Cymorth i Gyn-filwyr

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:28, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ein cefnogaeth i gyn-filwyr y lluoedd arfog ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy'n byw yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi'i nodi yn ein hadroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mewn cydweithrediad â'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog a phartneriaid allweddol eraill, rydym yn parhau i adeiladu ar y gwaith pwysig hwn.