2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant adeiladu tai? OAQ54814
Gwnaf. Rydym yn darparu ystod o gefnogaeth i adeiladwyr tai, gan gynnwys cefnogaeth yn benodol ar gyfer busnesau bach i ganolig. Rwy'n cydnabod bod adeiladu tai yn heriol; rwy'n cyfarfod ag adeiladwyr yn rheolaidd er mwyn trafod rhai o'r heriau sy'n eu hwynebu. Cyfarfu Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau â chynrychiolwyr y sector ddiwethaf ym mis Hydref, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â'r heriau ym maes adeiladu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Hughes Architects yn fusnes sy'n gweithredu ledled canolbarth Cymru, ac maent wedi dweud nad yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn rhoi fawr ddim ystyriaeth i ganolbarth Cymru. Dywedant ei fod yn edrych am yn ôl heb unrhyw weledigaeth go iawn, a'i fod hefyd yn debyg i strategaethau blaenorol, sydd, yn eu barn hwy, wedi methu cyflawni. Mae Mr Hughes yn mynd ymlaen i sôn yn benodol am y ffocws parhaus ar dai fforddiadwy ar draul tai yn gyffredinol sydd wedi taro rhanbarthau gwledig yn galed, ac mae cynllunwyr strategol wedi camddeall hynny i raddau helaeth. Ceir pwynt ehangach hefyd ynglŷn â bod ardal canolbarth Cymru yn cael ei chynnwys mewn rhanbarth llawer ehangach, yn cael ei chynnwys yn rhanbarth de Cymru, ond maent yn economïau gwahanol iawn. A gwn fod rhanddeiliaid eraill wedi lleisio'r pryder hwn wrthych chi hefyd. Tybed sut rydych yn ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnewch chi ymrwymo, Weinidog, a'ch swyddogion, i roi ystyriaeth ofalus i ymatebion rhanddeiliaid o ganolbarth Cymru sydd wedi rhybuddio bod dogfen bolisi'r fframwaith datblygu drafft cyfredol yn methu mynd i'r afael â'r hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni?
Wel, ymgynghoriad drafft yw'r ddogfen gyfredol, fel y gwn fod Russell George yn gwybod. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben. Cawsom dros 1,000 o ymatebion iddo ac mae'r ymatebion hynny wrthi'n cael eu dadansoddi. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad ar ymatebion yr ymgynghoriad wedyn a byddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw. Felly, rwy'n cymryd bod y cwmni y mae'n sôn amdano wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad.
O ran pam rydym yn pwysleisio tai cymdeithasol, mae'r holl dystiolaeth yn dangos ein bod yn adeiladu digon o dai'r farchnad agored yng Nghymru. Yn amlwg, mae angen inni barhau i adeiladu cymaint â hynny yn y dyfodol, ond rydym filoedd yn brin o gartrefi cymdeithasol yn enwedig. Mae angen inni adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Nid ydym yn agos i gyrraedd hynny, er ein bod yn adeiladu digon o dai'r farchnad agored. Felly dyna'r pwyslais, er fy mod yn derbyn y pwynt a wna, sef, fel y dywedais mewn ymateb i Mohammad Asghar, fod angen inni sicrhau ein bod yn adeiladu'r math iawn o dŷ yn y lle iawn ar gyfer y bobl iawn. Felly mae yna nifer o bethau cymhleth.
Bwriedir hefyd i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gael ei ddarllen ochr yn ochr â 'Polisi Cynllunio Cymru', a bydd yn gwybod ein bod newydd ddechrau pasio Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) drwy'r Senedd, ac mae gan hwnnw drefniadau rhanbarthol penodol ynghylch cynllunio strategol, a fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi ynghylch materion gofodol ac ardaloedd penodol.
Felly, rwy'n derbyn y pwynt. Rydym yn edrych ar ymatebion yr ymgynghoriad ar hyn o bryd a chyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i rannu'r ymatebion hynny a'n hymateb iddynt gyda'r Cynulliad, byddaf yn gwneud hynny—yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd, yn ôl pob tebyg, Lywydd.