb, ond ar yr un pryd, bydd y defnydd priodol o dechnoleg yn dod yn bwysicach er mwyn diwallu anghenion gofal. Ac yn amlwg byddai'n ffôl ceisio rhagweld newidiadau technoleg ymhell yn y dyfodol; yn hytrach, rôl y Llywodraeth yn y maes yw annog a chynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol i wneud y defnydd gorau o dechnoleg sydd eisoes yn bodoli, a hefyd eu helpu i feddwl yn greadigol am y dyfodol.
Gwn fod Vikki Howells wedi crybwyll yr economi sylfaenol, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth rydym yn gefnogol iawn iddo yn Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd, mae'r gronfa a sefydlwyd wedi cefnogi nifer o ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â gofal cymdeithasol, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â rhai o'r rheini pan gyhoeddwyd y rhai diwethaf. Ac rwy'n falch iawn o glywed am nodau uchelgeisiol cyngor Rhondda Cynon Taf, yn enwedig y cynllun Cadw’n Iach yn y Cartref y gwn amdano hefyd, sy'n dda iawn.
Hoffwn ddweud am un o'r pethau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol, sef newid hinsawdd sydd, yn amlwg, yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae’n argyfwng hinsawdd a boed yn dywydd mwy eithafol neu fewnfudo i'r DU wedi'i yrru gan y caledi y bydd newid hinsawdd yn ei achosi mewn rhannau eraill o'r byd, mae angen inni gyrraedd sefyllfa lle gall gwasanaethau cyhoeddus yma addasu, ac mae hynny'n cynnwys gofal cymdeithasol. Mae angen i ni weithio hefyd fel y gall y cannoedd o ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gefnogi'r uchelgais cyffredinol o symud yn gyflym i fod yn garbon niwtral, sy'n bwysig iawn yn fy marn i pan feddyliwn am y nifer enfawr o staff sydd gennym yn gweithio yn y system gofal cymdeithasol, a llawer ohonynt fel unigolion.
Yn 2020, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr. Siaradodd Vikki yn rymus am gyfraniad gofalwyr. Ledled Cymru, ceir tua 370,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed sy'n cefnogi rhywun annwyl sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol wael heb gael eu talu i wneud hynny. Maent yn cyfrannu'n aruthrol at gymdeithas Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig dweud bod mwyafrif llethol y gofalwyr hynny’n falch o'i wneud ac eisiau ei wneud, ac yn gofalu am rywun annwyl, a dylem wneud ein gorau glas i'w cynorthwyo i wneud hynny. Ond rydym yn gwybod o adroddiadau a gafwyd ar ofalwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd, ac yn aml maent yn wynebu llawer o anawsterau. Ond rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod yn cydnabod y rôl hynod bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae, darparu cefnogaeth iddynt a galluogi pobl hefyd i gael bywyd ar wahân i ofalu. Byddaf yn gweithio gyda'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr a rhanddeiliaid eraill yn 2020 i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr yn 2020.
I orffen, hoffwn wneud dau bwynt arall. Dylai'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol fod yn system gytbwys. Bydd darparwyr annibynnol yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r system, ac mae gennym ddarparwyr annibynnol gwych yng Nghymru, ac rydym yn ddibynnol arnynt. Ac mae rhai ohonynt ar flaen y gad yn eu hymarfer. Fel Llywodraeth, rydym am i ddarparwyr annibynnol o ansawdd uchel chwarae rhan allweddol. Ond byddwn hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol sydd am ddod â mwy o ddarpariaeth o dan eu rheolaeth uniongyrchol. Rydym hefyd eisiau gweld cydweithfeydd yn chwarae mwy o ran mewn marchnad ofal gytbwys, fel y crybwyllodd Vikki Howells. Yn y flwyddyn newydd rwy'n bwriadu darparu datganiad sy'n gosod fframwaith ar gyfer ailgydbwyso gofal cymdeithasol.
Yn olaf, felly, yn y pen draw, rwy’n credu bod y ddadl hon yn ymwneud yn y bôn â'r pwynt pwysig iawn a wnaeth Vikki: sut y gallwn dyfu capasiti a gallu'r gweithlu i fanteisio ar y cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar sail gyson. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal cymdeithasol yn llawn o bobl ymroddedig, medrus a gweithgar. Galwedigaeth yw gofal cymdeithasol i lawer iawn o bobl, nid swydd yn unig. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gwella statws y gweithlu—soniodd Vikki Howells am y drefn gofrestru rydym yn ei chyflwyno. Mae angen inni fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng cyflogau a grybwyllwyd ganddi hefyd. Mae hi wedi sôn am y cynnydd a wnaethom ar gontractau dim oriau, ac rwy'n credu bod hwn yn ôl pob tebyg yn un o'r materion cwbl allweddol y mae'n rhaid inni roi sylw iddynt. Rhaid i'n prif sylw fod ar gynyddu capasiti a gallu'r gweithlu. Yn fwyaf arbennig, rwyf am i weithwyr cymdeithasol gael amser i uniaethu â phobl a gofalu amdanynt. Yn yr un modd, ni chaiff gweithlu'r dyfodol ei alluogi i wynebu'r her sydd o'n blaenau os yw, fel y dywedais, ar gyflog isel ac yn ansefydlog. Fel Llywodraeth rydym yn canolbwyntio ar waith teg, ac mae gofal cymdeithasol ar y blaen yn y datblygiadau hyn.
I gloi, rydym yn dweud weithiau yn ein dadleuon nad yw'r status quo yn opsiwn; ni fu hynny erioed yn fwy gwir am ofal cymdeithasol wrth edrych allan ar weddill yr unfed ganrif ar hugain. Mewn sawl ffordd, rydym mewn lle da, ond mae llawer o waith i'w wneud. Rwy'n credu ein bod yn gwybod i ba gyfeiriad rydym eisiau mynd, ond diolch yn fawr i Vikki Howells am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr heno, ac edrychaf ymlaen at weithio ar draws y Senedd i ateb yr heriau hyn yn yr amser sydd i ddod. Diolch.
Diolch. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.