Cymorth i Gyn-filwyr

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:30, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Gwn fod hyn yn rhywbeth y bu gennych ddiddordeb ynddo ers amser ac rydych wedi dadlau'n gryf drosto. A chredaf eich bod yn llygad eich lle ei fod yn fater na ddylai fod yn ddadleuol—mae'n rhywbeth y dylai pob un ohonom falio yn ei gylch, a chydnabod pwysigrwydd cefnogi'r bobl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn y lluoedd arfog. Yn anffodus, nid yw'r enghraifft a roddwch, a phrofiad eich etholwr, yn un sy'n anghyfarwydd, ac mae'n stori rwyf wedi'i chlywed dro ar ôl tro wrth imi ymweld â'r gwahanol sefydliadau a grwpiau sy'n cefnogi ein cyn-filwyr. Rydych yn nodi enghraifft y VC Gallery yn Noc Penfro, sy'n gwneud gwaith rhagorol. Ac yn ddiweddar, cynhaliwyd ymarfer cwmpasu gennym, a fu'n edrych ar bethau, i geisio edrych ar yr hyn roeddem yn ei wneud ar hyn o bryd a lle roedd hynny'n gweithio, ond hefyd i nodi rhai o'r bylchau, ac mae cyfeirio yn un ohonynt. Felly, wrth inni symud ymlaen yn awr yn y flwyddyn newydd, rwy'n gobeithio y gallwn ystyried y materion hynny a godwyd, i geisio llenwi rhai o'r bylchau mewn gwirionedd. Roedd y pontio a'r cyfeirio yn un o'r pethau roedd pobl—. Dim ond gwybod ble i fynd i gael y gwasanaethau cymorth hynny, a sut y mae pobl yn nodi'n well pa bobl sy'n gyn-filwyr, a sicrhau bod y gefnogaeth iawn yno, ar waith, yn y lle iawn—. Ond os yw'r Aelod am i mi ymchwilio i'r enghraifft benodol yn fwy manwl, cysylltwch â ni, ac rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny ar ei rhan.